Efallai mai’r tirluniau dramatig sy’n gyfrifol. Neu’r diwydiant trwm. Neu rywbeth yn y dŵr o bosib. Ond mae rhywbeth am Gastell-nedd Port Talbot yn ysbrydoli pobl yn yr ardal hon i greu pethau hardd. Er bod llawer o’r diwydiannau trwm wedi diflannu, mae’r cymdeithasau, y corau a’r bandiau a ffurfiwyd gan y gweithwyr yn dal i ffynnu.
Efallai nad ydyn ni’n allforio llawer o lo a dur heddiw, ond rydyn ni’n allforio digon o ddoniau creadigol i’r byd. Mae Rob Brydon, Katherine Jenkins, Michael Sheen ac Anthony Hopkins i gyd yn dod o’r fan hon. Y diweddar enwog Richard Burton? Fe’i ganed ym Mhontrhydyfen, yn fab i lowr.
Mae ein hamrywiol leoliadau ar gyfer y celfyddydau yn ganolbwynt i arddangos doniau cartref a rhyngwladol ar draws pob math o gelfyddyd, gan gynnwys y theatr, y sinema, cerddoriaeth, comedi, dawns a’r celfyddydau gweledol.
Creodd ein ‘gosodiad celf’ diweddaraf dipyn o gyffro pan gyrhaeddodd ym mis Rhagfyr 2018, fwy na thebyg oherwydd bod neb wedi’i gomisiynu. Rai dyddiau cyn y Nadolig, deffrôdd aelwyd yn Nhaibach i ganfod bod eu garej digon cyffredin wedi cael ei drawsffurfio dros nos â murlun gan yr artist stryd dirgel a chwareus, Banksy. Ers hynny, mae ‘Season’s Greetings’ wedi cael ei brynu gan gasglwr preifat.
Castell-nedd Port Talbot yw ffwrnais greadigol Cymru.
ARCHWILIO EIN GWEITHGAREDDAU CREADIGOL