NPT logo

Blog Gwadd – ontheluce.com

Yn ddiweddar fe wnaethom groesawu’r blogiwr Lucy Dodsworth o ontheluce.com gyda thaith anrheg i’r ardal. Cafodd ei bostio’n wreiddiol ar ei blog fan hyn, mae’r dyfyniad hwn o’i theithlen dau ddiwrnod yn rhannu argymhellion Lucy i wneud y gorau o ymweliad i’n tirwedd gwych o gyferbyniadau.

Ydych chi eisiau darllen y deithlen gyfan? Ewch i OnTheLuce.com

 

SUT I DREULIO PENWYTHNOS YNG NGHASTELL-NEDD PORT TALBOT

NOS WENER

Anelu i Gastell-nedd am bryd o fwyd yn The Welsh House. Mae’r bwyty’n rhan o gadwen leol fechan gyda changhennau yn Abertawe a Chaerdydd. Mae’n canolbwyntio ar gefnogi cyflenwyr Cymreig, gyda llawer o gynnyrch rhanbarthol ar y fwydlen, o ham Caerfyrddin i gaws Caerffili.

Os ydych chi am gael blas o’u bwyd Cymreig, beth am roi cynnig ar eu bwydlen ‘Blas o Gymru’ i ddau sy’n cynnwys bwydydd fel cawl cig oen, cocos Penclawdd, caws pob a phicau ar y maen. Mae detholiad o gwrw, gwirodydd a diodydd ysgafn lleol ar gael hefyd.

 

BORE SADWRN

Y bore wedyn, cychwyn y dydd ym Mharc Gwledig Margam. Mae’r ystâd hanesyddol yn ymestyn dros 850 erw ac mae’n ofod gwyrdd agored hyfryd. Ond mae rhai o adeiladau hanesyddol yr ystâd yn dal i sefyll, yn cynnwys castell ac abaty o’r 12fed ganrif.

Cafodd Abaty Margam ei sefydlu yn 1147 ac roedd yn gartref i gymuned o fynachod Sistersaidd. Roedd unwaith yn un o abatai mwyaf cyfoethog a grymus Cymru, ond erbyn cyfnod Harri VIII  yn Diddymu’r Mynachlogydd dim ond naw mynach oedd ar ôl. Cafodd yr abaty ei werthu i Syr Rice Mansel a adeiladodd dŷ mawr newydd ar y safle, ond fe gadwodd corff yr abaty yn gyflawn.

Yn anarferol, mae’r corff yn dal yn cael ei ddefnyddio fel eglwys heddiw, a gallwch weld y manylion gwreiddiol o’r 12fed ganrif y tu mewn, yn ogystal ag ychwanegiadau diweddarach gan y teulu Mansel – yn cynnwys y tair ffenestr lliw o Gwmni William Morris a chapel y teulu gyda’i feddi alabastr.

Cofiwch ymweld â’r Amgueddfa Gerrig ar dir yr abaty. Mae’r amgueddfa fechan hon yn un o ysgolion eglwys hynaf Cymru ac mae’n arddangos 28 o gerrig a chroesau pwysig gafodd eu canfod o amgylch yr abaty. Maen nhw’n cynnwys cerrig milltir ffyrdd Rhufeinig, croesau Celtaidd wedi’u cerfio’n addurnol a cherrig coffa ag arysgrifen Lladin – yn ogystal â gargoil sy’n tywallt dŵr glaw o’i ben-ôl!

Wedi gadael yr amgueddfa, anelwch am y parc. Mae llawer o lwybrau cerdded yn cynnwys y Llwybr Pulpud 2.25 milltir gyda golygfeydd panoramig sy’n ymestyn mor bell â Gogledd Gwlad yr Haf. Cadwch lygad am y ceirw sy’n byw yn y parc hefyd. Neu os ydych chi’n teimlo’n fentrus beth am lwybr brig y coed Go Ape neu gaiacio neu badlfyrddio ar y llyn.

PRYNHAWN SADWRN

Mae Castell-nedd Port Talbot yn rhan o ‘Wlad Sgydau’ Cymru, gyda llawer iawn o raeadrau, ogofâu a cheunentydd diolch i’r Afon Nedd a’i llednentydd.

Mae Sgwd Rhyd yr Hesg yn rhaeadr 80 troedfedd, dim ond 10 troedfedd yn fyr o fod y rhaeadr uchaf yng Nghymru. Mae’n rhan o Warchodfa Natur Rhyd yr Hesg, ardal ddigyffwrdd sy’n gartref i dros 20 rhywogaeth o redyn, yn cynnwys Rhedynach Teneuwe Tunbridge sy’n brin iawn.

Mae’r sgwd yn daith gerdded 10-15 munud drwy ddyffryn gwyrdd, ffrwythlon ag ochrau serth. Mae’r llwybr yn weddol hawdd ond mae’n gallu mynd braidd yn llithrig yn agos at y sgwd. Mae’n daith hyfryd, gydag adar yn canu a’r afon yn ymdroelli gerllaw, ac yn aml fe gewch y sgwd i chi’ch hun. Cadwch lygad am y clychau glas yn y gwanwyn ac am adar fel y Gwibedogion Brith, Telorion y Coed a Siglennod.

Wedyn teithiwch yn ôl i gyfeiriad Cilybebyll am ginio yn y Dyffryn Arms, tafarn draddodiadol cefn gwlad ar y ffordd rhwng Castell-nedd a Phontardawe. Mae’n cynnig dewis o brydau tafarn clasurol a blasau rhyngwladol, o bei stêc a chwrw i gorgimwch teriyaki a phryd tro-ffrïo Tai.

 

BORE SUL

Y diwrnod nesaf, teithio i Gastell-nedd i weld Abaty Nedd. Heddiw mae adfeilion yr abaty o’r 12fed ganrif yn cuddio tu ôl i unedau diwydiannol sy’n cael eu defnyddio gan Gamlas Tennant. Hwn oedd yr abaty mwyaf yng Nghymru ar un adeg, yn gartref i 50 o fynachod, ac yn ddiweddarach bu’n safle plasty mawr. Gallwch weld olion yr abaty a’r plasty heddiw, er iddyn nhw fod yn guddiedig am flynyddoedd.

Mae’n anodd dychmygu, ar ôl y Chwyldro Diwydiannol, bod yr abaty wedi cael ei ddefnyddio fel ffatri mwyndoddi copr. Cafodd y safle ei orchuddio’n raddol gan wastraff diwydiannol a’i adael yn adfeilion yn y pen draw. Doedd hi ddim nes y 1920au y daeth archeolegwyr amatur o Gymdeithas Hynafiaethau Castell-nedd i ddechrau cloddio’r safle, gan ddadorchuddio adfail atmosfferig.

Nesaf, teithio i bentref bychan Pontrhydyfen – gafodd ei anfarwoli fel man geni’r actor Syr Richard Burton. Cafodd Burton ei eni yma yn 1925, y 12fed o 13 o blant, er iddo gael ei fagu gan ei chwaer yn Nhaibach ym Mhort Talbot yn dilyn marwolaeth ei fam.

Gallwch ddilyn Llwybr Richard Burton sy’n teithio 5.4 milltir o amgylch y pentref, gyda phaneli gwybodaeth yn rhoi manylion ei blentyndod a’i yrfa. Neu ewch ar y rhan gyntaf yn unig ar draws y Bont Fawr ac edrychwch i lawr ar ei gartref yn blentyn ger yr Afon Afan. Ar y cyn draphont ddŵr yma y cafodd llun eiconig o Richard Burton a’i dad ei dynnu.

Yr ochr draw i’r bont mae Capel Bethel lle cafodd gwasanaeth coffa ei gynnal i Burton yn dilyn ei farwolaeth yn 1984. Erbyn hyn, mae Caffi Capel Bethel yn cael ei redeg fusnes teuluol nid er elw, a gallwch alw i mewn am ginio ysgafn o gawl a brechdanau, neu am de a theisennod cartref.

Darllenwch ymlaen fan hyn.