Parc Gwledig Ystâd y Gnoll
Castell-nedd
Bu Ystâd y Gnoll ar un adeg yn eiddo i deulu’r diwydianwyr cyfoethog Mackworth a wariodd eu ffortiwn ar y plasty a’r ystâd wledig hon. Mae eu cartref crand wedi’i ddymchwel ers tro byd gan adael olion hardd. Fodd bynnag, datblygwyd yr ystâd yn barc gwledig hyfryd, llawn mannau gwyrdd agored, llynnoedd, coetiroedd gwyllt a rhaeadrau.
Ymhlith yr atyniadau mae canolfan ymwelwyr a chaffi, lle chwarae i blant sy’n addas ar gyfer plant anabl, maes chwarae antur, pysgota, golff troed a chwrs pitsio a phytio. Mae’n gartref i’r Parkrun 5km wythnosol hefyd.