Mae llawer o ddigwyddiadau cyffrous yr haf yma yng Nghalon Ddramatig Cymru. O nosweithiau comedi fydd yn gwneud i chi rowlio chwerthin i gyngherddau lle bydd canu’n codi’r to, mae rhywbeth ar gyfer pawb. Dyma 12 o’n hoff awgrymiadau ar gyfer Mehefin a Gorffennaf.
Mae rhagor o wybodaeth ar y digwyddiadau hyn i’w gweld fan hyn.
16eg Mehefin: Go Your Own Way
Ymunwch â ni yn Theatr y Dywysoges Frenhinol am sioe hudolus gyda cherddoriaeth y chwedlonol Fleetwood Mac.
Ewch i wefan Theatr y Dywysoges Frenhinol fan hyn.
16eg Mehefin: Rocking with Laughter Mike Doyle
Gallwch ddisgwyl noson o gomedi unigryw fydd yn adloniant pur. Ymunwch â Mike Doyle a’i fand byw yn Neuadd Gwyn.
Ewch i wefan Neuadd Gwyn fan hyn.
18fed Mehefin: Llwybr y Ddraig ym Mharc Margam
Dangoswch eich cefnogaeth neu gymryd rhan, hyd yn oed, yn Sportive mwyaf clodfawr y DU. Mae pob llwybr ar gyfer y marathon beicio anghystadleuol hwn yn dechrau ac yn gorffen ym Mharc Gwledig Margam.
Ewch i wefan Parc Gwledig Margam fan hyn.
24ain Mehefin: Nick Cope
Bydd seren CBeebies a’r cerddor plant Nick Cope yn perfformio yng Nghanolfan y Celfyddydau Pontardawe! Digwyddiad perffaith i deuluoedd yr haf yma.
Ewch i wefan Canolfan y Celfyddydau Pontardawe fan hyn.
24ain Mehefin: Noson gyda Warren Gatland
Pedwar pencampwriaeth y Chwe Gwlad, tair Camp Lawn a chyrraedd rownd gyn-derfynol Cwpan Rygbi’r Byd ddwywaith – dim ond rhai o gyflawniadau Gatland yw’r rhain. Ymunwch ag un o’r hyfforddwyr rygbi mwyaf llwyddiannus yn Neuadd Gwyn.
24ain Mehefin: Cwrdd â’r World Wildlife Federation
Galwad i bob un sy’n caru anifeiliaid! Dewch i gwrdd â’r WWF ym Mharc Gwledig Margam i ddysgu mwy am eu gwaith pwysig yn datrys heriau amgylcheddol ar draws y byd.
25ain Mehefin: Cyfres Valleys Enduro ym Mharc Coedwig Afan
Mae Western Bike Events yn cynnal ras VAS ym Mharc Beiciau Afan i feicwyr o bob gallu. Dewch i ddangos eich cefnogaeth neu i gystadlu yn y ras gyffrous.
30ain Mehefin: Oh What a Night
Noson yng Nghanolfan y Celfyddydau Pontardawe fydd yn mynd â chi yn ôl i’r gorffennol pan oedd Franke Valli a’r Four Seasons i’w clywed ar y radio ym mhobman.
1af Gorffennaf: Harry ReStyles
Bydd Kofi Taylor yn dod â rhywfaint o ‘Watermelon Sugar’ i Theatr y Dywysoges Frenhinol yr haf yma am noson o adloniant gyda chaneuon Harry Styles.
7fed ac 8fed Gorffennaf: Gŵyl NRT 2023
Dewch i Gaeau Chwarae Cwrt Herbert, Castell-nedd, am ŵyl deuluol yn llawn hiraeth a thalentau lleol. Y prif berfformwyr fydd Toploader, Dodgy a Tinchy Stryder.
8fed a 9fed Gorffennaf: Barrio Fiesta sa
Digwyddiad diwylliannol yn cael ei gyflwyno i chi gan Ffilipiniaid yng Nghymru. Dau ddiwrnod o fwyd, cerddoriaeth a dawns fydd yn brofiad pleserus ym Mharc Gwledig Margam.
13eg Gorffennaf: Do you Believe in Ghosts? Theatr y Dywysoges Frenhinol
Mae stori ysbryd drwy brofiad yn aros am y rhai sy’n ddigon dewr i gadw’r ysbrydion drygionus i ffwrdd yn Theatr y Dywysoges Frenhinol. Awgrymir mai digwyddiad i 18+ yw hwn.