Mae’r cyrchfan glan môr hwn, sydd wedi ennill nifer o wobrau, yn arbennig o boblogaidd gyda theuluoedd oherwydd ei lendid ac ansawdd y cyfleusterau sydd ar gael, yn ogystal â’r amrywiaeth o leoedd i fwyta gerllaw. Mae’n ddiogel hefyd – mae achubwyr bywyd yn cadw golwg ar y traeth yn ystod yr haf.
Os rhedwch chi allan o bethau i’w gwneud ar y traeth, mae golff antur, parth Aqua Splash newydd (ar gyfer 2021), parc sglefrfyrddio, lle chwarae antur a lle chwarae i blant bach. Mae’r Ganolfan Hamdden a Ffitrwydd a’r sinema chwe sgrîn yn ddewis hwylus os daw cawod o law.
Mae’r traeth hefyd yn boblogaidd gyda syrffwyr a syrffwyr barcud, ac mae ardal wedi’i neilltuo ar gyfer y ddau weithgaredd ym mhen dwyreiniol y traeth.
Mae croeso i gŵn ar hyd y flwyddyn ar draeth y dociau, er bod cyfyngiadau ar y prif draeth yn ystod misoedd yr haf.