Mae’n Dymor y Panto yng Nghalon Ddramatig Cymru
Ydych chi’n barod am dymor y Panto? O ydyn mi rydyn ni!
Esgidiau gwydr, coed ffa, Ebenezer Scrooge a hyd yn oed arwr rygbi Cymru a’r Llewod, Richard Hibbard – mae’r cyfan yn dod i lwyfan yng Nghastell-nedd Port Talbot o’r mis yma.
P’un a ydych chi’n cynllunio noson Nadoligaidd allan, neu Wyliau penwythnos Nadoligaidd Castell-nedd Port Talbot yw’r lle i chi fod.
Felly dyma ein dewis o’r sioeau gorau fydd yn digwydd yng Nghalon Ddramatig Cymru o fis Rhagfyr ymlaen.
Jack and the Beanstalk – Theatr y Dywysoges Frenhinol
Ffi Ffai Ffo Ffym dwi’n arogli stori dylwyth teg glasurol yn anelu am Theatr y Dywysoges Frenhinol.
Rhwng 1af-10fed Rhagfyr bydd Jack and the Beanstalk yn meddiannu’r theatr gyda’r chwaraewr rygbi Cymreig, Richard Hibbard, yn darparu llais y cawr.
Bydd y sioe hynodd ddoniol hon yn llawn o hud, chwerthin, cerddoriaeth ac effeithiau arbennig anhygoel – dyma un pantomeim enfawr na ddylech chi ei fethu!
Bydd perfformiad gyda Iaith Arwyddion Prydain (BSL) a pherfformiad hamddenol yn digwydd ar Ragfyr 4ydd.
Mae tocynnau ar gael fan hyn.
Cinderella – Canolfan y Celfyddydau Pontardawe
Bydd Cinderella’n mynd i’r ddawns yng Nghanolfan y Celfyddydau Pontardawe ym mis Rhagfyr.
Mae gwahoddiad i deuluoedd ddod i berfformiad pantomeim gwych yn cynnwys holl hwyl draddodiadol tymor y Nadolig rhwng 10fed-19eg Rhagfyr.
Gyda chaneuon, comedi i wneud i chi chwerthin dros y lle a digon o ddawnsio, bydd teuluoedd wrth eu bodd gyda’r cracer Nadolig hwn.
Bydd perfformiad BSL/perfformiad hamddenol ar Ragfyr 10fed.
Mynnwch eich tocynnau fan hyn.
A Christmas Carol – Theatr Fach Castell-nedd
Rhwng 5ed-10fed Rhagfyr bydd stori Nadolig enwog Charles Dickens, gyda’r tri ysbryd enwog, yn dod i Gastell-nedd.
Paratowch i fynd ar daith gyda’r anfad Ebenezer Scrooge wrth i ysbrydion y gorffennol, y presennol a’r dyfodol ymweld ag ef, gan geisio newid ei ffawd mewn pryd ar gyfer y Nadolig.
Mae tocynnau ar gael fan hyn.
Cinderella – Neuadd Gwyn
Bibiti Bobiti Bŵ – Mae Cinderella yn ôl ym mis Ionawr!
Y tro yma, bydd y stori hudol o dlodi i gyfoeth yn cael ei pherfformio yn Neuadd Gwyn rhwng 6ed a 15fed Ionawr.
Gyda dewines garedig, pwmpenni, llysfam greulon a llyschwiorydd hyll i gyd yn barod i gamu ar y llwyfan, bydd y pantomeim yn cynnig hud ar gyfer y teulu cyfan.
Os ydych chi’n chwilio am brofiad braf yn y flwyddyn newydd – dyma un na ddylech chi ei golli!
Mae tocynnau ar gael fan hyn.
Gyda chymaint o atyniadau cyffrous eraill, harddwch naturiol a chroeso cynnes Nadoligaidd Cymreig yng Nghalon Ddramatig Cymru, gallech chi gyfuno eich taith i’r theatr gyda gwyliau byr yng Nghastell-nedd Port Talbot. Ewch i’n tudalennau Cynllunio eich Ymweliad i gael ysbrydoliaeth neu trefnwch eich llety gan ddefnyddio ein cyfeirlyfr defnyddiol Llefydd i Aros.
Nadolig Llawen!