Canolfan Ddarganfod Margam FSC
Port Talbot
Mae Canolfan Ddarganfod Margam FSC wedi’i lleoli ym Mharc Margam, ystâd wledig 850 erw sy’n swatio ar y gwastadedd arfordirol cul a llethrau deheuol Mynydd Margam.
Mae 33 ystafell yng Nghanolfan Ddarganfod Margam FSC, pob un â chyfleusterau en-suite. Mae modd defnyddio’r ystafelloedd fel rhai sengl, dau, tri neu bedwar gwely gan fod y gwelyau ym mhob ystafell wedi eu dylunio i blygu o’r ffordd er mwyn gwneud y gorau o’r gofod. Mae pump o’r ystafelloedd wedi eu dylunio’n benodol i fod yn rhai hygyrch gyda chyfleusterau ystafell ymolchi wedi eu haddasu’n arbennig.
Mae amrywiaeth o ardaloedd hamdden yn y ganolfan. Mae yno ddwy ystafell gyffredin gyda theledu digidol, tenis bwrdd, gemau bwrdd a chyfleusterau gwneud diodydd poeth ac oer, ac mae gofod awyr agored mawr hefyd.