Bro’r Sgydau, Pontneddfechan
Bro Nedd
Yn swatio ar lethrau deheuol masiff y Fforest Fawr, i’r gogledd o Lyn-nedd, mae Bro’r Sgydau yn un o’r rhannau mwyaf prydferth a phoblogaidd o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a Geoparc y Fforest Fawr, gyda cheunentydd serth, coediog a digonedd o ddŵr aflonydd.
Lleolir Bro’r Sgydau yn y triongl a ffurfiwyd gan bentrefi Hirwaun, Ystradfellte a Phontneddfechan. Yma, mae haenau o dywodfaen, siâl a chalchfaen wedi creu amgylchedd trawiadol dros ben o geunentydd coediog, ogofâu a rhaeadrau (sgydau).
Sylwer oherwydd y perygl sylweddol o ganlyniad i lifoedd dŵr anrhagweladwy, ni ddylai ymwelwyr fynd i mewn i’r dŵr yng Ngwlad y Sgydau oni bai eu bod yn rhan o grŵp gweithgareddau wedi’i drefnu yng nghwmni hyfforddwyr cymwys.
∗ Mae Bro’r Sgydau yn denu llawer iawn o ymwelwyr ar hyn o bryd*
Cyn i chi ymweld, byddwch yn ymwybodol o’r canlynol:
– Mae’r meysydd parcio yn aml yn llawn erbyn canol dydd, os nad yn gynt.
– Bydd parcio anghyfreithlon yn arwain at ddirwy. Parciwch yn y mannau parcio dynodedig yn unig ac nid ar ymyl y ffordd nac ar y palmentydd.