2-4 Hours

Llwybr Richard Burton

Mae’r daith gerdded hon yn cynnig cymysgedd diddorol o ddiwylliant, hanes a golygfeydd trawiadol. Dechreuwch ym maes parcio Rhyslyn ac ewch ar hyd y ffordd uchaf, gan droi i’r chwith dros draphont, un o nodweddion y dirwedd ynddi’i hun. Mae’r rhan fwyaf o’r daith gerdded yn hawdd ac yn hygyrch i bawb, heblaw am ychydig o risiau sy’n eich arwain i lawr heibio i’r ysgol i’r ffordd islaw. Yn y lle hwn mae modd osgoi troi i’r chwith ac yna i’r chwith eto i’r llwybr beicio sy’n gallu cael ei ddilyn i’r fainc bortreadau a ddangosir yn y daflen hon.
Mae man geni Richard Burton yn nodweddiadol o’r Cymoedd yn eu crynswth. Ceir paneli gwybodaeth ar hyd y llwybr hwn gan nodi pwyntiau diddorol am Richard Burton, ei blentyndod a’i yrfa. Er iddo symud i Dai-bach yn ddwy flwydd oed, mae Pontrhydyfen yn bwysig am fod yn fan geni iddo ac roedd yr actor yn ymweld yn aml â’r pentref yn ystod ei yrfa Hollywood.
Gwylio Bywyd Gwyllt: Ar hyd y llwybr ceir olion hen weithfeydd glo sydd bellach yn hafan i fywyd gwyllt. Gwelir rhywogaethau arloesol o blanhigion, yn enwedig mwsoglau, ar hyd y daith gyfan. Mae planhigion diddorol yn cynnwys meddyg y bugail a thegeirian-y-gors deheuol. Yn yr haf, mae modd gweld ieir bach yr haf megis gweirlöyn y glaw.

Llwybr Richard Burton Read More »

Pontardawe – Ystalyfera

Yn ei phen deheuol, mae’r daith gerdded yn dechrau ar faes hamdden Pontardawe. Dilynwch y llwybr glan afon i’r dde am ychydig nes i chi groesi’r bont dros afon Tawe. Ar yr ochr arall dilynwch y llwybr sydd bellach yn dilyn Llwybr Beicio Cenedlaethol 43, llwybr beicio sy’n gyswllt di-dor rhwng Ystalyfera a chanol dinas Abertawe. Mae wyneb tarmac ar y rhan fwyaf o’r llwybr hwn, gan gynnig llwybr hawdd felly sy’n hygyrch i bawb. Mae’r llwybr beicio yn ymestyn tuag at Ystalyfera gan ddilyn llwybr hen reilffordd. Taith gerdded ddymuno yw hon sy’n dilyn glannau afon Tawe ac yn mynd heibio i lethrau coediog deniadol. Mae’r daith gerdded yn gorffen lle gallwch groesi’r afon i’r ochr arall eto, lle mae angen i chi ddewis fynd yn ôl i Bontardawe neu wneud trefniadau dychwelyd eraill. Ewch tua’r gogledd i gyrraedd Ystalyfera neu mae lle parcio ar ochr chwith y bont.
Gwylio Bywyd Gwyllt: Yn ogystal â’r adar coetir ac afon cyffredin di-rif, megis y ji-binc a bronwen y dŵr, efallai y byddwch yn ddigon ffodus i weld hwyaden ddanheddog ar y daith gerdded hon. O bryd i’w gilydd mae’r adar trawiadol hyn yn bridio yng Nghastell-nedd Port Talbot ac yn gaeafu’n rheolaidd ar ein hafonydd.

Pontardawe – Ystalyfera Read More »

penrhys trail flowers

Llwybr Penrhys

Uchafbwyntiau’r llwybr hwn yw golygfeydd syfrdanol dros Gwm Afan a phentref Pontrhydyfen.
O faes parcio Rhyslyn, dilynwch y ffordd yn ôl ychydig tua Phontrhydyfen a chymerwch lwybr sy’n dringo lan i’r dde uwchben y ffordd. Mae dringfa serth 180 metr lan y llwybr hwn i’r brig lle mae’n cwrdd â’r heol wledig a fydd yn eich arwain dros y llechwedd. Mae’r heol yn parhau’n uniongyrchol i adfeilion Capel Gyfylchi, ond mae’r llwybr argymelledig yn troi i’r dde oddi ar yr heol i ddringo’n raddol i’r olygfan ac o gwmpas i’r capel. Credir bod y capel hwn eisoes yn adfail erbyn canol y 18fed ganrif, ond fe’i hailadeiladwyd ym 1775 gan glerigwr Anglicanaidd lleol. Parhâi’n ganolfan Fethodistaidd bwysig nes ei ddisodli gan gapel ym Mhontrhydyfen ym 1826. Mae llethr serth i lawr i’r maes parcio.
Gwylio Bywyd Gwyllt: Mae’r tirlun deinamig hwn yn cynnig llawer o gyfleoedd ar gyfer rhywogaethau megis troellwyr mawrion ac ymlusgiaid. Mae ardaloedd mwy parhaol wedi’u cytrefu gan rug. Gellir gweld y llinos bengoch yn y planhigfeydd conwydd.

Llwybr Penrhys Read More »

Swansea valley wildlife walk

Llwybr Bywyd Gwyllt Cwm Tawe

Dilynwch y logo llwybrau bywyd gwyllt ar y gylchdaith hamddenol hon. Ewch ar lwybr halio’r gamlas i gyfeiriad gogleddol. Adeiladwyd y gamlas yn y 1790au ac ar y pryd roedd yn ymestyn yr holl ffordd o Abertawe i’r Hen Neuadd, ger Abercraf. Oherwydd ei graddiant serth, adeiladwyd 36 o lociau ar ei hyd er mwyn iddi gyrraedd yr uchder angenrheidiol. Rhoddwyd rhan o’r gamlas dan ddaear pan adeiladwyd y ffordd osgoi ger Godre’r-graig a, chan gydwybod y diddordeb bywyd gwyllt ar y safle, dynodwyd yr adran fwyaf gogleddol yn warchodfa natur leol yn ddiweddarach. Mae sawl nodwedd y gamlas wedi para, megis pontydd carreg a lociau, sy’n rhoi diddordeb hanesyddol a bywyd gwyllt i’r llwybr. Rydych yn dychwelyd ar hyd y Llwybr Beicio Cenedlaethol (llwybr 43) trwy Goed Cwm Tawe ac yn ôl i Bontardawe.
Gwylio Bywyd Gwyllt: Cadwch lygad am aderyn bach byrdew o’r enw bronwen y dŵr yn clwydo ar gerrig yn yr afon yn barod i blymio i’r dŵr i chwilio am larfau pryfed maent yn bwydo arnynt. Gellir gweld gweision neidr o’r enw ymerawdwyr ger rhannau’r gamlas sy’n araf eu llif. Os ydych yn lwcus iawn, byddwch yn gweld olion dyfrgi ar groesfannau dros y gamlas.

Llwybr Bywyd Gwyllt Cwm Tawe Read More »

kingfisher bird

Camlas Nedd Resolfen – Glyn-nedd

Llwybr gwastad dymunol iawn, yn addas i bawb. Dechrau yn y maes parcio ger y gylchfan ar yr A465 yn Resolfen, gan gerdded lan Cwm Nedd. Mae’r llwybr ar hyd Camlas Nedd yn mynd heibio i nifer o lociau ar ei ffordd trwy’r cwm. Adeiladwyd y gamlas ddiwedd y 18fed ganrif er mwyn cludo deunyddiau o ddiwydiannau a mwyngloddiau cynnar y cwm. Roedd yn cysylltu â Chamlas Tennant yn Aberdulais a’r camlesi hyn oedd y prif dull o gludiant nes i’r rheilffordd gyrraedd ym 1851. Mae gwaith adfer sensitif dros y blynyddoedd wedi creu cyfuniad o ddiddordeb hanesyddol â’r bywyd gwyllt toreithiog sy’n gysylltiedig yn aml â chamlesi. Roedd yr ardal wedi ysbrydoli Alexander Cordell, ac roedd yn gefndir i’w lyfr ‘Song of the Earth’, y trydydd yn ei drioleg am Gymru’r 19eg ganrif. Ar ôl cyrraedd yr odynau calch 4 cilometr i’r gogledd, rhowch amser i archwilio’r ardal wych o’ch cwmpas cyn dychwelyd i’r man cychwyn. Gwylio Bywyd Gwyllt: Cadwch lygad am weision y neidr lliwgar o’r enw’r ymerawdwyr yn gwibio dros y dŵr, y llafnlys mawr gyda’i flodau melyn, a glas y dorlan ar ganghennau.

Camlas Nedd Resolfen – Glyn-nedd Read More »