Cynlluniwch eich gwyliau gartref dros ŵyl y banc mis Awst
Oes yna unrhyw beth mwy nodweddiadol Brydeinig na threulio gŵyl banc mis Awst ar lan y môr? Mae traeth tywod Glan Môr Aberafan yn gyrchfan perffaith, boed law neu hindda.
Ar hyd arfordir Calon Ddramatig Cymru mae gan Lan Môr Aberafan bopeth sydd ei angen arnoch i wneud y gorau o ŵyl banc mis Awst – tywod, môr, ewyn y tonnau a haul hefyd (gobeithio).
Yn ffodus, mae modd mwynhau Glan Môr Aberafan beth bynnag yw’r tywydd. P’un a ydych chi’n gobeithio eistedd mewn caffi clyd, nofio yn y môr ar y traeth baner las, neu fynd â’r teulu am ymweliad â’r parc sblasio, mae rhywbeth ar gyfer pawb dros benwythnos gŵyl y banc.
Nofio yn y Môr
Traeth Aberafan yw un o’r traethau hiraf yng Nghymru; gyda 3 milltir o dywod aur, byddwch yn sicr o ddod o hyd i’r lle perffaith i fwynhau a theimlo’r tywod rhwng bodiau eich traed. Mae Cadwch Gymru’n Daclus wedi gwobrwyo Glan Môr Aberafan am ei lendid, felly mwynhewch y golygfeydd hardd ond peidiwch â gadael dim ar wahân i olion traed.
Ar ôl ychydig o dorheulo, adeiladu cestyll tywod a gemau traeth, fyddwch chi’n cael eich temtio i nofio yn y môr? P’un a fyddwch chi’n dewis padlo neu nofio yn y dŵr dwfn, gallwch deimlo’n ddiogel o wybod bod achubwyr bywydau’n gwylio er mwyn cadw nofwyr yn sâff.
I’r rhai sy’n chwilio am fwy o brofiad adrenalin dros ŵyl banc mis Awst, mae gan rhan ddwyreiniol y traeth ardal benodol ar gyfer syrffio a syrffio barcud. Mae rhagor o wybodaeth gan Ysgol Syrffio Cymru.
Promenâd Glan Môr Aberafan
Os ydych chi’n chwilio am fwy o bethau i’w gwneud, does dim angen edrych ymhellach na’r promenâd. Mae parth Aqua Zone yn cynnig yr antur sblasio am ddim gorau ar gyfer teuluoedd. Cofiwch edrych i weld pryd mae ei sesiynau cynhwysol sydd wedi’u teilwra i blant ag anghenion ychwanegol a’u teuluoedd.
Mae dewis o barciau sglefrfyrddio, caeau chwarae antur, ardaloedd chwarae i blant bach iawn a Golff Antur Pirate Cove hefyd ar gael ar hyd y promenâd, felly gallwch gadw’r plant yn hapus hyd yn oed os nad yw’r tywydd yn hollol addas ar gyfer y traeth.
Os oes bygythiad o law, peidiwch â phryderu. Gallwch wylio ffilmiau mawr yr haf a chlasuron i’r teulu yn Sinema’r Reel -, cynllun wrth gefn perffaith os bydd angen i chi ddianc rhag cawod annisgwyl. Am hwyl i’r teulu dan do mae Canolfan Hamdden Aberafan yn cynnig dewis o bwll nofio a gweithgareddau chwarae hefyd, felly gallwch gynllunio eich ymweliad i Lan y Môr gyda sicrwydd y bydd gennych chi ddigon o opsiynau boed law neu hindda.
Llefydd i chi Fwyta
Does dim ymweliad â’r traeth yn gyflawn heb fwyd glan môr eiconig. Fe gewch chi’r pysgod a sglodion gorau yn Franco’s ac mae Remo’s yn ffefryn lleol ar gyfer hufen iâ. Mae’r Front a Cinnamon Kitchen hefyd yn berffaith i ymlacio a mwynhau eich bwyd ar ôl diwrnod prysur, gan gynnig byrgyrs gourmet a danteithion Indiaidd. I’r rhai sy’n chwilio am rywbeth gwahanol fe gewch chi brofiad o ymasiad cyfandirol – wedi’i weini gyda choctels blasus – yn Bar Gallois.
Ydych chi’n teimlo wedi eich ysbrydoli ar gyfer Cynlluniau Gŵyl y Banc Mis Awst? Dysgwch ragor am Lan Môr Aberafan a chynlluniwch eich ymweliad.
Ydych chi’n chwilio am fwy o ysbrydoliaeth ar gyfer gwyliau? Dewch i ganfod eich antur nesaf yng Nghalon Ddramatig Cymru fan hyn.