Tour of Britain: Y Cymal Olaf
Mae ras feicio mwyaf clodfawr y DU, y Tour of Britain blynyddol, yn cael ei chynnal ymhen ychydig wythnosau – ac mae’r dyddiad yn agosáu!
Bydd un ar bymtheg o brif dimoedd beicio’r byd yn cystadlu yn y ras eleni, yn cynnwys 3 thîm anhygoel o Brydain: Great Britain Cycling Team, INEOS Grenadiers, a TRINITY Racing.
Eleni, ddydd Sul 10fed Medi, bydd cymal olaf y ras yn gweld y beicwyr yn cychwyn o Galon Ddramatig Cymru, yn nhiroedd gwych Parc Gwledig Margam. Dyma’r flwyddyn gyntaf i Barc Gwledig Margam groesawu’r digwyddiad hwn.
Cychwyn y Cymal Olaf ym Mharc Margam
Bydd Tour of Britain 2023 yn cychwyn yn Altrincham ac yna ymlaen i ymweld â deg o ddinasoedd eraill cyn cyrraedd y pwynt olaf ond un yn harddwch Parc Gwledig Margam, Castell Nedd Port Talbot.
Ar ôl degawd cyfan, mae ras eleni’n nodi dychweliad dringfa chwedlonol Mynydd Caerffili. Mae’r wythfed ras, yr olaf, hefyd yn cynnwys esgyniad o 10.1% am 1.3km o fewn taith 166.8km y beicwyr i’r llinell derfyn.
Mae’n sicr y bydd hwn yn ddiweddglo trawiadol wrth i’r beicwyr rasio drwy Gymoedd De Cymru i’r llinell derfyn yng Nghaerffili.
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn ymuno â ni i wylio’r beicwyr yn cychwyn ar gymal olaf y ras, bydd yn cychwyn am 11:15 ynghanol tirwedd ysblennydd Parc Gwledig Margam.
Dod i wylio’r Tour of Britain
Ydych chi am ddod i wylio’r ras? Dewch i ddathlu gyda ni ym Mharc Gwledig Margam a mwynhau’r cyffro a’r paratoadau cyn cymal olaf Tour of Britain 2023. Byddwch ymysg rhai o feicwyr gorau’r byd fydd yn gwneud eu gorau i ddod yn bencampwr eleni.
Pan fyddwch yma, beth am wneud diwrnod ohoni! Mae rhywbeth i bawb ym Mharc Gwledig Margam yn cynnwys gweithgareddau llawn gwefr megis Go Ape a rasys beic mynydd Dirt Crit, i deithiau cerdded hamddenol o gwmpas y tiroedd a gerddi’r castell.
Mae pasys parcio ar gael nawr os oes gennych chi ddiddordeb mewn ymuno â ni ar gychwyn cymal olaf y ras ddydd Sul 10fed Medi. Nodwch bod rhaid i wylwyr archebu ymlaen llaw er mwyn mynychu’r digwyddiad.
Mae’r pasys parcio ar gael am ddim ond £7.20 a gallwch eu prynu fan hyn.
Am ragor o wybodaeth ar Tour of Britain 2023, ewch i’r wefan fan hyn.