Parc Gwledig Coetir Craig Gwladus
Castell-nedd
Mae Parc Gwledig Coetir Craig Gwladus, ar ochr bryn coediog sy’n cynnig golygfeydd ysblennydd o ran isaf Cwm Nedd, yn ymweliad hanfodol i’r rhai sy’n mwynhau cerdded a sylwi ar fyd natur.
Mae’r parc yn cynnal ystod o deithiau cerdded a digwyddiadau bychain ar hyd y flwyddyn.
Cewch hyd i’r fynedfa i Goetir Craig Gwladus ym Mhenscynor, Cilffriw, oddi ar yr A465.