Dros y Pasg, ymgollwch ym myd natur drwy ddilyn y llwybrau cerdded a beicio ym Mharc Coedwig Afan – y lleoliad perffaith am ddiwrnod allan llawn hwyl i’r teulu.
Mae’r goedwig hardd hon yn Ne Cymru yn gartref i lwybrau beicio enwog, llwybrau cerdded gydag arwyddion a llwybrau beicio addas i’r teulu, y cyfan dan gefndir harddwch Cwm Afan.
Os ydych chi’n bwriadu treulio peth amser yn crwydro Parc Coedwig Afan dros y Pasg, dyma rai llefydd y gallwn eu hargymell i chi eu hychwanegu at eich amserlen!
Base Cymru
Wedi’i leoli yng Nghanolfan Ymwelwyr Cwm Afan, yng ddwfn ynghanol coedwig tal Parc Coedwig Afan, fe ddewch o hyd i Base Cymru.
Mae’r caffi’n croesawu cŵn ac mae ar agor bob dydd rhwng 10am a 4pm, gan weini dewis blasus o brydau cartref twym yn cynnwys y byrgyrs mwyaf blasus yn y Cwm, yn ogystal â choffi ffres, teisennod a llawer, llawer mwy!
P’un a ydych chi angen ychydig o egni ychwanegol cyn cychwyn ar eich antur, neu rywle i eistedd i lawr a chynhesu ar ôl eich taith gerdded wanwynol gyda’r teulu, mae Base Cymru’n lle perffaith i chi adnewyddu eich ynni.
Sied Feiciau Cwm Afan
Fyddai taith i Barc Coedwig Afan ddim yn gyflawn heb alw am rywbeth yn Sied Feiciau Cwm Afan gyntaf!
Mae wedi’i leoli’n agos at y Ganolfan Ymwelwyr ac mae Sied Feiciau Cwm Afan yn darparu ar gyfer eich holl anghenion llogi beiciau, gan ddarparu popeth o feiciau i blant i e-feiciau a beiciau mynydd gyda hongiad.
Mae ganddyn nhw weithdy gwasanaethu a thrwsio penodol, felly gallwch fynd ar y llwybrau’n hyderus yn gwybod fod y beic rydych wedi’i logi wedi cael gofal arbennig o dda. Maen nhw hefyd yn derbyn beiciau personol i’w gwasanaethu a’u trwsio, felly gallwch fynd â’ch beic eich hun am wasanaeth dros nos neu yn ystod y dydd, a’i gasglu i fynd ar y llwybrau pan fydd yn barod.
Os nad ydych chi’n hyderus ar y beic, neu os hoffech chi ddysgu sgil newydd yn ystod gwyliau’r Pasg, mae’r arbenigwyr yn Sied Feiciau Cwm Afan yn cynnig hyfforddiant beicio mynydd, gan eich helpu i gael y gorau o’ch beic ac o’ch ymweliad i’r rhan hyfryd hon o Gastell-nedd Port Talbot.
Hyfforddiant Campbell
Wedi’u lleoli yng Nghwm Afan, mae’r arbenigwyr yn Hyfforddiant Campbell yn cynnig hyfforddiant ar sgiliau beicio mynydd a reidiau dan hyfforddiant, gan eich helpu i adeiladu sgiliau a hyder.
Gydag arddull hyfforddi broffesiynol a chyfeillgar, mae’r tîm yn Hyfforddiant Campbell yn gweithio gyda grwpiau bach er mwyn sicrhau fod pob unigolyn yn teimlo’n weladwy ac wedi’i glywed, gan arwain at brofiad mwy boddhaus a phersonol.
Mae sesiynau y gellir eu bwcio yn cynnwys Little Rippers, Sgiliau Llwybrau Beicio Mynydd Ieuenctid, Cyflwyniad i Gwympiadau a Neidiau a sesiynau penodol i fenywod yn unig hefyd.
Cynyddwch eich hyder ar y beic dros y Pasg a threfnwch eich sesiwn gyda Hyfforddiant Campbell.
Canolfan Beicio Mynydd a Gwersyll Glyncorrwg
Ar ben uchaf Cwm Afan fe ddewch ar draws Canolfan Beicio Mynydd Glyncorrwg.
Yma gallwch gychwyn eich diwrnod prysur ar y llwybrau gyda diod twym a rhywbeth bach i’w fwyta yn y lleoliad poblogaidd, Caffi Cwtsh Corrwg.
Os ydych chi wedi cyrraedd y llwybrau yn annisgwyl ac yn sylweddoli nad ydych wedi dod â chyfarpar ar gyfer diwrnod llawn antur, gallwch logi beiciau a phrynu dillad awyr agored ac ategolion yn Afan A Blast – sydd hefyd yn cynnig gwasanaethau trwsio a gwasanaethu beiciau!
Nid lle i feicwyr mynydd brwd yn unig yw Canolfan Beicio Mynydd Glyncorrwg – mae’n berffaith ar gyfer unrhyw un sydd wrth eu bodd yn yr awyr agored. Os ydych chi eisiau ailgysylltu gyda natur ac ymgolli yn harddwch gwyllt yr awyr agored dros y Pasg, mae gwersyll gerllaw sy’n addas ar gyfer pebyll, carafanau a chartrefi modur, gyda chysylltiadau trydan ar gael.
Ar ôl diwrnod o fwynhau popeth sydd gan Barc Coedwig Afan i’w gynnig, ewch i gysgu dan orchudd o sêr a mwynhewch amser gwerthfawr fel teulu, heb bethau modern i dynnu eich sylw.
Dysgwch ragor am Ganolfan Beicio Mynydd a Gwersyll Glyncorrwg fan hyn.
Llwybrau Cerdded
Os ydy hi’n well gennych chi aros ar eich dwy droed yn hytrach na rhuthro o gwmpas ar ddwy olwyn, yna mae digon o lwybrau cerdded sy’n ymdroelli drwy harddwch Parc Coedwig Afan.
Mae’r teithiau cerdded yma’n amrywiol, gyda rhai hamddenol sy’n rhyw filltir o hyd ac eraill yn rai mwy heriol, hyd at ddeng milltir, lle bydd angen pacio picnic yn bendant! Mae’r teithiau cerdded i fod yn ymlaciol, gan ganiatáu i chi fwynhau’r golygfeydd a threulio amser gwerthfawr yn yr awyr agored – p’un a ydych chi’n cerdded ar eich pen eich hun neu fel gweithgaredd i’r teulu.
Mae’r mannau cychwyn ar gyfer y llwybrau cerdded yng Nghanolfan Ymwelwyr Parc Coedwig Afan, Maes Parcio Rhyslyn a Chanolfan Beicio Mynydd Glyncorrwg. Mae arwyddion ar hyd pob un o’r llwybrau, felly byddwch yn gallu ffeindio’ch ffordd ar hyd y daith.
Dewch o hyd i’n llwybrau fan hyn, gwisgwch eich esgidiau cerdded ac ewch allan dros y Pasg – bydd eich meddwl a’ch enaid yn diolch i chi am y profiad!
Os nad oedd Parc Coedwig Afan yn rhan o’ch cynlluniau ar gyfer y Pasg cyn darllen y blog yma, yna gobeithio’n wir ei fod erbyn hyn. Gydag amrywiaeth enfawr o weithgareddau ar gyfer pob oed a gallu, mae’r ardal arbennig hon yn lle perffaith i ailosod eich meddwl, ailgysylltu gyda natur a chreu atgofion gyda’r bobl rydych chi’n eu caru.
Cynlluniwch eich ymweliad fan hyn: https://afanforestpark.com/