Pum Peth i’w Wneud i Dadau a’u Hanturiaethwyr Bach (Neu Fawr)
Does dim i’w gymharu â threulio amser gwerthfawr gyda’ch tad, p’un a ydych chi’n anturiaethwr bach neu’n un ychydig yn fwy. Rydyn ni wedi rhestru ein pum prif awgrym i chi fwynhau egwyl llawn gweithgaredd yng Nghalon Ddramatig Cymru.
- Mae Go Ape yn cynnig amrywiaeth o anturiaethau ger Castell Margam, ac mae Her y Goedwig yn un perffaith ar gyfer tadau a’u hanturiaethwyr llawn egni. Mae Swing Tarzan mwyaf y DU yn aros am y gorchfygwyr dewraf sy’n awyddus i ymgymryd â heriau’r llwybr rhaffau uchel yma. Dyma antur drawiadol chwe metr i fyny, gyda golygfeydd eiconig o barcdiroedd eang a’r môr, ac yma y byddwch yn llamu o goeden i goeden. Beth am roi tro ar falansio boncyffion neu gadair y bosn wrth i chi wibio’n gyflym gan ymhyfrydu yn yr harddwch dramatig o’ch cwmpas. Mae modd addasu’r her i lefel eich profiad a’ch dygnwch, gan ei wneud yn hygyrch i bob un. Mae Her y Goedwig yn para rhwng 2 a 3 awr ac yn costio £26 y pen.
- Os ydych chi’n hoff o’r môr, beth am ddal ton neu ddwy gyda hyfforddwr o Ysgol Syrffio Cymru. Mae’r Ysgol wedi’i lleoli ar Lan Môr Aberafan, un o draethau hiraf Cymru, a gallwch gael gwersi preifat gan y tîm o hyfforddwyr talentog. Mae pob gwers yn cael ei chynnal gan aelod o’u tîm proffesiynol, cyfeillgar a brwdfrydig a hynny mewn amgylchedd diogel. Ymysg y llu o fanteision sydd i gael wrth syrffio, gallwch wella eich cydbwysedd ac mae’n dda i ymwybyddiaeth ofalgar. Gyda’r hwyl y byddwch yn ei gael ar ben hynny, dyma ymweliad perffaith i dadau ei fwynhau gyda’u teulu. Mae gwersi preifat gan Ysgol Syrffio Cymru yn para am 2 awr ac yn costio £50 am sesiwn un-wrth-un neu £30 y pen.
- Un arall o’n prif argymhellion yw’r cyrsiau goroesi sy’n cael eu cynnig gan Weithgareddau Mynydd ac Afon. Mae’r cwrs 2 ddiwrnod yn gyfle gwych i wella eich sgiliau goroesi ac i ymgymryd â thasgau anturus. Camwch i’r anhysbys a dysgwch am yr ardal wyllt, tra’ch bod wedi eich trochi ynddi. Dewch i gymryd rhan mewn tracio dan arweiniad yr arbenigwyr; bydd hyn yn eich dysgu i ddehongli’r olion sy’n cael eu gadael gan fywyd gwyllt unigryw’r ardal. Am £175.00 ar gyfer un oedolyn ac un plentyn, mae hyn yn berffaith ar gyfer eich amser bondio yn ystod eich ymweliad â Chalon Ddramatig Cymru.
- Mae’r cwrs Gwyfynod y Twyni Tywod a’r Parcdiroedd Hynafol yng Nghanolfan Ddarganfod Margam FSC yn brofiad bythgofiadwy y byddem yn ei argymell i bob darpar ddarganfyddwr. Bydd hwn yn berffaith os mai Canolfan Ddarganfod Margam FSC fydd eich llety hefyd yn ystod yr egwyl hon. Dysgwch bopeth am greaduriaid prin ac ecoleg leol wrth i ddod yn feistr ar adnabod gwyfynod. Bydd trapiau’n cael eu gosod dros nos a bydd gwyfynod byw’n cael eu harsylwi yn ystod sesiwn dan hyfforddiant y diwrnod wedyn. Peidiwch ag anghofio eich llyfr nodiadau a’ch lens llaw gan y byddwch yn cael cyfle i edrych yn agosach at y gwyfynod a nodi eich meddyliau a’ch canfyddiadau. Pris y cwrs yw £180.00 i ddau berson ac mae’n para pedwar diwrnod.
- Er mwyn gwneud eich gwyliau yng Nghalon Ddramatig Cymru yn fwy dilys fyth, mae taith gerdded yn syniad arbennig o dda. Mae taith dywys yn ddelfrydol ar gyfer tadau a phlant sydd wrth eu boddau’n crwydro, a bydd yn rhoi cyfle i chi werthfawrogi rhai o dirweddau harddaf yr ardal. Mae’r ardal yn adnabyddus am ei choetiroedd trwchus, trawiadol, ei nentydd clir fel grisial a’i sgydiau bendigedig ac yn sicr byddwch eisiau cofnodi eich taith mewn lluniau a fideos. Os byddwch chi’n rhoi unrhyw beth ar eich cyfryngau cymdeithasol, cofiwch ddefnyddio’r hashnod #CalonDdramatig er mwyn i ni allu ei weld hefyd! Edrychwch fan hyn am y llwybrau cerdded rydyn ni wedi eu paratoi i chi gael eu lawrlwytho er mwyn dod o hyd i’ch taith gerdded nesaf. Uwchraddiwch eich profiad cerdded drwy gyflogi storïwr fydd yn dod â storïau a llen gwerin yn fyw i chi wrth i chi gerdded yn ôl traed cymeriadau chwedlonol y fro.
Gobeithio y bydd y blog hwn yn eich helpu i benderfynu beth yw’r gweithgaredd gorau ar eich cyfer chi a’ch anturiaethwr bach (neu fawr) yn ystod eich gwyliau yng Nghanol Ddramatig Cymru. Os byddwch yn cofnodi rhai o’r atgofion y byddwch wedi eu gwneud yn ystod eich arhosiad, cofiwch ein tagio ni ar y cyfryngau cymdeithasol er mwyn i ni allu rhannu yn eich atgofion chi.