Pontardawe

Cwm Du a Phlanhigfa Glanrhyd

Mae modd cyrraedd y trysor cuddiedig hwn o gwm o’r Groes yng nghanol tref Pontardawe (mynediad gyferbyn y Dillwyn Arms) Dilynwch afon Cwm Clydach nes dringo grisiau ar y chwith sy’n arwain lan i hen ystâd Glanrhyd. Ewch ar hyd y llwybr cylchol o gwmpas yr adran uchaf hon, gan gadw llygad am y coed sbesimen trawiadol megis y gochwydden arfor enfawr, a blannwyd gan y teulu Gilbertson. Mae’r rhan fwyaf o’r ystâd, sy’n dyddio’n ôl i’r 1870au, wedi’i dymchwel erbyn hyn ac wedi troi’n ôl yn goetir eilaidd, ond mae olion o ddiddordeb hanesyddol ar ôl ac mae yn yr arfaeth i osod paneli esboniadol a gwella mynediad i’r nodweddion hyn a fydd yn creu hyd yn oed mwy o ddiddordeb i’r coetir amrywiol hwn.Gwylio Bywyd Gwyllt:
Yr amser gorau i weld planhigion blodeuol megis blodau’r gwynt, dail y beiblau a gwlydd melyn mair yw mis Mai. Yn y coed, gellir gweld heidiau o ditŵod gan gynnwys y titw penddu a’r titw cynffon-hir.

Cwm Du a Phlanhigfa Glanrhyd Read More »

Llwybr Trac Trotian

Mae’r daith gerdded gylchol hon yn enghraifft wych o sut mae hen ardaloedd diwydiannol wedi cael eu dychwelyd i fyd natur. Mae’r tirlun yn y fan hon wedi cael ei drawsnewid o ddu’r glo i wyrdd o fewn cenhedlaeth, a bellach mae bywyd gwyllt yn ffynnu mewn mannau lle bu glofeydd. Cychwynnwch o faes parcio Heol Llwyncelyn. Trowch i’r chwith i’r llwybr troed yn union heibio i’r afon sydd y tu ôl i chi, a dilynwch yr arwyddion cyfeirbwynt mewn cylch clocwedd. Ar y dde, mae’r Trac Trotian yn enghraifft wirioneddol o lwyddiant cymunedol, gan fod hen domen wastraff a wastatawyd wedi cael ei throi’n gylch rasio harnais o’r radd flaenaf. Trowch i’r dde a dilyn Heol Hir / Upper Colbren Road am ychydig dros 300m cyn anelu i’r dde eto a dilyn yr arwyddion cyfeirbwynt yn ôl i’r maes parcio.

Ar hyd y ffordd fe ewch heibio i amrywiaeth o gynefinoedd diddorol: coetir, tir llwyd a glaswelltir, i gyd yn cael eu rheoli’n ofalus i greu bioamrywiaeth cyfoethog.

Gwylio Bywyd Gwyllt: Bydd madfallod yn torheulo ar gerrig cynnes mewn ardaloedd tir llwyd, wrth i’r nico fforio yn hadau cribau’r pannwr a’r bengaled. Mae blodau fel clychau’r gog yn doreithiog ymhlith y coed yn y gwanwyn, ac yn ddiweddarach yn yr haf gallwch chi fwynhau cegaid o fefus gwyllt.

Llwybr Trac Trotian Read More »

Taith Gerdded Cilybebyll

Cylchdaith ddymunol iawn yw hon trwy goed a dolydd, gan fynd heibio i bentrefan cysglyd Cilybebyll gyda’i eglwys blwyf hynafol. Gan ddechrau yn Rhodfa Ashwood, trowch i lawr y lôn fach, gan ddilyn y cyfeirbyst ar y ffordd. Mae’r ffordd yn ymlwybro trwy goetir Coed Cwm Tawe, a fu unwaith yn rhan o Ystâd y Plas ac a oedd yn cael ei ddefnyddio fel ardal i hela helwriaeth. Mae’r coetir yn cynnwys digon o diddordeb gyda drifftiau glo niferus, enghreifftiau gwych o waliau cerrig sychion a nentydd deniadol. Wrth i chi adael y coetir, mae’r llwybr yn dringo lan tuag at Gilybebyll, gyda golygfeydd dros Gwm Tawe’n ymagor o’ch blaen. Mae’n werth ymweld ag Eglwys Sant Ioan yng Nghilybebyll sy’n dyddio’n ôl i’r 13eg ganrif. Mae’r tŵr yn Normanaidd, ond cafodd gweddill yr eglwys ei adfer ym 1869. Gwylio Bywyd Gwyllt: Mae gwrychoedd, ymylon caeau a glaswelltir gwlyb yn cynnwys planhigion megis blodau taranau, briwlys y gwrych a blodau’r brain. Blodyn llefrith yw’r planhigyn bwyd ar gyfer larfa’r gwyn blaen oren a gellir gweld yr oedolion yn y gwanwyn cynnar. Cadwch lygad am adar y to yn y gwrychoedd.

Taith Gerdded Cilybebyll Read More »

Pontardawe – Ystalyfera

Yn ei phen deheuol, mae’r daith gerdded yn dechrau ar faes hamdden Pontardawe. Dilynwch y llwybr glan afon i’r dde am ychydig nes i chi groesi’r bont dros afon Tawe. Ar yr ochr arall dilynwch y llwybr sydd bellach yn dilyn Llwybr Beicio Cenedlaethol 43, llwybr beicio sy’n gyswllt di-dor rhwng Ystalyfera a chanol dinas Abertawe. Mae wyneb tarmac ar y rhan fwyaf o’r llwybr hwn, gan gynnig llwybr hawdd felly sy’n hygyrch i bawb. Mae’r llwybr beicio yn ymestyn tuag at Ystalyfera gan ddilyn llwybr hen reilffordd. Taith gerdded ddymuno yw hon sy’n dilyn glannau afon Tawe ac yn mynd heibio i lethrau coediog deniadol. Mae’r daith gerdded yn gorffen lle gallwch groesi’r afon i’r ochr arall eto, lle mae angen i chi ddewis fynd yn ôl i Bontardawe neu wneud trefniadau dychwelyd eraill. Ewch tua’r gogledd i gyrraedd Ystalyfera neu mae lle parcio ar ochr chwith y bont.
Gwylio Bywyd Gwyllt: Yn ogystal â’r adar coetir ac afon cyffredin di-rif, megis y ji-binc a bronwen y dŵr, efallai y byddwch yn ddigon ffodus i weld hwyaden ddanheddog ar y daith gerdded hon. O bryd i’w gilydd mae’r adar trawiadol hyn yn bridio yng Nghastell-nedd Port Talbot ac yn gaeafu’n rheolaidd ar ein hafonydd.

Pontardawe – Ystalyfera Read More »

Swansea valley wildlife walk

Llwybr Bywyd Gwyllt Cwm Tawe

Dilynwch y logo llwybrau bywyd gwyllt ar y gylchdaith hamddenol hon. Ewch ar lwybr halio’r gamlas i gyfeiriad gogleddol. Adeiladwyd y gamlas yn y 1790au ac ar y pryd roedd yn ymestyn yr holl ffordd o Abertawe i’r Hen Neuadd, ger Abercraf. Oherwydd ei graddiant serth, adeiladwyd 36 o lociau ar ei hyd er mwyn iddi gyrraedd yr uchder angenrheidiol. Rhoddwyd rhan o’r gamlas dan ddaear pan adeiladwyd y ffordd osgoi ger Godre’r-graig a, chan gydwybod y diddordeb bywyd gwyllt ar y safle, dynodwyd yr adran fwyaf gogleddol yn warchodfa natur leol yn ddiweddarach. Mae sawl nodwedd y gamlas wedi para, megis pontydd carreg a lociau, sy’n rhoi diddordeb hanesyddol a bywyd gwyllt i’r llwybr. Rydych yn dychwelyd ar hyd y Llwybr Beicio Cenedlaethol (llwybr 43) trwy Goed Cwm Tawe ac yn ôl i Bontardawe.
Gwylio Bywyd Gwyllt: Cadwch lygad am aderyn bach byrdew o’r enw bronwen y dŵr yn clwydo ar gerrig yn yr afon yn barod i blymio i’r dŵr i chwilio am larfau pryfed maent yn bwydo arnynt. Gellir gweld gweision neidr o’r enw ymerawdwyr ger rhannau’r gamlas sy’n araf eu llif. Os ydych yn lwcus iawn, byddwch yn gweld olion dyfrgi ar groesfannau dros y gamlas.

Llwybr Bywyd Gwyllt Cwm Tawe Read More »