Does unman yng Nghymru mor hygyrch ar gyfer antur beicio mynydd na Pharc Coedwig Afan. Ychydig funudau i ffwrdd o’r M4, gall beicwyr gael profiadau yma o’r beicio mwyaf caled a chyffrous yn y DU ar draws dros 130km o lwybrau heriol. Diolch i’r tirwedd serth sy’n draenio’n gyflym, mae hwn yn barc sy’n gallu cael ei ddefnyddio drwy gydol y flwyddyn, felly mae gwarant bod modd reidio drwy gydol y gaeaf, boed haul neu law.
Mae ardal Afan hefyd yn wych ar gyfer beicwyr o bob gallu, sy’n ei wneud yn ddelfrydol ar gyfer dod â theulu a ffrindiau; ac mae ganddo’r holl gyfleusterau y byddech chi’n eu disgwyl mewn canolfan beicio mynydd sefydledig. Mae’r dyffryn wedi ei gerfio o lechweddi oedd unwaith ynghanol pyllau glo a bellach mae wedi ei drawsnewid yn nefoedd i feicwyr.
Trochwch eich hun mewn lleoliad dramatig yn chalet Porthdy Afan, lai na milltir o Barc Coedwig Afan, ac sy’n cynnig lle diogel i storio beiciau dros nos a digon o le i’w glanhau. Mae’n lle delfrydol i ymlacio a rhannu profiadau’r dydd gyda beicwyr mynydd eraill a bydd brecwast wedi’i goginio’n ffres yn rhoi’r egni fydd ei angen arnoch i gychwyn eich dydd.
Mae Parc Coedwig Afan yn gartref i gyfres anhygoel o lwybrau beicio mynydd sydd ymhlith y rhai mwyaf heriol a gwefreiddiol yn y DU. Os ydych chi’n chwilio am rhywbeth ychydig yn wahanol, mae Campbell Coaching wrth law i’ch arwain drwy’r llwybrau troellog sy’n ymgordeddu drwy’r cymoedd a thrwy olion pyllau glo’r ardal. Mae’r tywysydd lleol Ally yn hyfforddwr beiciau mynydd achrededig gyda chymhwysterau llawn a dwy flynedd ar bymtheg o brofiad; gall eich helpu i ddatblygu eich sgiliau beicio mynydd a mwynhau llwybrau Parc Coedwig Afan yn llawn.
Wedi‘u lleoli o fewn ychydig filltiroedd o Borthdy Afan mae‘r siopau beiciau Afan A Blast yng Nglyncorrwg a Sied Feiciau Cwm Afan yn Nyffryn Rhondda yn cynnig dewis helaeth o feiciau, helmedau, cyfarpar ar hannau. Mae‘r ddwy siop feiciau‘n cael eu rhedeg gan dimau gwahanol o feicwyr mynydd a mecanics lleol profiadol sy‘n cynnig cyfoeth o gyngor a gwybodaeth i wneud yn siŵr eich bod yn cael y budd mwyaf o‘ch beicio yma. Ydych chi wedi gadael rhywbeth gartref neu wedi canfod problem? Mae siopau beiciau yma‘n adnodd gwych ac mae eu timau‘n hapus i helpu gyda gwasanaethu a thrwsio beiciau er mwyn gwneud yn siŵr nad oes unrhyw oedi diangen.
Mae’r llwybr Rwci yn daith berffaith ar gyfer beicwyr dibrofiad os oes gennych chi rai yn eich grŵp, ond mae’r llethrau coch a du mwy serth yn sicr o herio hyd yn oed y beicwyr mynydd mwyaf profiadol. Os ydych am brofi reidiau technegol, heriol rhowch dro ar lwybrau Penrhyd, Y Wal, Lefel White a’r Blade. Ac mae’r llwybr W2, sy’n llwybr du, yn cynnwys rhai o’r adrannau un trac a llwybrau goriwaered mwyaf heriol yn Ewrop.
Ydych chi’n chi’n chwilio am anturiaethau eraill hefyd? Mae heriau yn eich disgwyl yn uchel yn y coed lai na 10 milltir o Borthdy Afan yn Her Coedwig Go Ape ym Mharc Gwledig Margam. Cewch ddringo a swingio eich ffordd drwy ddetholiad o groesiadau coeden-i-goeden a phrofwch swing Tarzan mwyaf y DU, gan ddefnyddio eich holl ddewrder ar gyfer y naid chwe metr i’r gwagle, a pheidiwch ag anghofio edrych i lawr i fwynhau’r golygfeydd gwych. Efallai y byddwch hefyd yn gallu gweld ceirw Parc Margam. Mae Parc Gwledig Margam hefyd yn cynnig rhai profiadau beicio mynydd cyffrous. Mae gan Lwybr Beicio Mynydd Ceirw Parc Margam lwybrau gyda phedwar cod lliw, wedi eu lleoli uwchben Go Ape, ac mae’r rhain yn addas i deuluoedd, arbenigwyr a phawb yn y canol.
Beth am fwynhau nofio ar ôl bod yn beicio? Cofiwch bacio eich gwisg nofio gan fod Pwll Nofio Cwm Afan o fewn llai na 5 munud yn y car i Borthdy Afan. Mae’r amserlen yn cynnwys nofio mewn lonydd yn gynnar yn y bore ar gyfer nofwyr sy’n hyfforddi, pecyn newydd gwych nofio a sawna os ydych chi am ymlacio ar ôl diwrnod ar y llethrau, yn ogystal â’r cyfleusterau nofio teuluol arferol.
Wrth i’ch diwrnod prysur ddirwyn i ben, cewch fwynhau swper blasus yn ôl ym Mhorthdy Afan. Atgyfnerthwch gyda phryd maethlon a chwrw neu seidr Cymreig hyfryd. Neu os hoffech fynd allan am bryd o fwyd, mae Tafarn y Brit yn ddewis poblogaidd gyda’r bobl leol. Cewch fwyd cartref blasus yno, awyrgylch hamddenol a thanllwyth o dân pren ar nosweithiau oer y gaeaf. Mae’r Brit yn lle y mae’n rhaid i chi fynd iddo. Daw cwsmeriaid o bob cwr i flasu dewis o’r pasteiod gorau yng Nghymru, o rai clasurol syml i ddewisiadau fegan. Mae’r dafarn arobryn wedi’i chynnwys yng Nghanllaw Cwrw Da CAMRA ac mae dewis gwych o jin a gwin yno hefyd.
Yma yng Nghwm Afan gallwch ddianc o ruthr gwyllt bywyd bob dydd. Gyda chyfleoedd di-ben-draw i fwynhau rhyddid, antur a’r awyr iach, mae’ch taith feicio yng Nghwm Afan yn sicr o fod yn un i’w chofio.
AWGRYM AM AMSERLEN:
DIWRNOD UN
- Bore – Ewch draw i Sied Feiciau Cwm Afan neu Afan A Blast naill ai i gasglu eich beic neu os oes gennych chi eich beic eich hun, i gael gwasanaeth arno cyn mynd am ddiwrnod o feicio cyffrous.
- Prynhawn – Os yw hyder yn uchel, trowch eich llaw (a’ch olwynion) at y llwybr W2 heriol. Er mwyn cael ychydig mwy o ymarfer ewch at lwybr glas neu goch fel y Graith Las neu Penhydd.
- Gyda’r Nos – Ymlaciwch a mwynhau ym Mhorthdy Afan gyda’ch cyd-feicwyr.
DIWRNOD DAU
- Bore – Dewch i gwrdd ag Ally o Campbell Coaching i gael sesiwn hyfforddi beicio mynydd neu am daith dywys gyffrous ym Marc Coedwig Afan.
- Prynhawn – Ewch i nofio i Bwll Nofio Cwm Afan.
- Gyda’r Nos – Pryd o fwyd yn y Brit yng Nghwmafan gan flasu cwrw lleol yn y dafarn draddodiadol hyfryd.
DIWRNOD TRI
- Bore – Anelwch am Go Ape ym Mharc Margam am brofiad cyffrous yn uchel yn y coed.
- Prynhawn – Un taith arall ar eich beic o gwmpas eich hoff lwybrau ym Mharc Coedwig Afan.
Mae Calon Ddramatig Cymru yn ddewis gwych ar gyfer gwyliau byr gyda phellter cymdeithasol. Gyda chymaint o atyniadau awyr agored, o barciau gwledig a’n glan môr gwych i’n rhes o fynyddoedd a thirweddau naturiol, gallwch ymlacio gan wybod eich bod yn cael gwyliau diogel. Mae llawer o’n busnesau twristiaeth wedi ennill statws ‘Barod Amdani’ ac wedi ymrwymo i gynnal y safonau uchaf o ddiogelwch a glendid.
Mae gwarchod ein tir ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol tra’n gofalu am ein gilydd yn rhan o’r hyn sy’n ein diffinio. Mae Croeso Cymru’n eich gwahodd i wneud eich ‘Addewid’, felly ymunwch â ni i wneud eich addewid cyn eich ymweliad. Drwy weithio gyda’n gilydd i gadw pawb yn ddiogel gall pob un ohonom fwynhau’r hyn sydd gan Galon Ddramatig Cymru i’w gynnig.