Bydd aelodau iau’r teulu wrth eu bodd gyda’r bythynnod a’r castell maint plant yng Ngwlad y Tylwyth Teg, a bydd y lle chwarae antur gyda’i holl gyfarpar yn rhoi digon o gyfle iddyn nhw ollwng stêm.
Bydd rhai sy’n hoffi anifeiliaid wrth eu bodd gyda’r trywydd fferm, sy’n cynnwys bridiau prin o greaduriaid bach a mawr. Mae 3 math o geirw, gan gynnwys rhai Père David, sydd dan fygythiad, yn crwydro’n rhydd yn hanner y parc.
Mae croeso i gŵn sydd â pherchnogion cyfrifol ac os digwydd iddyn nhw fynd braidd yn fwdlyd – neu’n fwdlyd iawn – wrth fynd am dro, mae man golchi cŵn hwylus i chi ei ddefnyddio i’ch arbed chi a’ch car rhag y ‘gawod’ anochel o fwd!
Os cyffro sy’n mynd â’ch bryd, cewch fentro ar Her Brig y Coed Go Ape!, yr unig un o’i bath yng Nghymru, ar Siglen Tarzan fwyaf y Deyrnas Unedig – gydag un cwymp rhydd o 20tr – a weiriau sip hyd at 180m. Hefyd mae amrywiaeth o weithgareddau fel crefft maes, canŵio, beicio mynydd ac adeiladu rafftiau ar gael yn Antur Parc Margam.
Neu os ydych chi’n chwilio am ychydig o lonydd gan y byd (neu weddill y teulu!), rydyn ni’n argymell mynd am dro yn y gerddi addurniadol.