Gwnewch atgofion fydd yn para wrth i chi ddod ar eich antur deuluol eich hun i Faes Gwersylla Willow Springs.
Byddwch yn deffro yng nghalon dangnefeddus Coedwig Afan yn Ne Cymru ym Maes Gwersylla bendigedig Willow Springs. Mae’n cynnig golygfeydd ysblennydd, tirwedd gyffrous a hafan o dawelwch tangnefeddus. Y ffordd orau i chi werthfawrogi eich egwyl yma yw drwy ymgolli mewn natur a thorri cysylltiad gyda phrysurdeb bywyd bob dydd.
Does dim ffordd well o ddod i adnabod yr ardal nag ar feic ac mae Coedwig Afan yn cynnig llwybrau beicio gwych i deuluoedd. Dechreuwch eich diwrnod drwy grwydro’r llwybrau eich hun neu gall tywysydd lleol ddangos y rhwydwaith llwybrau i chi. Mae Campbell Coaching yn darparu teithiau tywys cyfeillgar a hyfforddiant i deuluoedd o bob gallu a phob oedran. Mae’r hyfforddwr lleol Ally yn hyfforddwr a thywysydd MTB cymwys ac mae wedi bod yn hyfforddi Beicio Mynydd am dros ddwy flynedd ar bymtheg. Bydd yn sicrhau bod eich taith drwy’r goedwig yn ymweld â’r mannau hanesyddol gorau yn ogystal â dangos y golygfeydd dramatig sy’n aros amdanoch chi. Gwnewch atgofion fydd yn para wrth i chi ddod ar eich antur deuluol eich hun i Faes Gwersylla Willow Springs.
Gall beicwyr ifanc ac uchelgeisiol sydd eisiau blas ar antur ddatblygu triciau a sgiliau ym Mharc Beiciau Afan, tra gall y beicwyr iau neu lai profiadol grwydro ar y llwybrau haws. Mae’r ‘Llwybr Rwci’ yn benodol wedi’i adeiladu mewn adrannau, sy’n caniatáu i chi brofi cymaint neu cyn lleied o antur ag y dymunwch. Mae hwn yn llwybr perffaith ar gyfer dechreuwyr, gyda thrywydd llydan a rhiwiau eang. Ar ddiwedd y llwybr hwn, mae dolen las ddewisol 2.6km sy’n cynnig rhagflas i’r rhai sydd eisiau symud ymlaen. Gan ollwng i lawr at yr Afon Afan, mae’r ddolen ddigyffro’n amlygu rhai o fannau digyffwrdd hardd cyfrinachol Cymru, lle delfrydol ar gyfer picnic i’r teulu.
Stopiwch am ginio yn Ystafell De Cedars yng Nghanolfan Ymwelwyr Parc Fforest Afan neu ewch draw i Gaffi Cwtsh Corrwg yng Nghanolfan Beicio Mynydd Glyncorrwg. Mae’r ddau’n cael eu rhedeg gan deuluoedd lleol ac mae bwyd lleol o ansawdd da yn y ddau.
Mae beiciau ar gael i’w llogi yn Afan a Blast yng Nglyncorrwg, llai na milltir o Willow Springs ac mae’n cynnig amrywiaeth eang o feiciau o ansawdd gwych – o feiciau plant i feiciau mynydd hongiad llawn. Mae’r tîm yn feicwyr mynydd a mecanics profiadol fydd yn rhoi’r cyfarpar i chi, a’r cyngor a’r wybodaeth fydd eu hangen arnoch chi i fwynhau tirwedd ddramatig y fforest a’r gorau o’r llwybrau beicio. Gall y tîm cyfeillgar o bobl leol hefyd roi gwasanaeth i’ch beic a’i drwsio os oes angen er mwyn sicrhau na fydd unrhyw oedi’n digwydd gyda’ch anturiaethau.
Ar ôl diwrnod prysur o weithgaredd ac antur, mae’n amser ymlacio gyda’r nos. Mae’r safle gwersylla eco-gyfeillgar yn cynnig dewis o glampio, gyda chytiau campio wedi’u gwresogi neu gytiau bugail tlws.
Tu mewn i’r cytiau bugail mae pren hardd ac mae stôf llosgi pren ynddynt, sy’n ddelfrydol ar gyfer nosweithiau oer wrth fwynhau yng ngoleuni oren cynnes y tân. Ymlaciwch wrth wrando ar sŵn y pren yn llosgi a thostio malws melys i’w rhoi ar ben eich siocled poeth neu i’w roi rhwng bisgedi blasus am brofiad o foeth. Mae’r cytiau campio, lle mae croeso i anifeiliaid anwes, yn ddewis da os ydych chi am ddod â’ch ci i rannu’r antur hefyd.
Fyddai’n well gennych chi wneud pethau’n fwy annibynnol? Cewch osod eich pabell neu’ch cerbyd campio ar un o’r nifer o fannau gwersylla. Mae detholiad o nwyddau i’w rhentu megis barbeciws, pyllau tân a choed tân a nwyddau ymolchi eco sy’n cael eu gwneud yn y pentref lleol i chi eu prynu.
Mae Willow Springs hefyd yn cynnig lloches glaw/gwynt gyda byrddau picnic, ardal sych a chysgodol sy’n ddelfrydol ar gyfer coginio a chymdeithasu. Mae’r safle gwersylla yn cynnal digwyddiadau a gweithdai yma yn rheolaidd: o wehyddu helyg a gwneud sebon i adrodd straeon a theithiau cerdded ystlumod.
Os byddai’n well gennych chi adael i rywun arall wneud y coginio, gallwch fynd i hoff dafarn y bobl leol, y Refreshment Rooms, sydd 2.5 milltir i ffwrdd. Cewch fwynhau diod oer a phryd tafarn blasus i’ch diwallu ar ôl diwrnod o anturiaethau. Mae uchafbwyntiau’r fwydlen yn cynnwys gril cymysg helaeth a swper pysgod a sglodion hyfryd.
Unwaith y byddwch wedi cael llond eich bol ac y byddwch yn ymlacio cyn clwydo am y nos, gwyliwch wrth i’r awyr dywyll ddod yn fyw. Gyda lefelau isel o lygredd golau, mae Fforest Afan yn lle delfrydol ar gyfer gwylio’r sêr. Gwyliwch yr awyr hudolus gyda’ch llygaid neu gallwch ddefnyddio ysbienddrych neu delesgop i weld rhyfeddodau’r bydysawd.
Bydd atgofion i’w trysori am byth yn cael eu creu yn Willow Springs yng Nghastellnedd Port Talbot.
AWGRYM AM AMSERLEN:
DIWRNOD UN
- Bore – Ymweld â Afan a Blast i gasglu beiciau mynydd ac offer diogelwch ar gyfer y teulu cyfan. Anelwch at y Llwybr Rwci ym Mharc Coedwig Afan (dilynwch lwybr beicio’r Rheilffordd am ryw 4 milltir) lle gallwch wella eich hyder ar lwybr arbennig ar gyfer dechreuwyr.
- Prynhawn – Mwynhewch bicnic ar lan yr Afon Afan a rhowch dro ar rai o’r llwybrau mwy heriol wrth eich pwysau
- Gyda’r Nos – Yn ôl i Willow Springs i dostio malws melys wrth dân agored y tu allan i’ch Cwt Bugail.
DIWRNOD DAU
- Bore – Ewch i draeth tywod hyfryd Aberafan i fwynhau coffi a hufen iâ o Café Remo’s.
- Prynhawn – Dewch i gwrdd ag Ally o Campbell Coaching fydd yn gallu eich arwain ar antur beicio mynydd drwy Barc Coedwig Afan.
- Gyda’r Nos – Pryd gyda’r nos yn y Refreshment Rooms am fwyd tafarn blasus cyn anelu’n ôl am Wersyllfa Willow Springs i syllu ar awyr dywyll y nos.
Mae Calon Ddramatig Cymru yn ddewis gwych ar gyfer gwyliau byr gyda phellter cymdeithasol. Gyda chymaint o atyniadau awyr agored, o barciau gwledig a’n glan môr gwych i’n rhes o fynyddoedd a thirweddau naturiol, gallwch ymlacio gan wybod eich bod yn cael gwyliau diogel. Mae llawer o’n busnesau twristiaeth wedi ennill statws ‘Barod Amdani’ ac wedi ymrwymo i gynnal y safonau uchaf o ddiogelwch a glendid.
Mae gwarchod ein tir ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol tra’n gofalu am ein gilydd yn rhan o’r hyn sy’n ein diffinio. Mae Croeso Cymru’n eich gwahodd i wneud eich ‘Addewid’, felly ymunwch â ni i wneud eich addewid cyn eich ymweliad. Drwy weithio gyda’n gilydd i gadw pawb yn ddiogel gall pob un ohonom fwynhau’r hyn sydd gan Galon Ddramatig Cymru i’w gynnig.