DILYN ÔL EU TRAED

Mae llawer o hanesion i’w hadrodd yng Nghalon Ddramatig Cymru. Mae nifer o gymeriadau hanesyddol sydd wedi chwarae rhannau hanfodol yn y celfyddydau, diwydiant a gwyddoniaeth wedi galw’r ardal hon yn gartref. Dewch i archwilio’r gorffennol a dilyn ôl eu traed ar gasgliad o deithiau cerdded sydd wedi eu trefnu’n ofalus i chi eu dilyn eich hun: byddwch yn dysgu am ein hanes cyfoethog a’n tirweddau naturiol digymar.

 

Trefnwch i aros ym Mythynnod Tan yr Eglwys yng Nghwm Tawe a dewch i adnabod Calon Ddramatig Cymru ar y teithiau cerdded gwahanol ac unigryw yma. Er bod y teithiau hyn wedi cael eu dylunio i bobl arwain eu hunain arnynt, gallwn gynnig rhai profiadau allai wneud eich ymweliad yn fwy cofiadwy. Ar ddyddiadau penodol drwy gydol y flwyddyn gallwch fwynhau gwasanaeth Carl Gough, storïwr lleol, sy’n dod â chwedlau o Galon Ddramatig Cymru yn fyw. Cysylltwch â ni drwy’r wefan i ofyn am ragor o wybodaeth.

 

Llwybr Richard Burton

Un o’n meibion enwocaf yw’r actor Richard Burton. Ganed Burton ym Mhontrhydyfen, ac roedd yn actor Hollywood arobryn yn adnabyddus am ei berfformiadau dramatig o waith Shakespeare a’i berthynas yr un mor angerddol ag Elizabeth Taylor. Er mwyn dysgu rhagor am fywyd cynnar Burton a’r dylanwadau arno, ewch y daith gerdded dair milltir hon sy’n hawdd ei dilyn. Ymysg yr uchafbwyntiau mae taith ar hyd Traphont Ddŵr Pontrhydyfen a Thraphont Ddŵr y Rheilffordd gan fwynhau golygfeydd o’r pentref glofaol gynt a’r cymoedd y tu hwnt iddo. Byddwch hefyd yn ymweld â’r Fainc Portread, mainc goffa gafodd ei chreu i gofio arwyr lleol a wnaeth gyfraniad eithriadol yn eu meysydd. Y lle olaf ar y daith hon yw Capel Bethel lle cafodd gwasanaeth coffa ei gynnal i Richard Burton yn dilyn ei farwolaeth ym 1984.
Daeth cannoedd o bobl ynghyd i dalu eu teyrnged i un o feibion gorau Castell-nedd Port Talbot.

 

 

Llwybr Turner

Daeth Joseph Mallord William Turner, yr arlunydd Rhamantaidd o fri, ar ymweliad i Dde Cymru ym 1795 a gwnaeth nifer o frasluniau o ddiwydiant trwm yr ardal wedi’i gyferbynnu â’n rhaeadrau enwog. Mae’r daith gerdded hon wedi cael ei chreu i ddangos y tirweddau a ysbrydolodd waith Turner yn cynnwys golwg ar y dirwedd ddiwydiannol sydd erbyn hyn wedi cael ei hadfeddiannu gan natur. Mae’r daith bum milltir yn mynd heibio rhaeadrau Melincwrt ac Aberdulais. Mae Aberdulais erbyn hyn yn rhan o safle yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ochr yn ochr â Gwaith Tun Aberdulais. Byddwch yn cerdded ar hyd camlas Castell-nedd ac yn croesi dros yr Afon Nedd i deithio rhwng y ddwy raeadr. I’r rhai sy’n hoff o natur gallwch weld crychyddion, llwynogod ac amrywiaeth o adar bach ar hyd y daith.

 

 

Llwybr Alfred Russel Wallace

Ffigur enwog arall o’r gorffennol yw Alfred Russel Wallace, un o naturiaethwyr mwyaf Prydain. Ei brif orchest oedd cyd-gyhoeddi Damcaniaeth Esblygiad gyda Charles Darwin ym 1858. Er mai dim ond pum mlynedd o’i fywyd y treuliodd Walles yng Nghastell-nedd, dywedodd mai ei gyfnod yma a daniodd ei ddiddordeb enfawr ym myd natur. Gallwch ddewis naill ai fersiwn 5-6 milltir neu 10-11 milltir o’r daith hon sy’n dangos uchafbwyntiau hanesyddol a naturiol Cwm Nedd. Byddwch yn cychwyn yng Nghastell Nedd, cadarnle Normanaidd lle mae porthdy â dau dŵr nodedig yn dal i’w weld. Byddwch yn ymweld â’r Mechanical Institute a Neuadd y Dref Castell-nedd lle bu Wallace yn mynychu darlithoedd, cyn anelu at Abaty Nedd. Cafodd yr Abaty ei sefydlu ym 1130 ac mae’n un o olion mynachaidd mwyaf trawiadol De Cymru. Wedi archwilio Gwaith Haearn Abaty Nedd byddwch yn anelu tuag at Gamlesi Nedd a Thenant cyn gorffen y daith yn Eglwys St Illtyd ar lan yr Afon Nedd.

 

 

Llwybr Gilberston

Mae Llwybr Gilbertson yn daith cylch hawdd o ddwy filltir o gwmpas Stad Gilbertson yng Nghwm Tawe. Roedd William Gilbertson yn ddiwydiannwr nodedig ac ef sy’n cael ei gydnabod fel sylfaenydd Gwaith Dur enwog Port Talbot. Daeth ei gwmni’n berchnogion Gwaith Tunplad Pontardawe yn y 1860au ac erbyn dechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf roedd y galw am eu cynnyrch mor uchel nes bod mwyafrif y boblogaeth gweithwyr ym Mhontardawe’n cael eu cyflogi yno. Ym 1900 datblygodd Gilbertson safle gwaith dur yn nociau Port Talbot sydd yn awr yn safle Gwaith Dur TATA, un o’r gweithfeydd dur mwyaf yn Ewrop. Yn ogystal â chrwydro drwy’r stad, sy’n gartref i stablau, cyrtiau tenis a’r pwll nofio awyr agored cyntaf yng Nghymru, byddwch hefyd yn cael y cyfle i fwynhau’r golygfeydd ysblennydd dros Gwm Tawe o’r platfform gwylio ar ben y stad.

 

 

 

Llwybr ein Hynafiaid

Mae’r daith olaf yn y casgliad hwn yn edrych ar hanes cynnar iawn Calon Ddramatig Cymru. Yn hytrach na chanolbwyntio ar un unigolyn, bydd yn adrodd hanes y Mynaich Sistersaidd a sylfaenodd Abaty Margam yn y ddeuddegfed ganrif a’r teulu Talbot a adeiladodd Gastell Tuduraidd Margam ym 1830, mewn arddull Gothig goludog. Mae’r daith hon hefyd yn eich arwain at Lwybr Arfordir Cymru, lle mae’r gwahaniaeth enfawr rhwng natur a diwydiant yn yr ardal hon ar ei fwyaf amlwg. Byddwch yn gweld Gwaith Dur prysur Port Talbot a thraffordd yr M4 sy’n torri drwy’r dref yn ogystal â’r arfordir gwefreiddiol yn y pellter.

 

AWGRYM AM AMSERLEN:


DIWRNOD UN

Dechreuwch y diwrnod ar ffin orllewinol Castellnedd Port Talbot, Llwybr Gilbertson. Cewch fwynhau cinio yn un o dai bwyta annibynnol niferus Pontardawe. Yn y prynhawn, anelwch am y dwyrain a’r llwybr Alfred Russel Wallace yng Nghastell-nedd.

 

DIWRNOD DAU

Trochwch eich hun mewn natur ar Lwybr Turner. Ar ôl ymweld â’r ddau raeadr, gyrrwch i gyfeiriad Pontrhydyfen a mynd ar Lwybr Richard Burton.

 

DIWRNOD TRI

Paratowch bicnic ac anelwch am Fargam ar gyfer Llwybr Capel Mair i Gronfa Ddŵr Brombil. Pan ddowch yn ôl i Barc Gwledig Margam cofiwch fynd i weld y Castell a’r tiroedd eang.

 


Mae Calon Ddramatig Cymru yn ddewis gwych ar gyfer gwyliau byr gyda phellter cymdeithasol. Gyda chymaint o atyniadau awyr agored, o barciau gwledig a’n glan môr gwych i’n rhes o fynyddoedd a thirweddau naturiol, gallwch ymlacio gan wybod eich bod yn cael gwyliau diogel. Mae llawer o’n busnesau twristiaeth wedi ennill statws ‘Barod Amdani’ ac wedi ymrwymo i gynnal y safonau uchaf o ddiogelwch a glendid.

 

Mae gwarchod ein tir ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol tra’n gofalu am ein gilydd yn rhan o’r hyn sy’n ein diffinio. Mae Croeso Cymru’n eich gwahodd i wneud eich ‘Addewid’, felly ymunwch â ni i wneud eich addewid cyn eich ymweliad. Drwy weithio gyda’n gilydd i gadw pawb yn ddiogel gall pob un ohonom fwynhau’r hyn sydd gan Galon Ddramatig Cymru i’w gynnig.


 

Tanysgrifio i’n Rhestr Bostio

Chwilio