1-2Km

Cwm Du a Phlanhigfa Glanrhyd

Mae modd cyrraedd y trysor cuddiedig hwn o gwm o’r Groes yng nghanol tref Pontardawe (mynediad gyferbyn y Dillwyn Arms) Dilynwch afon Cwm Clydach nes dringo grisiau ar y chwith sy’n arwain lan i hen ystâd Glanrhyd. Ewch ar hyd y llwybr cylchol o gwmpas yr adran uchaf hon, gan gadw llygad am y coed sbesimen trawiadol megis y gochwydden arfor enfawr, a blannwyd gan y teulu Gilbertson. Mae’r rhan fwyaf o’r ystâd, sy’n dyddio’n ôl i’r 1870au, wedi’i dymchwel erbyn hyn ac wedi troi’n ôl yn goetir eilaidd, ond mae olion o ddiddordeb hanesyddol ar ôl ac mae yn yr arfaeth i osod paneli esboniadol a gwella mynediad i’r nodweddion hyn a fydd yn creu hyd yn oed mwy o ddiddordeb i’r coetir amrywiol hwn.Gwylio Bywyd Gwyllt:
Yr amser gorau i weld planhigion blodeuol megis blodau’r gwynt, dail y beiblau a gwlydd melyn mair yw mis Mai. Yn y coed, gellir gweld heidiau o ditŵod gan gynnwys y titw penddu a’r titw cynffon-hir.

Cwm Du a Phlanhigfa Glanrhyd Read More »

Bird watching on eaglesbush valley.

Cwm Cryddan

Dynodwyd Cwm Cryddan, sy’n goetir derw gan mwyaf, yn warchodfa natur leol yn 2008. Mae’r llwybr hwn yn eich arwain trwy’r warchodfa natur ac ar hyd llwybr â choed bob ochr i’r Cimla, cyn troi o gwmpas i ddychwelyd i’r man cychwyn. Mae lle parcio cyfyngedig yng nghanol y warchodfa natur ar hyd llwybr tarmac neu, i’r rhai nad ydynt am adael y car yn y coetir, mae’n bosib parcio fel arfer ger y fynedfa ar yr Hen Heol. D.S. Mae twmpathau cyflymder ar yr heol hon sy’n eithaf uchel, felly cymerwch ofal os oes gennych gar isel. Mae’r daith gerdded yn dechrau trwy ddilyn Nant Cryddan sy’n ymddolennu trwy’r coetir. Dilynwch yr heol cyhyd â phosib nes gweld mynedfa i lwybr sy’n rhannol guddiedig rhwng dau adeilad ym mhen pellaf y coetir. Bydd y llwybr hwn, sydd â’r enw addas Heol Gerrig, cyn ymuno â thrac gwledig gyda golygfeydd dymunol dros y caeau a’r bryniau yn y pellter. Mae’r darn byr trwy’r strydoedd yn werth ei wneud er mwyn creu dolen gylchog sy’n mynd â chi’n ôl ar hyd llwybr caregog i’r coetir.Gwylio Bywyd Gwyllt: Mae coetir Cwm Cryddan yn hafan i anifeiliaid a phlanhigion fel ei gilydd. Cadwch lygad am ysblander lliwgar clychau’r gog a marddanadl melyn wrth ochr y llwybrau yn y gwanwyn. Ymhlith yr adar i chwilio amdanynt mae siglennod llwyd yn hopian ger y nant, dringwyr bach yn gwneud eu ffordd lan boncyff coed a chnocellau brith mwyaf yn cadw eu sŵn nodweddiadol wrth ddyrnu ar y coed.

Cwm Cryddan Read More »

Dolydd a Choedydd y Banwen

NGan gychwyn o weithdy Dove, cymerwch eich amser i archwilio harddwch Dolydd a Choedydd y Banwen. Mae’r rhwydwaith o lwybrau tarmac a graean yn golygu bod modd crwydro ar hyd yr ardal. Ymhlith y dolydd dewch hyd i feillion coch a gwyn, mintys y dŵr, milddail a thegeiriannau. Mae’n gynefin gwych ar gyfer pili palod a phryfed peillio, felly ewch gan bwyll er mwyn gweld y cyfan!
Wrth fynd i’r coetir ifanc, cadwch lygad ar agor am ffyngau ac arwyddion bywyd gwyllt. Mae boncathod yn aml i’w gweld yn cylchdroi uwchben, tra bod y cyfuniad o fieri, danadl a choed brodorol yn creu cynefin gwych ar gyfer adar, pryfed a mamaliaid.
ULL

Dolydd a Choedydd y Banwen Read More »

Rhaeadr Melin-cwrt

Saif Gwarchodfa Natur Melin-cwrt mewn cwm cul â llethrau serth sydd dan orchudd clychau’r gog yn y gwanwyn. Er mai taith gerdded hawdd yw hon, mae angen bod yn ofalus wrth gerdded ar hyd y llwybr sy’n dringo’n raddol hyd at y rhaeadr 80tr o uchder, a baentiwyd yn nodedig gan Turner ym 1794. Ceir un o’r gweithfeydd haearn sydd wedi’u cadw orau yng Nghymru ar lethr ogleddol y warchodfa. Agorwyd y gwaith ym 1708 am 100 mlynedd o gynhyrchu haearn, gan ddefnyddio llif y dŵr i bweru’r gwaith. Mae’r lleithder uchel sy’n cael ei greu gan y rhaeadr yn amgylchedd perffaith ar gyfer rhedyn yn benodol, gyda mwy nag 20 rhywogaeth wedi’u cofnodi yn y safle.
Gwylio Bywyd Gwyllt: Mae rhedynach teneuwe Tunbridge eiddil i’w gweld yma. Cadwch lygad am y coed lle bydd cyfle da i chi weld y tingoch, y gwybedog brith a delor y cnau yn yr haf.

Rhaeadr Melin-cwrt Read More »

old parish road

Llwybr Hen Heol y Plwyf

Dilynwch y llwybr islaw mynedfa’r ganolfan ymwelwyr, trwy’r isffordd ac ar draws y llwybr beicio. Mae’r hen lwybr yn mynd â chi trwy’r coetir derw gyda golygfeydd o Gwm Afan a’r afon oddi danoch. Nes creu’r brif ffordd ym 1920, dyma oedd hen heol y plwyf i Gastell-nedd, gan ddyddio’n ôl i’r 11eg ganrif. Mae enghreifftiau da o hyd o waliau cerrig gwreiddiol ar hyd y ffordd, wedi’u gorchuddio’n rhamantaidd â mwsogl erbyn hyn. Rydych yn dychwelyd ar hyd rhan o’r llwybr beicio. I’r rhai y mae’n well ganddynt arwyneb tarmac, gallai’r adran hon fod yn ddewis arall i’r hen lwybr, gan ddilyn y llwybr beicio i’r ddau gyfeiriad. I edmygwyr trenau, cyn dychwelyd o dan yr isffordd, ewch ymlaen ychydig ar hyd y llwybr beicio lle byddwch yn dod ar draws hen orsaf reilffordd Cynon Halt.
Gwylio Bywyd Gwyllt: Mae ymylon y coetir yn gynefinoedd gwych i amrywiaeth o rywogaethau, gan gynnwys ieir bach yr haf megis brith y coed, y fantell paun a’r fantell goch. Ymhlith adar y coetir mae’r titw tomos las a delor y cnau.

Llwybr Hen Heol y Plwyf Read More »

green woodpecker

Geo-lwybr Cwm Gwrelych

Taith gerdded hyfryd gyda golygfeydd hardd lle gallwch gerdded yn ôl mewn amser a darganfod treftadaeth ddiwydiannol gyfoethog a daeareg ryngwladol bwysig y safle unigryw hwn. Yn gorwedd ar ymyl maes glo de Cymru, mae’r cwm cudd hwn yn rhoi mynediad i greigiau sydd i’w gweld fel arfer yn ddwfn o dan gymoedd de Cymru’n unig. Gallwch ddarganfod gwythiennau glo, creigiau llawn haearn a ffosiliau rhyfeddol o blanhigion sy’n adrodd hanes amgylcheddau hynafol.
Dechreuwch ym mhentref Pont Walby a cherdded tua’r de, gan fynd o dan y draphont. Yna mae’n dilyn yr afon lan y cwm trwy geunant cul dan gysgod carreg fawr Farewell Rock. Mae’r llwybr yn crwydro oddi wrth yr afon ei hun i archwilio’r nodweddion daearegol trawiadol, gan eich arwain ar hyd cyfres o baneli dehongli i dynnu’ch sylw at fannau ychwanegol o ddiddordeb. Gwylio Bywyd Gwyllt: Mae’r ardal yn gartref i gyfoeth o fywyd gwyllt megis madfallod, nadroedd defaid a chnocellau gwyrddion.

Geo-lwybr Cwm Gwrelych Read More »

Ffen Pant-y-sais

Gellir cael mynediad i’r llwybr hwn yn uniongyrchol o’r palmant ar hyd y brif ffordd. Taith gerdded fer a hawdd yw hon, gan ddilyn y llwybr estyll trwy warchodfa natur leol gyntaf Castell-nedd Port Talbot. Hefyd yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, mae Ffen Pant-y-sais yn un o’r ffeniau gorau sy’n weddill yn ne Cymru ac mae’r mynediad hwylus iddo’n ei wneud yn lleoliad delfrydol i archwilio un o’r mannau gorau yng Nghastell-nedd Port Talbot ar gyfer bywyd gwyllt. Wedi datblygu’n naturiol ar hen gwrs afon Nedd, mae’r safle’n wlyptir cymhleth ac amrywiol sy’n cynnwys nifer o gymunedau planhigion nodweddiadol. Yn ogystal â’r planhigion, un nodwedd o’r safle yw’r amrywiaeth helaeth o greaduriaid di-asgwrn-cefn prin. O sylw penodol mae corryn rafft y ffen, sydd wedi ymaddasu i’w ddull dyfrol o fyw i’r fath raddau fel y gall symud ar draws wyneb y dŵr er gwaethaf ei faint trawiadol (mae oedolyn yn tyfu i fesur 7cm ar ei draws). Mae’r corryn i’w weld mewn 2 leoliad arall yn y DU yn unig, ac felly rhoddwyd gwarchodaeth gyfreithiol lawn iddo o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981. Os hoffech chi estyn eich taith gerdded, mae mynediad i lwybr halio Camlas Tennant sy’n mynd heibio i Abaty Nedd a lan tuag at Raeadr Aberdulais.

Ffen Pant-y-sais Read More »