Afan Forest House
Cwm Afan
Cartref pictwresg gyda golygfeydd ysgubol o fynyddoedd Coedwig Afan. Funudau o’r llwybrau beicio enwog a mynydd y Bwlch. Lleoliad delfrydol ar gyfer beicio mynydd, cerdded ac archwilio Dinas Caerdydd, Abertawe, Bannau Brycheiniog a Gŵyr.
Gallwch fwynhau diod yn yr ardd sy’n edrych allan dros y mynyddoedd, coginio pryd Cymreig traddodiadol yn y gegin sy’n cynnwys yr holl gyfarpar, neu ymlacio o flaen y tân.
3 ystafell wely, gyda lle i 6 gysgu. Delfrydol ar gyfer beicwyr, teuluoedd a chyplau.
WIFI, Teledu Clyfar (Netflix, Amazon Prime) a lle i Storio Beiciau.