Brynglas Retreat Campsite
Dyffryn Aman Uchaf
LLEOLIAD:
Gwersyllfa fach, dawel a heddychlon i oedolion yn unig ydyn ni ar safle aml-lefel mewn amgylchedd godidog ac ymlaciol. Mae’n lle perffaith i gael eich cefn atoch ymhell o brysurdeb bywyd pob dydd, a’r unig sain sydd i’w glywed yma yw murmur y nant ar ei thaith trwy’r safle. Gallwch fwynhau’r golygfeydd a’r seiniau i gyd wrth i chi eistedd yn ein hen gerbyd rheilffordd ger y tân agored cyffredin!
Mae gennym gaban, 2 bòd, 4 llain yr un ar gyfer faniau gwersylla a phebyll a chawsom ein cynnwys mewn rhestr o’r 12 safle lled-wyllt gorau yng Nghymru yng nghylchgrawn ar-lein National Geographic eleni!! Mae’r safle ynghanol tir comin a thir amaeth gyda llwybrau cerdded a golygfeydd godidog yn uniongyrchol o’r safle yng nghysgod y Mynydd Du a’r ardaloedd cyfagos!
* Rydyn ni’n croesawu cŵn mewn faniau gwersylla a phebyll *