Treftadaeth a Gorffennol Diwydiannol

Mae presenoldeb cylchoedd cerrig o’r cyfnod cynhanes yn awgrymu bod pobl wedi bod yn byw yn ardal Castell-nedd Port Talbot ers o leiaf 3,500 o flynyddoedd.

Cyrhaeddodd y Celtiaid yma ryw 2,500 o flynyddoedd yn ôl, pan feddiannwyd holl ranbarth De-ddwyrain Cymru gan lwyth y Siluriaid. Roedd y Siluriaid yn rhyfelwyr ffyrnig, a phan geisiodd y Rhufeiniaid oresgyn yr ardal, cafwyd gwrthwynebiad ffyrnig. Yn wir, nid yw’n hollol glir a lwyddodd y Rhufeiniaid i drechu’r Siluriaid o gwbl, neu gytuno’n syml ar gadoediad. Yn ein barn ni, y gwaed Celtaidd yma sy’n cyfrannu at gadernid a balchder ein cymunedau ninnau 2,000 o flynyddoedd yn ddiweddarach.

 

Yn y diwedd sefydlodd y Rhufeiniaid gaer Nidum tua 70 OC, ar safle tref fodern Castell-nedd.

 

Y Normaniaid oedd y nesaf i sgubo drwy’r ardal. Sefydlwyd Mynachlog Nedd gan y marchog Syr Richard de Grenville yn 1130, ac erbyn y 13eg ganrif, roedd yn un o abatai cyfoethocaf Cymru. Mae’r adfeilion yn dal i gael eu hystyried yn rhai o weddillion mynachaidd mwyaf trawiadol De-ddwyrain Cymru. Abaty Margam, a sefydlwyd yn 1147, yw’r unig fynachlog o eiddo’r Sistersiaid yng Nghymru lle mae corff yr eglwys yn dal yn gyfan ac yn cael ei ddefnyddio fel eglwys y plwyf.

 

Ehangodd y diwydiant cloddio am lo yng Nghastell-nedd Port Talbot yn gyflym pan ddatblygwyd porthladd Castell-nedd yn yr 16eg ganrif. Roedd y ffaith bod digonedd o lo hefyd yn golygu bod modd i ddiwydiannau eraill ffynnu. Dechreuwyd smeltio copr yn Aberdulais mor bell yn ôl ag 1584, gan ddefnyddio pŵer y rhaeadr, ac roedd Mynachlog Nedd wedi dod yn ffowndri copr erbyn yr 1730au. Adeiladwyd Camlesi Nedd, Tenant a Thawe yn ystod y cyfnod hwn i gefnogi’r tyfiant diwydiannol cyflym. Sefydlwyd Gwaith Haearn Mynachlog Nedd yn 1792 a newidiodd Aberdulais i gynhyrchu tunplat, a allforiwyd ar draws y byd. Erbyn y 19eg ganrif, roedd ein rhanbarth wedi dod yn un o ganolfannau’r byd ar gyfer gweithgynhyrchu metelau a chloddio am lo. Pan agorwyd Glofa Cefn Coed yn yr 1920au a dod yn bwll glo caled dyfnaf y byd, roedd mwy na 5,500 o ddynion yn gweithio ym mhyllau glo Cwm Dulais yn unig.

 

Er gwaethaf y dirywiad yn niwydiannau ein hardal erbyn diwedd yr 20fed ganrif, mae ein cymunedau yn dal i ymfalchïo’n aruthrol yn eu treftadaeth ddiwydiannol. Er bod y gweithwyr wedi diflannu ers meitin, roedd llawer o’n safleoedd treftadaeth yn ganolog i’r diwydiannu. Cewch weld a chlywed hanesion bywyd, gwaith – a marwolaeth dynion, gwragedd a phlant yn ein Hamgueddfeydd a’n safleoedd Treftadaeth.

 

Tanysgrifio i’n Rhestr Bostio

Search