Mae’r cymdeithasau, y corau a’r bandiau a ffurfiwyd gan y glowyr a’r gweithwyr ffowndri yn dal i ffynnu er bod y diwydiannau wedi hen ddiflannu. Yr ardal hon oedd ‘bro mebyd’ doniau creadigol byd-enwog fel Katherine Jenkins, Michael Sheen ac Anthony Hopkins. Cafodd yr artist stryd dirgel Banksy hyd yn oed ei ysbrydoli i adael anrheg Nadolig gynnar i ni yn 2018.
Mae’r bobl sy’n byw, yn gweithio ac yn chwarae yma yn gymaint rhan o’r ardal â’n tirweddau. Mae ein cymeriad di-ail i’w weld ym mhobman – pobl gyfeillgar, ddiflewyn-ar-dafod a Chymry i’r carn.
Pan ddewch chi ar ymweliad â Chastell-nedd Port Talbot, fe welwch sut mae’r gorffennol wedi dylanwadu ar ein rhanbarth. Bydd meini a chroesau Celtaidd a Rhufeinig yn rhoi cipolwg i chi ar fywyd yma dros 2,000 o flynyddoedd yn ôl. Mae adfeilion trawiadol annedd mynachod yn rhan o etifeddiaeth y Normaniaid, a ysgubodd trwy’r rhan hon o Gymru yn yr 11eg ganrif.
Roedd ein rhanbarth yn flaenllaw yn y Chwyldro Diwydiannol, ac erbyn yr 16eg ganrif, roedd yn un o brif ardaloedd y diwydiant glo yng Nghymru. Roedd presenoldeb y glo hwn yn gatalydd ar gyfer diwydiannau eraill fel smeltio copr, gweithfeydd haearn a thunplat. Crewyd rhwydwaith o gamlesi i gludo’r nwyddau hyn i ddociau Castell-nedd ac Abertawe, ac oddi yno, aed â nhw i bob rhan o’r byd. Dyma ffaith ddiddorol i chi: Ar un adeg roedd y platiau metel ar do’r Tŷ Gwyn wedi’u creu yma ym Mhontardawe!
Er nad yw’r ardal yn ganolfan fyd ar gyfer glo a gweithgynhyrchu metel bellach, rydyn ni’n eithriadol o falch o’n treftadaeth ddiwydiannol a sut mae hynny wedi dylanwadu ar ffurf ac ysbryd y cymunedau sy’n byw yma heddiw. Ac ond megis dechrau mae pennod nesaf ein stori.