Clwb Criced Castell-nedd yn maesu pobl ar draws De Cymru
Mae gan Glwb Criced Castell-nedd hanes hir a chlodfawr o groesawu timoedd i’r cae o bob rhan o’r byd a chroesawu chwaraewyr sy’n enwog yn rhyngwladol fel Ricky Ponting.
Mae’r clwb yn adnabyddus ac yn fawr ei barch ar draws De Cymru am greu chwaraewyr talentog ac angerddol sy’n aml yn mynd ymlaen i gynrychioli Morgannwg ar lefel sirol.
Diolch i’w hanes hir yn yr ardal, sy’n ymestyn yn ôl dros 170 o flynyddoedd, mae’r clwb wedi cysylltu gyda phobl ar draws Castell-nedd gyda llawer yn teimlo’n rhan o’r sefydliad chwaraeon hwn.
Un person o’r fath yw hyfforddwr staff presennol Morgannwg Adrian Shaw sy’n breswylydd balch yng Nghastell-nedd; blodeuodd ei gariad tuag at griced fel bachgen ifanc yn chwarae ar y llain yng Nghastell-nedd.
Mae Adrian yn edrych ymlaen at hyfforddi Morgannwg yng Nghlwb Criced Castell-nedd ym mis Awst wrth iddyn nhw chwarae Sir Gaerhirfryn a Hampshire; yma mae’n dweud wrthym pam fod y clwb yn dal yn agos iawn at ei galon…
“Rydw i wedi byw yng Nghastell-nedd erioed; dwi’n dod o Dregatwg sy’n agos at Gastell-nedd, felly mae gen i gysylltiad emosiynol â’r clwb a’i chwaraewyr.
“Mae gen i atgofion melys iawn o chwarae yma yn fachgen ifanc, ond un o’m hoff atgofion fel chwaraewr hŷn oedd chwarae yn erbyn Awstralia ym 1994 yn erbyn chwaraewyr fel Ricky Ponting, oedd yn bleserus iawn.
“Mae rhai gemau cofiadwy wedi cael eu chwarae ar ein cae hyfryd dros y blynyddoedd ac mae gennym griw ymroddedig a ffyddlon o gefnogwyr hefyd.
“Mae gen i atgofion melys o chwarae ar lefel clwb yn yr ardal dros glybiau fel Dur Llansawel, Ynysygerwn, ac fel cyfarwyddwr criced yng Nghastell-nedd, felly mae rhai o’m hatgofion gorau fan hyn.
“I mi, mae Castell-nedd ac ardaloedd De Cymru ychydig yn arbennig mewn perthynas â chriced gan fod gennym fagwrfa o chwaraewyr criced gwych a hanes o griced gwych yn cael ei chwarae, ac mae llawer o glybiau arbennig yn yr ardal sydd wedi cyfrannu’n helaeth at lwyddiant criced Morgannwg dros y blynyddoedd.
“Mae gen i ragfarn amlwg wrth gwrs gan mod i wedi byw a chwarae yma ar hyd fy mywyd, ond mae criced Castell-nedd yn golygu llawer i mi ac mae’n agos at fy nghalon.
“Un o’r rhannau mwyaf gwerthfawr yn fy rôl bresennol fel hyfforddwr staff gyda chriced Morgannwg yw meithrin diddordeb yn y gamp ymhlith y genhedlaeth nesaf o chwaraewyr a hyfforddwyr iau mewn ardaloedd sy’n cynnwys Castell-nedd.
“Rwy’n credu fod meithrin talent newydd o Gastell-nedd a’r cyffiniau yn hynod bwysig ac mae’n sicrhau bod traddodiad gwych criced Castell-nedd yn cael ei gadw’n fyw ac yn iach ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”
Bydd Morgannwg yn chwarae Sir Gaerhirfryn ar 17 Awst a Hampshire ar 19 Awst fel rhan o Gwpan Royal London 2022 yng Nghlwb Criced Castell-nedd.
Am ragor o wybodaeth ar Glwb Criced Castell-nedd ewch i https://neath.play-cricket.com/home