Amgueddfa Glowyr De Cymru
Cwm Afan
Mae’r amgueddfa hon, sy’n rhan o Ganolfan Ymwelwyr Parc Coedwig Afan, yn adrodd hanes cloddio am lo yng Nghwm Afan. Fe’i hagorwyd yn 1976 gan gyn-lowyr o’r ardal, er mwyn dechrau rhannu eu profiadau o weithio mewn amgylchedd mor arw. Yr adran o’r amgueddfa sy’n portreadu’r llafur caled roedd plant yn ei gyflawni dan ddaear sydd fel arfer yn creu’r argraff fwyaf ar ymwelwyr.