Ein Harfordir

Mae arfordir Castell-nedd Port Talbot yn llawn cyferbyniad dramatig, lle mae’r cymoedd yn disgyn at y môr a natur yn bodoli ochr yn ochr â gwaith dyn.

Y ffordd orau o archwilio’r arfordir yw wrth eich pwysau eich hun, naill ai’n cerdded neu ar feic. Gall beicwyr ddewis rhan o’r Lôn Geltaidd, cyfres o lwybrau wedi’u neilltuo ar y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol, sy’n estyn o ffin Cymru yn y dwyrain i ben eithaf Sir Benfro yn y gorllewin.

 

Bydd cerddwyr yn mwynhau naws hamddenol yr adran iseldir 16-milltir o Lwybr Arfordir Cymru, sydd hefyd yn digwydd bod yn rhan olaf adran De Cymru. Yn ogystal â’r golygfeydd gwych o Fae Abertawe, mae’r uchafbwyntiau’n cynnwys ehangder Rhosydd Margam, Tŵr Brunel, y llwybr halio ar hyd Camlas Tenant a Marina Abertawe. Dyfarnwyd Gwobr Glan Môr Cadwch Gymru’n Daclus i Draeth Aberafan yn 2021 am ansawdd y cyfleusterau a’r glendid.

Glan Môr Aberafan

Mae tywod euraid, prom bywiog a digonedd o hufen iâ yn creu cyrchfan perffaith i’r teulu.

Parc Gwledig Margam

Lle mae byd natur, treftadaeth ac antur pur yn darparu rhywbeth i’r ifanc a’r rhai ifanc eu hysbryd.

Bae Abertawe

Mae Castell-nedd Port Talbot yn ganolfan ddelfrydol ar gyfer archwilio’r ardal ehangach.

Tanysgrifio i’n Rhestr Bostio

Chwilio