Brynglas Retreat Campsite
Upper Amman Valley
Location:
Gwersyllfa fach, dawel a heddychlon i oedolion yn unig yw Brynglas ar safle aml-lefel mewn amgylchedd godidog ac ymlaciol. Mae’n lle perffaith i gael eich cefn atoch ymhell o brysurdeb bywyd pob dydd, a’r unig sain sydd i’w glywed yma yw murmur y nant ar ei thaith trwy’r safle.
Cafodd Brynglas ei gynnwys mewn rhestr o’r 12 safle lled-wyllt gorau yng Nghymru yng nghylchgrawn ar-lein National Geographic. Mae’r safle ynghanol tir comin a thir amaeth gyda llwybrau cerdded a golygfeydd godidog yn uniongyrchol o’r safle yng nghysgod y Mynydd Du a’r ardaloedd cyfagos!
Rydyn ni’n croesawu cŵn mewn faniau gwersylla a phebyll