Go Ape ym Mharc Margam
Port Talbot
Cwrs antur yn uchel yn y coed, yng nghanol harddwch Parc Gwledig Margam, yw Go Ape, ac yno cewch rai o olygfeydd gorau Cymru.
Yn Go Ape byddwch yn mentro ar gwrs rhwystrau yn uchel ym mrigau’r coed, yn brasgamu trwy’r goedwig ar siglen Tarzan fwyaf y Deyrnas Unedig, ac yn teimlo cyffro weiren sip 180 metr.