Bu Castell-nedd Port Talbot yng nghanol pethau erioed. Dyma galon De Cymru, lle mae’r dwyrain trefol yn cwrdd â’r gorllewin gwledig.

Roedden ni yng nghanol y Chwyldro Diwydiannol. Ac efallai byddai rhai’n honni mai dyma lle cewch chi hyd i galon y genedl.

Os dringwch i fyny un o’n bryniau, cewch eich hun ar lwyfan, yn gwylio theatr naturiol yr wybren, y môr, y tir a’r bobl islaw. I un cyfeiriad, mae’r gweithwyr dur yn gwau eu ffordd trwy’r strydoedd i gyrraedd eu shifft nesaf. I’r llall, mae beicwyr mynydd yn gwibio i lawr disgyniadau serth yn y cymoedd, wrth eu bodd mewn braw. Yn y pellter, ar hyd yr arfordir, mae teuluoedd yn mwynhau llanast o hufen iâ ac yn oeri’u traed yn ymyl y dŵr.

Prin iawn yw’r lleoedd sy’n cynnig drama ac amrywiaeth fel a welir yma. Mae byd natur yn bodoli ochr yn ochr â gwaith dyn. Mae rhaeadrau’n tywallt i lawr i gwrdd â’r tonnau. Mae ein cymunedau’n ymfalchïo’n fawr yn ein treftadaeth ddiwydiannol, ond maen nhw’n gweithio’n galed i ysgrifennu pennod nesaf ein stori. Mae ein mynyddoedd a’n cymoedd, ein hafonydd a’n harfordir yn darparu maes chwarae antur naturiol ar gyfer ystod o weithgareddau. Mae ein dyffryn beicio mynydd yn un o’r mwyaf heriol, a chyffrous, yn y Deyrnas Unedig.

Mae rhywbeth am Gastell-nedd Port Talbot yn ysbrydoli pobl i greu pethau hardd yma. Mae’r cymdeithasau, y corau a’r bandiau a ffurfiwyd gan y glowyr a gweithwyr y ffowndri yn dal i ffynnu, er bod y diwydiannau wedi hen fynd. Mae’r doniau creadigol rydyn ni’n eu ‘hallforio’ fel Katherine Jenkins, Michael Sheen ac Anthony Hopkins i gyd yn sôn am eu ‘cartref’ yma.

Mae’r bobl sy’n byw, yn gweithio ac yn chwarae yma lawn gymaint yn rhan o’r ardal â’n tirweddau. Mae ein cymeriad digymar i’w weld ymhobman – cyfeillgar, di-flewyn ar dafod, a chwbl Gymreig.

#CalonDdramatig

  • Calon Beicio Mynydd

    Calon

    Beicio Mynydd

    Mae’r trac sengl ym Mharc Coedwig Afan yn llawn troeon, gwreiddiau, creigiau, ac mewn mannau yn frawychus o agored, felly mae wrth fodd selogion beicio mynydd. Mae’r llwybrau yma wedi cael eu torri o dirlun a fu gynt yng nghanol y pyllau glo, ond bellach mae’r cwm wedi cael ei drawsffurfio’n nefoedd i feicwyr.

    Dysgu Mwy
  • Calon Cerdded

    Calon

    Cerdded

    I ddod i’n nabod ni’n iawn, bydd angen i chi ddod allan o’ch car. Cerddwch o gwmpas, edrychwch ar y golygfeydd, a dewch i gwrdd â’r bobl (rydyn ni’n gyfeillgar iawn, addo). Yn fuan iawn, fe gewch chi syniad o’n hanfod ni – a’n tirlun.

    Dysgu Mwy
  • Calon De Wales

    Calon

    De Wales

    Edrychwch yn ofalus a chewch hyd i ysbryd cenedl. Mae popeth y mae pobl yn ei fwynhau ac yn ei ddisgwyl gan Gymru yn fyw yma yn sir Castell-nedd Port Talbot.

Tanysgrifio i’n Rhestr Bostio

Chwilio