Clwb Golff Castell-nedd
Bro Nedd
Mae Cwrs Golff Castell-nedd yn manteisio ar y tirlun naturiol i greu her golff heb ei hail. Mae’r cwrs rhostir yn cynnwys coed, grug, eithin, waliau cerrig sych a grîniau tonnog braf sy’n brawf ar allu pob chwaraewr. Mae’r glaswellt yn berffaith ar gyfer cwrs golff gan gynnig llwybrau teg a grîniau cadarn. Mae’r lleoliad ar lwyfandir uwch ben Cwm Nedd yn golygu bod nodweddion chwarae’r cwrs yn newid gyda’r elfennau bob dydd. Mae’r cwrs yn newid cyfeiriad yn gyson gan ddefnyddio’r gwynt fel amddiffyniad ac mae cynllun y cwrs yn brawf ar strategaeth a chywirdeb. Chwaraeir y pymthegfed twll, par 4, 391 llath, o un ochr i graig enfawr i lawr at lwybr teg oddeutu 80 troedfedd islaw gyda’r golygfeydd yn ymestyn i’r pellter. Mae’r ergyd o’r ti yn gyrru’r bêl allan i ganol yr wybren. Cwrs gwirioneddol wych gyda phanorama dramatig dros y mynyddoedd cyfagos a’r arfordir.