Bae Abertawe

Os hoffech chi archwilio Bae Abertawe...

Drws nesa i ni, un o’r ffyrdd cyflymaf (a iachaf) o gyrraedd yno yw beicio ar hyd y Lôn Geltaidd, gan ddilyn Glan Môr Aberafan, a mynd trwy Jersey Marine a Champws newydd Prifysgol Abertawe yn y Bae. Oddi yno, mae dinas Abertawe yn agor o’ch blaen, a’r tu hwnt mae arfordir a chefn gwlad ysgubol.

 

Mae cynifer â 25 o draethau ar Benrhyn Gŵyr, yn amrywio o ehangder tywod aur i gilfachau cudd ymhlith y clogwyni calch. Mae Traeth Bae Bracelet, oddi ar drwyn y Mwmbwls, sydd wedi ennill Baner Las, ychydig dros 30 munud i ffwrdd mewn car. Ac mewn rhyw 45 munud, gallech chi fod yn mwynhau syrffio yn Llangennydd.

Tanysgrifio i’n Rhestr Bostio

Chwilio