Antur Awyr Iach y Cymoedd yw’r ffordd berffaith i ddianc rhag gwaith caled 9 tan 5 neu i ddathlu achlysur arbennig gyda ffrindiau, teulu neu hyd yn oed fel rhan o daith gwaith gyda chydweithwyr. Ymdrochwch eich hun yng nghefn gwlad Cymru: ymlaciwch, mwynhewch cael bod mewn lle gwahanol ac yn bwysicaf oll, profwch antur fel erioed o’r blaen.
Mae Antur Prydain a Gweithgareddau Mynydd ac Afon yn ddarparwyr antur profiadol fydd wrth law i gynnig cyffro i’ch gwyliau gydag amrywiaeth o weithgareddau fydd yn caniatáu i chi gael profiadau yn yr awyr agored na chawsoch erioed o’r blaen.
Os ydych chi’n teithio fel rhan o grŵp gadewch i Antur Prydain greu profiad antur personol ar eich cyfer, un na fyddwch chi fyth yn ei anghofio. Ewch i gerdded ceunentydd drwy dirwedd greigiog wrth i ddŵr ymdroelli drwy sgydau naturiol byd natur. Cerdded ceunentydd yw’r ffordd orau i drochi eich hun yng ngweithgaredd Bannau Brycheiniog mewn amgylchedd diogel a dan reolaeth. Gyda’ch helmed a’ch tortsh dewch i archwilio’r rhwydwaith o ogofâu yn eich profiad ogofa eich hun fydd yn addas ar gyfer eich gallu eich hun.
Gall Antur Prydain hefyd weithio gyda grwpiau mwy a chorfforaethol i ddod â’r gorau allan o bawb drwy gyfrwng gweithgareddau adeiladu tîm.
I deithwyr sy’n chwilio am brofiad tebycach i batrwm Bear Grylls, gall Gweithgareddau Mynydd ac Afon gychwyn eich gwyliau gyda rhai o’r teithiau cerdded bryniau gorau yn y DU drwy gefn gwlad hardd Cymru. Gall eich tywysydd lleol ddysgu sgiliau map a chwmpawd sylfaenol i chi a rhoi’r hyder i chi grwydro oddi ar y llwybrau arferol i archwilio llefydd hardd heb eu sbwylio. Os dymunwch symud ymlaen o gerdded y bryniau, mae dringo mynyddoedd yn galw am fwy o gryfder corfforol, gan wneud eich ffordd drwy wahanol amodau yn defnyddio sgiliau fel sgrialu a dringo.
Bydd diwrnod egnïol yn heicio drwy fyd natur, yn neidio o greigiau uchel ac yn cropian tu ôl i raeadrau yn eich gwthio y tu hwnt i’ch lle cysurus a’ch cael i gyrraedd mannau nad oeddech yn credu oedd yn bosibl.
Mae’r sesiynau blasu abseilio a dringo creigiau wedi eu dylunio ar gyfer pob gallu, gan roi i chi’r sgiliau a’r dechneg angenrheidiol i goncro uchelfannau newydd. Bydd digonedd o ddewis ar eich cyfer gyda golygfeydd ysblennydd o ben y creigiau yn edrych dros Fannau Brycheiniog. Mae’r gweithgaredd hwn yn brawf o waith tîm a chyfathrebu wrth i chi wneud eich ffordd i fyny wyneb y graig.
Mae coedwriaeth a goroesi’n weithgaredd perffaith i chi orffen amserlen eich gwyliau. Mae’n trafod popeth o’r pethau sylfaenol i sgiliau uwch, a bydd y tîm o hyfforddwyr yn dangos i chi sut i gymryd mantais o’r hyn sydd o’ch cwmpas er
mwyn goroesi. Bydd y gweithgaredd hwn yn rhoi prawf arnoch yn gorfforol ac yn seicolegol, gyda greddf goroesi rhywun yn dibynnu ar ei allu i wrthsefyll pwysau mewn sefyllfaoedd argyfyngus. Eich ymennydd fydd eich cyfaill gorau a’ch ased mwyaf gwerthfawr ar gyfer goroesi!
Ar ôl dyddiau o weithgaredd ac antur gallwch ddewis o blith amrywiaeth o opsiynau llety a bwyta o safon uchel wrth i chi ymlacio ac ail-fyw’r atgofion y byddwch wedi eu gwneud yng Nghastell-nedd Port Talbot.
Mae gwesty modern y Tŵr yn cynnig llety o ansawdd da gyda sba hardd a phwll nofio, a bwyty soffistigedig sy’n arbenigo yn y dull coginio Ewropeaidd a Bwyd Cymreig traddodiadol. Mae’r ystafelloedd gwely newydd eu hadeiladu yn y Rhandy yn cynnig golygfeydd anhygoel ar draws tiroedd y gwesty, ffordd hamddenol i gychwyn eich bore. Mae’r sba tawel wedi’i osod ar ymyl y pwll dan do hardd, gyda dewis enfawr o driniaethau sba yn cynnwys colur a thylino
ymlaciol.
Mae Bythynnod Gwyliau Cwm Tawe yn ddelfrydol ar gyfer grwpiau mawr (a bach), gyda dewis o fythynnod tlws ar gyfer rhwng pedwar a chwech o bobl. Mae Tŷ Gambo wedi’i ddylunio gan benseiri arobryn ac mae’n ffefryn gan ymwelwyr sy’n mwynhau’r cyfuniad o nodweddion hanesyddol a minimaliaeth fodern. Daw’r gwres o fiomas adnewyddadwy ac mae’r bwthyn wedi’i inswleiddio gyda gwlân defaid; mae’n adeilad cwbl unigryw gyda choeden hud wedi’i hadeiladu mewn carreg yn un o waliau’r clos ac mae bath hardd ar goesau ynddo. Ym mwthyn Hafod y Wennol cewch eistedd tu allan dan y coed ffawydd enfawr gyda gwydraid o win i wylio’r ŵyn bach yn chwarae dan yr haul yn machlud – blas bach o baradwys yn ein byd prysur heddiw. Mae pob bwthyn yn darparu cyfleusterau llawn ar gyfer hunan arlwyo. Cewch goginio eich pizzas eich hun yn y popty pizza ac yn Nhŷ Gambo neu gynnal gwledd o farbeciw gyda byrgyrs poeth a saladau blasus.
Dewis arall am wyliau cysurus mewn lleoliad canolog yw Gwesty’r New Swan sydd yng Nghwm Tawe Uchaf ar gyrion Bannau Brycheiniog. Mae’n cael ei redeg gan deulu ac mae’n lle gwych i grwpiau aros er mwyn crwydro cefn gwlad Cymru. Mwynhewch ddiod gyda’r bobl leol wrth y bar, gyda dewis eang o gwrw, gwin a choffi yn ogystal â phrydau bwyd cartref sy’n defnyddio cynnyrch lleol.
Mae Gwesty’r New Swan yn gyfle gwych i gael profi lletygarwch lleol. Mae dewis o brydau tafarn clasurol ar y fwydlen, o lasagne cig eidion cartref i gyris ac amrywiaeth o wahanol ddewisiadau byrgyr.
Dewch i greu atgofion i’w trysori am byth gydag Antur Awyr Iach y Cymoedd.
AWGRYM AM AMSERLEN:
DIWRNOD UN
- Bore – Estynnwch am eich helmed a’ch tortsh ac ewch i fwynhau eich profiad ogofa eich hun.
- Prynhawn – Defnyddiwch eich sgiliau gyda chwmpawd i fynd ar antur cyfeiriannu.
- Gyda’r Nos – Ymlaciwch dros beint o gwrw lleol yng Ngwesty’r New Swan neu defnyddiwch y popty pizza ym Mythynnod Gwyliau Cwm Tawe.
DDIWRNOD DAU
- Bore – Heriwch eich hun i fynd ar sesiwn flasu dringo creigiau ac abseilio.
- Prynhawn – Dysgwch sgiliau goroesi gyda gweithgareddau coedwriaeth yn yr awyr iach.
- Gyda’r Nos – Ymlaciwch gyda sesiwn sba neu nofio yng Ngwesty’r Tŵr.
Mae Calon Ddramatig Cymru yn ddewis gwych ar gyfer gwyliau byr gyda phellter cymdeithasol. Gyda chymaint o atyniadau awyr agored, o barciau gwledig a’n glan môr gwych i’n rhes o fynyddoedd a thirweddau naturiol, gallwch ymlacio gan wybod eich bod yn cael gwyliau diogel. Mae llawer o’n busnesau twristiaeth wedi ennill statws ‘Barod Amdani’ ac wedi ymrwymo i gynnal y safonau uchaf o ddiogelwch a glendid.
Mae gwarchod ein tir ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol tra’n gofalu am ein gilydd yn rhan o’r hyn sy’n ein diffinio. Mae Croeso Cymru’n eich gwahodd i wneud eich ‘Addewid’, felly ymunwch â ni i wneud eich addewid cyn eich ymweliad. Drwy weithio gyda’n gilydd i gadw pawb yn ddiogel gall pob un ohonom fwynhau’r hyn sydd gan Galon Ddramatig Cymru i’w gynnig.