Dewch i fwynhau anturiaethau llawn adrenalin dros hanner tymor
Mae gweithgareddau sbwci ar yr agenda dros hanner tymor yr Hydref. Mae gan Galon Ddramatig Cymru ddigonedd o Hwyl Calan Gaeaf, o sinemâu awyr agored i weithdai swyngyfareddau. Gall pobl leol a thwristiaid ddod ar gyfer y digwyddiadau tymhorol hyn, ond dylen nhw aros i gael y profiadau llawn adrenalin sy’n gwneud y rhanbarth mor unigryw.
Dewch i gael eich ysbrydoli ar wyliau hanner tymor mis Hydref yma ar arfordir De Cymru. Dewch i ganfod sut y gallwch gynyddu curiad y galon dros hanner tymor gyda’n detholiad o weithgareddau antur i’r teulu – yn barod ar eich cyfer unwaith y byddwch wedi mwynhau mynd am dro hydrefol.
Beicio Mynydd: Sblasiwch drwy byllau mwdlyd
Mwynhewch y newid mewn tymhorau a dewch i feicio mynydd: mae rhywbeth am sblasio drwy byllau mwdlyd a chrensian dros ddail yr hydref sy’n gwneud beicio mynydd yn fwy cyffrous fyth yn yr hydref.
Mae Calon Ddramatig Cymru yn cynnig digonedd o lwybrau beicio mynydd cynhyrfus i ddewis o’u plith, y cyfan ynghanol golygfeydd dramatig ein cymoedd a’n dyffrynnoedd. Mae ein blog diweddar yn eich helpu i ddewis yr un cywir ar eich cyfer chi a’ch teulu.
I’r rhai sydd am ymgymryd â llwybrau byd-enwog Parc Coedwig Afan, mae beiciau ar gael i’w llogi i blant ac oedolion yn Afan A Blast. Mae beiciau i’w llogi a gwasanaeth cynnal a chadw beiciau ar gael hefyd yn Afan Valley Bike Shed. Pan fyddwch chi’n barod i fynd, mae Campbell Coaching ar gael i gynnig sesiynau i’ch helpu i wneud y gorau o’ch antur beicio mynydd gyda’r teulu.
Go Ape: Gwibiwch drwy ddail yr hydref
Dewch i gael golwg newydd ar harddwch hydrefol Parc Gwledig Margam. Mae Go Ape yn adnabyddus ar draws y DU am gynnig yr antur eithaf ar frig y coed, a’r cyfleuster ym Mharc Gwledig Margam yw’r unig un sydd ganddyn nhw yng Nghymru. Mae Go Ape Parc Gwledig Margam hefyd yn lleoliad i’r Swing Tarzan mwyaf yn y DU ¾neidio mewn ffydd am chwe metr. Os nad yw hynny’n codi curiad y galon, yna mae plymio i lawr y wifren wib i wely o ddail yr hydref yn sicr o wneud hynny.
Mae Go Ape Parc Gwledig Margam yn croesawu anturiaethwyr o 10 oed i fyny sydd o leiaf 1.4m (4’7″) o daldra. Dysgwch ragor am Go Ape Parc Gwledig Margam .
Mountain and River Activities: Cwrs coedwriaeth
Mae cwrs 24-awr Mountain and River Activities i’r teulu yn cynnig antur corfforol, ac amser i’r teulu glosio hefyd. Dysgwch sgiliau coedwriaeth gyda’ch gilydd, yn cynnig cymorth cyntaf, cynnau tanau, puro dŵr a dal, coginio a bwyta bwyd yn y gwyllt. Yn bwysicaf oll, defnyddiwch eich sgiliau newydd i gyd wrth i chi osod eich llety dros nos eich hun.
Ar ôl yr hwyl a’r gwaith caled o sefydlu eich gwersyll, efallai y bydd y teulu cyfan yn ddigon ffodus i fwynhau noson glir ac awyr yn llawn sêr disglair. Bydd eich tywysydd ar gael gyda chyfarpar cytserau rhithwir ar gyfer nosweithiau mwy cymylog.
Dysgwch ragor am gwrs 24 awr i’r teulu gan Mountain and River Activities yn ogystal â’u dewis llawn o weithgareddau awyr agored.
Ydych chi’n teimlo wedi eich ysbrydoli i ddod o hyd i wyliau antur i’r teulu dros hanner tymor? Cynlluniwch eich gwyliau yng Nghalon Ddramatig Cymru fan hyn.