Gwersyllfa Glyncorrwg
Cwm Afan
Lleolir Gwersyllfa Glyncorrwg ym mherfeddion Cwm Afan, ar bwys Canolfan Beicio Mynydd Glyncorrwg. Os ydych chi’n feiciwr mynydd, dyma’r lle delfrydol i chi. Gallwch godi gyda’r wawr, cael tamaid o frecwast yng nghaffi Cwtsh Corrwg a chychwyn ar y llwybr cyntaf cyn pen dim. Os nad ydych chi’n chwilio am gyffro a’ch bod am gael penwythnos mwy ymlaciol, mae gan ein gwersyllfa naws heddychlon ac mae’n agos at lawer o lwybrau cerdded troellog hamddenol.
Mae lle yn y wersyllfa i 30 o garafannau neu 60 o bebyll. Mae cysylltiad trydan ar gyfer 8 carafán a llawer o gyfleusterau gwych eraill i sicrhau y cewch arhosiad pleserus. Mae Canolfan Beicio Mynydd Glyncorrwg yn ganolbwynt ar gyfer y wersyllfa a cheir yno gawodydd, toiledau, man golchi beiciau, storfa feiciau, siop feiciau a chanolfan drwsio ynghyd â chaffi sy’n cynnig bwyd cartref a blas o Gymru. Mae’r ganolfan hefyd yn cynnig gwybodaeth i wersyllwyr am y llwybrau beicio, y cyfleusterau lleol, pysgota ac unrhyw wybodaeth arall sydd ei hangen arnoch i fwynhau eich arhosiad.
Mae ei safle yng nghanol Cwm Afan ger Canolfan Beicio Mynydd Glyncorrwg yn golygu bod Gwersyllfa Pyllau Glyncorrwg yn llecyn perffaith ar gyfer beicwyr mynydd brwd; mae’r ganolfan yn fan cychwyn ar gyfer dau o’r llwybrau beicio mynydd felly gallech chi ddim bod yn nes at y cyffro.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Chanolfan Beicio Mynydd Glyncorrwg drwy ffonio 01639 851900 / 01639 699802 / afanablast@outlook.com