Blog Gwadd: Gwyliau Laura Sidestreet yn y Galon Ddramatig Cymru
Roedd hi’n bleser croesawu’r blogiwr Laura Sidestreet i aros am benwythnos yng Nghalon Ddramatig Cymru. Cewch wybod beth fu Laura a’i theulu’n ei wneud yn ei blog gwadd.
Mae Castell-nedd Port Talbot, neu fel y’i gelwir Calon Ddramatig Cymru yn ardal lle treuliais i benwythnos yn ddiweddar gan ymchwilio’n ddyfnach i’r hyn sy’n gwneud y rhan yma o Dde Cymru mor arbennig, o’i hanes a’i threftadaeth swynol i’w harfordir hardd, ei llwybrau drwy goedwigoedd a’i hanturiaethau cyffrous.
Mae’r lleoliad yng nghanol De Cymru gyda mynediad hawdd i’r arfordir, mynyddoedd, cefn gwlad a phrifddinas Cymru ac mae’n lle perffaith i fod er mwyn crwydro a dod i adnabod y rhanbarth. Gyda hanes diwydiannol a glofaol cryf mae llawer o adfeilion a phethau i’n hatgoffa o’r dyddiau fu yn cynnwys rhwydwaith o gamlesi, gweithfeydd haearn ac Abaty trawiadol.
Fe lwyddon ni i neud llwyth o bethau yn ystod ein taith ddiweddar a dwi wedi llunio’r canllaw yma yn y gobaith y bydd yn ysbrydoli eraill i ymweld ag ardal Castell-nedd Port Talbot.
7 o Bethau i’w Gwneud yng Nghastell-nedd Port Talbot
Abaty Nedd a’r Gweithfeydd Haearn
Bu Abaty Nedd unwaith yn un o abatai cyfoethocaf Cymru ac roedd tua 50 o fynachod yn byw yma; mae’n un o’m prif argymhellion wrth ymweld â’r ardal. Mae’r adfeilion yn bwysig ac yn drawiadol ac does dim rhaid talu i grwydro drwyddynt. Mae’n lle hynod ddiddorol i bob oedran ac fe fwynhaodd fy mhlant grwydro drwy’r adfeilion a dysgu am yr hanes. Roedd unwaith yn safle o rym, yn grefyddol ac yn ddiwydiannol, gyda ffwrneisi’r gweithfeydd haearn o fewn pellter cerdded. Mae camlas a llwybr tynnu Tennant hefyd yn rhedeg wrth ochr yr Abaty ac mae’n lle hyfryd i fynd am dro.
Sgwd Rhyd-yr-hesg
Mae Sgwd Rhyd-yr-hesg yn un o’r trysorau cudd yna, rhaeadr llai adnabyddus ond yr un mor drawiadol yn 80tr o uchder ac wedi’i leoli mewn coetir hardd. Mae modd ei gyrraedd hefyd o’r maes parcio cyfagos, gan gerdded am rhyw 10 munud drwy’r goedwig ac felly mae’n addas ar gyfer pob oedran cyn belled â’u bod yn gymharol ffit ac iach gan bod rhai llethrau serth y mae’n rhaid bod yn ymwybodol ohonyn nhw. Yr hyn sy’n wych am Rhyd-yr-hesg, yn wahanol i rai o’r rhaeadrau mwy poblogaidd, ei fod yn hyfryd o dawel, heb giwiau o bobl, dim ond heddwch y goedwig a’r dŵr.
Parc Gwledig Margam
Mae Parc Gwledig Margam wedi’i osod o fewn 1000 erw o barcdir a gallwch yn hawdd dreulio’r rhan fwyaf o’r dydd yn crwydro ynddo. Mae gan y parc gymaint o nodweddion ffantastig o adfeilion hanesyddol y mynachdy sy’n dyddio’n ôl i 1147 a Chastell Gothig Tuduraidd o’r 18fed ganrif, ynghyd â gerddi gwych gyda Choeden y Flwyddyn Cymru yn un ohonyn nhw. Bydd y plant yn mwynhau gweld y ceirw sy’n byw yn y parc, y llwybr fferm a’r parc antur ffantastig. Os ydych chi eisiau taith gerdded fwy heriol yna bydd anelu am olygfan y pulpud yn eich gwobrwyo gyda golygfeydd rhyfeddol dros arfordir Cymru i gyfeiriad Gwlad yr Haf. Mae’r parc gwledig yn rhad ac am ddim i chi ei fwynhau ond mae tâl parcio o £7.20 am y dydd.
Go Ape Margam
Wedi’i leoli yn nhiroedd Parc Gwledig Margam hefyd, fe ddewch o hyd i Go Ape Margam sy’n gartref i unig Her Treetops Cymru a Swing Tarzan mwyaf y DU. Mae wedi’i osod yn uchel ynghanol y coed lle cewch chi olygfeydd syfrdanol ar draws y parc; nid rhywbeth i’r gwangalon yw hwn ond i blant dros 10 oed ac i oedolion sy’n ceisio antur – bydd yn brofiad rhyfeddol. Roedd fy mhlentyn 13 oed wedi mwynhau hwn yn enfawr, a minnau hefyd, a byddwn wir yn argymell rhoi cynnig arno.
Traeth Aberafan
Dyma un o draethau hiraf Cymru gyda 3 milltir o draeth tywod ac mae’n lle perffaith ar gyfer chwaraeon dŵr yn cynnwys syrffio a phadlfyrddio. Mae yma barc sglefrio a lle chwarae sblasio (tymhorol) a digon o seddi i eistedd arnyn nhw a mwynhau’r golygfeydd. Mae’r promenâd hefyd yn rhan o’r Llwybr Beicio Cenedlaethol felly mae’n berffaith ar gyfer beicio. Mae dewis da o gaffis a bwytai ar hyd y promenâd: fe wnaethon ni fwynhau sglodion clasurol a hufen iâ wrth dreulio prynhawn ar y traeth yn casglu cregyn a nofio yn y môr.
Amgueddfa Glowyr De Cymru
Er na wnaethon ni ymweld â’r amgueddfa y tro yma, fe fuon ni yno dro yn ôl a mwynhau yn fawr iawn. Wedi’i leoli yn harddwch Cwm Afan, mae’r amgueddfa’n cael ei redeg gan wirfoddolwyr sy’n angerddol dros hyrwyddo treftadaeth ddiwydiannol Cwm Afan. Mae’r amgueddfa yn hwyl yn ogystal â bod yn brofiad addysgiadol gyda thaith “danddaearol” dan do sy’n rhoi golwg go iawn i chi o beth oedd glöwr yn ei wneud, yn ogystal ag arddangosfeydd awyr agored megis siop y gof ac ystafell lampau. Roedd fy mhlant wedi mwynhau dysgu rhagor am Dde Cymru a rôl y glowyr yn fawr iawn.
Llwybr Cerdded Cilybebyll
Taith gylchol hyfryd drwy gymysgedd o goetiroedd a dolydd, dros nentydd bychan gan fwynhau ynghanol natur rhyfeddol cefn gwlad Cymru. Mae’r llwybr yn mynd drwy bentref bychan tlws Cilybebyll, lle roedden ni’n digwydd bod yn aros yn ystod ein cyfnod yma, ac mae’n cynnig golygfeydd tlws ar draws Cwm Tawe. Mae’r daith gerdded yn addas i bob oedran ac yn berffaith i’r rhai sy’n hoffi gwylio bywyd gwyllt gan bod llawer o adar a fflora a ffawna o gwmpas i’w gweld.
Ble i fwyta yng Nghastell Nedd
Mae tref Castell-nedd ei hun yn llawn o fwytai a chaffis amrywiol, gyda rhywbeth ar gyfer pob pwrs neu flas ac maen nhw hefyd yn cynnal gŵyl fwyd flynyddol felly os ydych chi’n hoffi bwyd byddwn i’n argymell ymweld â Chastell-nedd: chewch chi mo’ch siomi. Ar hyd a lled y fwrdeistref mae amrywiaeth o dafarnau, caffis ac ystafelloedd te i chi eu profi. Er ein bod wedi defnyddio cyfleusterau hunan arlwyo ein llety, fe wnaethon ni hefyd fynd i ambell sefydliad lleol am fwyd ar hyd y daith, a dyma ddau y byddwn i’n eu hargymell.
Brew&Co, Castell-nedd
Fe aethon ni i’r caffi bach cŵl yma am ginio ysgafn, a dwi mor falch ein bod wedi gwneud hynny. Mae’r fwydlen yn eithaf syml – ac mae’n well gen i hynny (gwneud ychydig o bethau’n dda yn hytrach na llawer o ddewis heb fod cystal). Dewisodd fy mechgyn y crempog gyda surop masarn gan fwyta’r cyfan yn awchus; fe ddewisais i’r halwmi a’r afocado ar dost trwchus ac roedd e’n flasus iawn, fel eu lemonêd pinc. Maen nhw hefyd yn gwneud coffis artisan ac yn rhoi croeso i gŵn.
Caffi Remos, Traeth Aberafan
Mae Caffi Remos ar y promenâd yn Aberafan ac mae digon o ddewis yma, o ginio canol dydd ysgafn i bizzas a phasta, ond fe wnaethon ni wir fwynhau y Gelato anhygoel. Maen nhw’n gwneud gelato dilys yn yr adeilad bob dydd ac mae ganddyn nhw ddewis gwych o flasau bendigedig. Fe gawson ni’r Pistachio a’r caramel hallt a mwynhau’r ddau yn fawr!
Lle wnaethon ni aros – Bythynnod Tan yr Eglwys
Fe arhoson ni ym Mwthyn y Sgubor sydd wedi’i leoli yn mhentrefan hyfryd Cilybebyll; roedd yn ganolfan perffaith ar gyfer crwydro Castell-nedd Port Talbot ac roedd popeth yno ar gyfer arhosiad cysurus a chlyd. Mae lle i hyd at 6 o bobl ym mwthyn y Sgubor felly mae’n wych ar gyfer teuluoedd neu grwpiau mwy ac mae yno gegin fawr a gofod patio ar gyfer bwyta gyda’n gilydd gyda’r nos yn dilyn diwrnod hir o grwydro’r wlad. Mae llwybr cerdded cylchol Cilybebyll yn mynd heibio’r bwthyn, ac fe wnaethon ni fanteisio ar hynny wrth gwrs.
Mae’r golygfeydd o ffenestri’r bwthyn ar draws Cwm Tawe a’r wlad yn hardd ac mae’r perchnogion yn wybodus iawn am yr ardal.
Darllenwch flog llawn Laura fan hyn. Ydych chi eisiau cynllunio eich taith eich hun i Galon Ddramatig Cymru? Dysgwch ragor fan hyn.