Dadorchuddiwch y llofruddiaethau, y gwallgofrwydd a’r dirgelwch sy’n rhan o orffennol Margam dros Galan Gaeaf
Gyda thystiolaeth o aneddiadau yn dyddio’n ôl mor bell â’r Oes Efydd, mae Parc Gwledig Margam wedi bod yn gartref i ddiwylliannau amrywiol am ganrifoedd. Dros amser, mae’r hanesion hyn wedi cael eu cuddio mewn chwedloniaeth a dirgelwch – ac mae llofruddiaethau yn rhan o’r hanes tywyll.
I’r rhai sy’n chwilio am gyffro’r anhysbys, neu sydd am ymchwilio i fydoedd tywyll troseddau go iawn, mae Abaty Margam ac Amgueddfa Gerrig Margam yn cynnig profiad gwirioneddol iasol. Ymunwch â ni wrth i ni adrodd y straeon y byddai’n well eu cadw’n dawel.
Hanes Carreg Bodvoc
Yr arteffactau mwyaf cythryblus yw’r rhai sydd i flaen ein llygaid. Mae hyn yn bendant yn wir mewn perthynas â’r Garreg Bodvoc ddisylw.
Yn aml bydd ymwelwyr i Amgueddfa Gerrig Margam yn cerdded heibio’r golofn garreg 5 troedfedd yma, gyda rhai ymwelwyr hyd yn oed yn ceisio dehongli’r ysgrifen Lladin. Pe bydden nhw’n gwybod am y cyngor hynafol, gafodd ei drosglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth, byddai’r ymwelwyr yma’n gwybod yn well na cheisio darllen y geiriau hyn yn uchel.
Mae’r garreg ei hyn yn dyddio’n ôl i ddiwedd y 6ed ganrif, ac yn wreiddiol roedd yn gorwedd ar domen gladdu ar Fynydd Margam. Mae’n un o gerrig bedd mwyaf nodedig Prydain a’r enghraifft hynaf sy’n hysbys yng Nghymru o garreg yn nodi hanes teulu neu’n nodi llinach.
Cafodd ei defnyddio i nodi safle claddu’r rhyfelwr mawr Bodvoc, mab Cattegren a gor-ŵyr y brenin Brythnoeg Eternalis Vedomavus ac mae’n destun chwedlau a mythau sy’n ganrifoedd oed.
Roedd cred bod y garreg yn dangos safle claddu trysor ac y byddai’n rhaid i unrhyw un oedd yn ceisio’r ffortiwn ymladd yn erbyn Ysbryd Bodvoc. Roedd Mynachod Sistersaidd Canoloesol yn cyfeirio at y garreg fel y “garreg sanctaidd”, gan barchu ei dechreuadau hynafol.
Byddai pobl oedd yn marchogaeth drwy ein dyffrynnoedd a’n cymoedd yn troi yn ôl wrth weld y garreg, ac roedd cred hyd yn oed ei bod yn rhoi melltith ar unrhyw un fyddai’n llefaru ei harysgrif rhyfedd.
Dewch i weld y garreg eich hun a dysgu am ei hanes chwedlonol. Ond cofiwch peidio â darllen yr arysgrif yn uchel…
Y ciper aflonydd a lofruddiwyd
Mae’n bosib mai Robert Scott yw’r person enwocaf sydd wedi’i gladdu ym mynwent Abaty Margam. Mae hanes y ciper Robert Scott, gafodd ei lofruddio’n greulon, yn cychwyn ar y nos Iau, 9fed Mehefin, 1898.
Gyda dim ond ffon fel arf, arweiniodd Scott dîm o dri i ymchwilio i adroddiadau bod potsiwr ar diroedd Ystâd Margam. Aeth y tri i gyfeiriadau gwahanol er mwyn archwilio mwy o’r tir, gan wahanu a diflannu i mewn i’r coetir trwchus. Ond dim ond dau ohonyn nhw fyddai’n dod allan o’r goedwig yn fyw.
Dim ond y diwrnod wedyn y daethpwyd o hyd i gorff Scott. Roedd e wedi cael ei saethu ddwywaith a’i guro dros ei ben. Roedd ei anafiadau mor ddrwg nes bod eu bod wedi gwrthod gadael i’w wraig weld ei gorff: roedd raid i Ficer Williamson o Abaty Margam roi gwybod iddi am farwolaeth ei gŵr.
Canfuwyd bod dau ddyn wedi bod yn rhan o’r llofruddiaeth, y postiwr drwg-enwog Henry Jones a’r cyn-filwr Joseph Lewis. Cafodd y treial a ddilynodd sylw helaeth gan bapurau newydd y cyfnod, yn apelio at awydd y Fictoriaid am voyeuriaeth a’r dychrynllyd.
Yn y diwedd penderfynwyd mai cynorthwywr oedd Jones ar ôl iddo roi tystiolaeth yn erbyn y potsiwr drwg-enwog Lewis. Er gwaethaf iddo hawlio’n daer mai amddiffyn ei hun oedd e, cafodd Lewis ei grogi am ei droseddau.
Hoffech chi gael gwybod mwy am y stori yma? Cynlluniwch eich ymweliad ag Abaty Margam. Ond byddwch yn ofalus: dywedir bod ysbryd aflonydd Robert Scott yn dal i gerdded tiroedd Ystâd Margam, yn cael gwared ar dresmaswyr gyda’i ffon waedlyd.
Mae hanes Carreg Bodvoc a hanes llofruddiaeth Robert Scott yn rhan o daith Llwybrau a Straeon Abaty Margam. Ymunwch â’r daith am 11am ddydd Sadwrn 28ain Hydref am brofiad Calan Gaeaf iasol a gwefreiddiol. Dysgwch ragor fan hyn.
Ydych chi’n teimlo wedi eich ysbrydoli i gael gwyliau sbwci yng Nghalon Ddramatig Cymru? Cynlluniwch eich ymweliad heddiw.