Anturiaethau’r Hydref yng Nghalon Ddramatig Cymru

Wrth i’r dyddiau droi’n hydrefol gyda’r cymoedd yn troi’n aur a melyngoch, does dim amser gwell i ddod i adnabod Calon Ddramatig Cymru. P’un a ydych chi’n rhywun sy’n cerdded yn rheolaidd neu’n rhywun sy’n chwilio am brynhawn hamddenol yn yr awyr iach, mae’n hardal yn cynnig llawer o lwybrau hardd i chi fwynhau lliwiau’r tymor.

Pam mai’r hydref yw’r amser perffaith i grwydro yng Nghastell-nedd Port Talbot

Yn swatio rhwng Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a Bae Abertawe, mae Calon Ddramatig Cymru’n gartref i fryniau coediog, ystadau hanesyddol a dyfrffyrdd troellog. O droeon hawdd ar lannau’r camlesi i deithiau cerdded mwy anturus yn y cymoedd, mae pob taith yn datgelu golwg newydd ar harddwch dramatig yr ardal, yn enwedig pan fydd wedi’i wisgo yn lliwiau llachar yr hydref.

Y Teithiau Cerdded Gorau i weld Lliwiau’r Hydref

 

Taith Rhyslyn, Cwm Afan

Ble: Parc Coedwig Afan ger Pontrhydyfen
Pellter: 2.5 milltir (cymedrol)

Mae Taith Rhyslyn yn glyd yng nghanol coedwigoedd Cwm Afan ac mae’n cynnig llwybr hamddenol drwy goetir hynafol gyda fflachiadau o ffawydd euraidd a derw copr yn cael eu hadlewyrchu yn Afon Afan islaw. Mae’n llwybr perffaith ar gyfer taith i’r teulu neu i fynd am dro prynhawn gyda’r ci.

Camlesi Castell-nedd a Resolfen

Ble: O ganol tref Castell-nedd i Resolfen (amryw o fannau cychwyn)
Pellter: Dewiswch rhwng 3 ac 8 milltir (hawdd)

Am daith gerdded dawel a gwastad rhwng y dŵr a’r coed, mae Camlesi Castell-nedd a Thennant yn ddiguro. Yn yr hydref, mae llwybrau’r gamlas yn troi’n dwneli i liw – dychmygwch ddail bedw melyn yn syrthio’n araf ar y dŵr llonydd. Mae llwybr y gamlas yn berffaith i feicwyr ac i rai sydd angen llwybr cerdded mwy hygyrch.

Parc Margam a Llwybr yr Hen Eglwys

Ble: Margam, ger Port Talbot
Pellter: Llwybrau amrywiol (rhwng 1 a 6 milltir)

Mae Parc Margam yn lleoliad y mae’n rhaid ymweld ag ef yn yr hydref, yn cynnig cyfuniad o barcdir hanesyddol, coed hynafol a golygfeydd panoramig ar draws y Bae. Mae Llwybr yr Hen Eglwys yn eich arwain heibio olion Abaty Margam, drwy rodfeydd ffawydd â’u dail copr ac o gwmpas llynnoedd tawel.

I deuluoedd, mae’r llwybr heibio’r parc ceirw a’r fferm yn cynnig digonedd o anturiaethau i’w mwynhau a bydd ffotograffwyr yn mwynhau’r cyferbyniad o waith carreg gothig yn erbyn y dail llachar.

Awgrymiadau ar gyfer eich taith gerdded hydrefol

  • Gwiriwch y tywydd cyn cychwyn allan: mae’r hydref yng Nghymru’n hardd ond yn gallu bod yn anodd ei ragweld!
  • Gwisgwch haenau ac esgidiau sy’n dal dŵr: mae llwybrau’n gallu bod yn fwdlyd.
  • Paciwch fyrbrydau a dŵr, neu stopiwch mewn caffi lleol am luniaeth.
  • Cadwch at y llwybrau sydd wedi’u marcio a pheidiwch â gadael dim ar ôl: cadwch y tirweddau hyn mor lân ag yr oedden nhw pan gyrhaeddoch chi.
  • Dewch â chamera – mae’r wawr a diwedd y prynhawn yn berffaith ar gyfer dal y cymoedd ar eu cyfnodau mwyaf ffotogenig.

Barod i Grwydro?

P’un a ydych chi’n ymlwybro ar hyd camlesi tawel neu’n crensian drwy ddail y goedwig, mae’r hydref yng Nghalon Ddramatig Cymru’n addo tymor o anturiaethau bythgofiadwy. Clymwch eich esgidiau cerdded, anadlwch yr awyr iach a dewch i weld y rhanbarth ar ei fwyaf lliwgar.

Mae mapiau, manylion llwybrau a rhagor o ysbrydoliaeth i gerdded ar ein gwefan:
dramaticheart.wales/discover-our-area/activities/walking