Antur Naturiol yng Nghalon Ddramatig Cymru

Mae mis Ionawr yn amser gwych i ddechrau cynllunio eich gwyliau am y flwyddyn i ddod. Os yw cymoedd eang, llwybrau cerdded drwy goetiroedd, milltiroedd o dywod euraid, rhaeadrau hardd a rhai o olygfeydd gorau De Cymru’n swnio’n ddelfrydol – yna mae Calon Ddramatig Cymru yn berffaith ar eich cyfer chi.

Felly beth am gynllunio penwythnos i ymlacio’n llwyr ynghanol golygfeydd digymar Castell-nedd Port Talbot.

Dyma beth ysbrydoliaeth ar gyfer eich gwyliau gartref llawn golygfeydd …

 

Morlin

Mae morlin Aberafan yn boblogaidd ymysg y miloedd o bobl sy’n ymweld yn flynyddol diolch i’w dair milltir o dywod euraidd a’i bromenâd hir.

Wrth gerdded ar draeth Aberafan gallwch fwynhau’r golygfeydd ysblennydd ar draws arfordir Bae Abertawe ac anadlu awyr y môr i’ch adfywio ynghanol yr harddwch tawel.

Glan y môr yw’r lle perffaith hefyd i weld tirwedd hynod gyferbyniol y Galon Ddramatig, gyda’i mynyddoedd anhygoel a’i chymoedd dwfn yn edrych i lawr dros ei gwaith dur enfawr.

Pa bynnag dymor y byddwch yn dod yma, mae’n lle perffaith i ymlacio, adnewyddu a mwynhau’r golygfeydd gorau.

 

Cymoedd

Mae Calon Ddramatig Cymru yn gartref i bump o’r cymoedd mwyaf trawiadol.

Mae Cwm Nedd yn llawn o olygfeydd toreithiog y gallwch ddod i’w hadnabod ar droed, ynghŷd â nifer o geunentydd, ogofâu a rhaeadrau naturiol i’w canfod.

Roedd Cwm Dulais, sy’n dawel bellach, gynt yn gartref i dreftadaeth ddiwydiannol, ond bellach mae’r dirwedd hardd wedi cael ei hadennill gan natur ac mae’n llawn teithiau cerdded poblogaidd.

Mae Cwm Tawe’n llawn mynyddoedd dramatig a golygfeydd panoramig i bob cyfeiriad, gyda threfi a phentrefi wedi’u gwasgaru ynghanol y golygfeydd trawiadol.

Mae Cwm Aman Uchaf ar ymyl Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac mae’n odidog gyda’i fynyddoedd tonnog a’i dirwedd agored sy’n ddelfrydol ar gyfer crwydro.

Mae tirwedd garw ac erwau tir Cwm Aman yn berffaith ar gyfer y rhai sydd am fynd yn ôl at natur a mwynhau’r golygfeydd unigryw.

 

Fflora a Ffawna

Ewch i ymweld â Pharc Gwledig Ystâd y Gnoll yn y Gwanwyn ac fe welwch fôr o glychau’r gog ar lawr y goedwig. Mae’r Gnoll yn nefoedd i wylwyr adar gyda theloriaid y coed, cnocellod fraith fawr a drywod eurben i’w gweld yno.

Mae’n dyfrffyrdd hefyd yn fannau gwych ar gyfer blodau a bywyd gwyllt. Mae camlesi Cwm Tawe a Chwm Nedd yn gartref i friallu Mair sawrus, briallu a gellysg melyn yn ogystal â llysiau’r milwr coch ffa cors eddïog ac amrywiaeth eang o rywogaethau gwas y neidr.

 

Barod i ymweld?

Os ydych chi’n barod i ymlacio a chanfod harddwch naturiol Calon Ddramatig Cymru, dysgwch ragor am ein tirwedd anhygoel yma.

Er mwyn cynllunio eich gwyliau gartref a chael gwybod am lety yng Nghastell-nedd Port Talbot, dysgwch ragor yma.