NPT logo

8Km +

richard burton trail walk

Llwybr Richard Burton

Mae’r daith gerdded hon yn cynnig cymysgedd diddorol o ddiwylliant, hanes a golygfeydd trawiadol. Dechreuwch ym maes parcio Rhyslyn ac ewch ar hyd y ffordd uchaf, gan droi i’r chwith dros draphont, un o nodweddion y dirwedd ynddi’i hun. Mae’r rhan fwyaf o’r daith gerdded yn hawdd ac yn hygyrch i bawb, heblaw am ychydig o risiau sy’n eich arwain i lawr heibio i’r ysgol i’r ffordd islaw. Yn y lle hwn mae modd osgoi troi i’r chwith ac yna i’r chwith eto i’r llwybr beicio sy’n gallu cael ei ddilyn i’r fainc bortreadau a ddangosir yn y daflen hon.
Mae man geni Richard Burton yn nodweddiadol o’r Cymoedd yn eu crynswth. Ceir paneli gwybodaeth ar hyd y llwybr hwn gan nodi pwyntiau diddorol am Richard Burton, ei blentyndod a’i yrfa. Er iddo symud i Dai-bach yn ddwy flwydd oed, mae Pontrhydyfen yn bwysig am fod yn fan geni iddo ac roedd yr actor yn ymweld yn aml â’r pentref yn ystod ei yrfa Hollywood.
Gwylio Bywyd Gwyllt: Ar hyd y llwybr ceir olion hen weithfeydd glo sydd bellach yn hafan i fywyd gwyllt. Gwelir rhywogaethau arloesol o blanhigion, yn enwedig mwsoglau, ar hyd y daith gyfan. Mae planhigion diddorol yn cynnwys meddyg y bugail a thegeirian-y-gors deheuol. Yn yr haf, mae modd gweld ieir bach yr haf megis gweirlöyn y glaw.

Gyfylchi Ridgetop Trail

Llwybr Esgair Gyfylchi

Dilynwch ffyrdd coedwig a llwybrau cerrig i hen gapel y Bedyddwyr yng Ngyfylchi ac adfeilion Nant-y-bar, yr oedd ei defaid yn darparu llaeth ar gyfer y cwm cyfan ar un adeg. Mae’r llwybr yn eithaf serth mewn mannau felly argymhellir esgidiau cerdded a dillad dwrglos. Mae’r rhan fwyaf o’r daith gerdded yn mynd trwy goedwigoedd conwydd, felly byddwch yn wyliadwrus a chadwch lygad am adar sy’n arbenigo mewn bwydo ar gonwydd, megis gylfingroesion a philaod gwyrddion. Mewn llennyrch agored ac ar hyd rhodfeydd, gallech weld ieir bach yr haf megis y fantell paun.

pontardawe in South Wales

Pontardawe – Ystalyfera

Yn ei phen deheuol, mae’r daith gerdded yn dechrau ar faes hamdden Pontardawe. Dilynwch y llwybr glan afon i’r dde am ychydig nes i chi groesi’r bont dros afon Tawe. Ar yr ochr arall dilynwch y llwybr sydd bellach yn dilyn Llwybr Beicio Cenedlaethol 43, llwybr beicio sy’n gyswllt di-dor rhwng Ystalyfera a chanol dinas Abertawe. Mae wyneb tarmac ar y rhan fwyaf o’r llwybr hwn, gan gynnig llwybr hawdd felly sy’n hygyrch i bawb. Mae’r llwybr beicio yn ymestyn tuag at Ystalyfera gan ddilyn llwybr hen reilffordd. Taith gerdded ddymuno yw hon sy’n dilyn glannau afon Tawe ac yn mynd heibio i lethrau coediog deniadol. Mae’r daith gerdded yn gorffen lle gallwch groesi’r afon i’r ochr arall eto, lle mae angen i chi ddewis fynd yn ôl i Bontardawe neu wneud trefniadau dychwelyd eraill. Ewch tua’r gogledd i gyrraedd Ystalyfera neu mae lle parcio ar ochr chwith y bont.
Gwylio Bywyd Gwyllt: Yn ogystal â’r adar coetir ac afon cyffredin di-rif, megis y ji-binc a bronwen y dŵr, efallai y byddwch yn ddigon ffodus i weld hwyaden ddanheddog ar y daith gerdded hon. O bryd i’w gilydd mae’r adar trawiadol hyn yn bridio yng Nghastell-nedd Port Talbot ac yn gaeafu’n rheolaidd ar ein hafonydd.

Swansea valley wildlife walk pathway

Llwybr Bywyd Gwyllt Cwm Tawe

Dilynwch y logo llwybrau bywyd gwyllt ar y gylchdaith hamddenol hon. Ewch ar lwybr halio’r gamlas i gyfeiriad gogleddol. Adeiladwyd y gamlas yn y 1790au ac ar y pryd roedd yn ymestyn yr holl ffordd o Abertawe i’r Hen Neuadd, ger Abercraf. Oherwydd ei graddiant serth, adeiladwyd 36 o lociau ar ei hyd er mwyn iddi gyrraedd yr uchder angenrheidiol. Rhoddwyd rhan o’r gamlas dan ddaear pan adeiladwyd y ffordd osgoi ger Godre’r-graig a, chan gydwybod y diddordeb bywyd gwyllt ar y safle, dynodwyd yr adran fwyaf gogleddol yn warchodfa natur leol yn ddiweddarach. Mae sawl nodwedd y gamlas wedi para, megis pontydd carreg a lociau, sy’n rhoi diddordeb hanesyddol a bywyd gwyllt i’r llwybr. Rydych yn dychwelyd ar hyd y Llwybr Beicio Cenedlaethol (llwybr 43) trwy Goed Cwm Tawe ac yn ôl i Bontardawe.
Gwylio Bywyd Gwyllt: Cadwch lygad am aderyn bach byrdew o’r enw bronwen y dŵr yn clwydo ar gerrig yn yr afon yn barod i blymio i’r dŵr i chwilio am larfau pryfed maent yn bwydo arnynt. Gellir gweld gweision neidr o’r enw ymerawdwyr ger rhannau’r gamlas sy’n araf eu llif. Os ydych yn lwcus iawn, byddwch yn gweld olion dyfrgi ar groesfannau dros y gamlas.

Neath Canal resolven- Glynneath

Camlas Nedd Resolfen – Glyn-nedd

Llwybr gwastad dymunol iawn, yn addas i bawb. Dechrau yn y maes parcio ger y gylchfan ar yr A465 yn Resolfen, gan gerdded lan Cwm Nedd. Mae’r llwybr ar hyd Camlas Nedd yn mynd heibio i nifer o lociau ar ei ffordd trwy’r cwm. Adeiladwyd y gamlas ddiwedd y 18fed ganrif er mwyn cludo deunyddiau o ddiwydiannau a mwyngloddiau cynnar y cwm. Roedd yn cysylltu â Chamlas Tennant yn Aberdulais a’r camlesi hyn oedd y prif dull o gludiant nes i’r rheilffordd gyrraedd ym 1851. Mae gwaith adfer sensitif dros y blynyddoedd wedi creu cyfuniad o ddiddordeb hanesyddol â’r bywyd gwyllt toreithiog sy’n gysylltiedig yn aml â chamlesi. Roedd yr ardal wedi ysbrydoli Alexander Cordell, ac roedd yn gefndir i’w lyfr ‘Song of the Earth’, y trydydd yn ei drioleg am Gymru’r 19eg ganrif. Ar ôl cyrraedd yr odynau calch 4 cilometr i’r gogledd, rhowch amser i archwilio’r ardal wych o’ch cwmpas cyn dychwelyd i’r man cychwyn. Gwylio Bywyd Gwyllt: Cadwch lygad am weision y neidr lliwgar o’r enw’r ymerawdwyr yn gwibio dros y dŵr, y llafnlys mawr gyda’i flodau melyn, a glas y dorlan ar ganghennau.

Llwybr Arfordir Cymru – Mynydd Dinas

Mae’r gylchdaith hon yn cynnwys rhan o lwybr arfordir yr iseldir trwy Aberafan a Phort Talbot a llwybr arfordir yr ucheldir dros Fynydd Dinas. Ar un adeg roedd Aberafan yn borthladd môr prysur a ddefnyddid i allforio glo a deunyddiau crai; cyrchfan glan môr traddodiadol ydyw erbyn hyn gyda thraeth tywodlyd 5km a phromenâd cyfoes gyda golygfa dros Fae Abertawe. Mae sawl maes parcio ar gael gyferbyn â’r glannau. Trowch i’r chwith i’r promenâd, gan ddilyn llwybr yr arfordir o gwmpas ymyl y dociau a thrwy Ganolfan Siopa Port Talbot. Gan adael llwybr arfordir yr iseldir (cyfeirbyst glas), ymunwch â llwybr arfordir yr ucheldir (cyfeirbyst coch) yn yr ardal hon. Mae’r ddringfa lan Mynydd Dinas, lle roedd unwaith fryngaer yr oes haearn, yn werth yr ymdrech am y golygfeydd dros Fae Abertawe a’r dociau a thros y môr i Ddyfnaint. Ar y ffordd yn ôl, byddwch yn cerdded tuag at afon Nedd a Bae Baglan, gan ymuno â llwybr yr iseldir unwaith eto. Byddwch yn mynd heibio i Dŵr Brunel wedi’i adnewyddu a fu unwaith yn rhan o hen ddociau Llansawel. Agorwyd y tŵr ym 1861 ar gyfer y gwaith tunplat, haearn a dur a ddatblygodd yn yr ardal yn y chwyldro diwydiannol.Gwylio Bywyd Gwyllt: Mae llamidyddion i’w gweld o bryd i’w gilydd yn agos at y promenâd. Mae cornchwiglod, gyda’u galwad ‘pî-wit’, i’w gweld yn aml ar safleoedd tir llwyd mewndirol yn ystod y tymor bridio.