Mae Castell-nedd Port Talbot, neu Galon Ddramatig Cymru fel yr ydym yn hoffi ei galw, yn hen gyfarwydd â hanesion pwerus sydd wedi’u cerfio yn ei thirwedd.
O feini hirion hynafol i adfeilion mynachdai a phensaernïaeth Sioraidd mawreddog, mae hanes yma yn amlwg i’w weld. A bellach mae pennod newydd gyffrous yn ymddangos yn dawel o dan yr wyneb.
Mae arolygon daearegol diweddar ym Mharc Gwledig Margam wedi datgelu olion o’r hyn y mae archeolegwyr yn gredu oedd yn fila Rufeinig sylweddol, wedi’i chuddio dan y ddaear am yn agos i 2,000 o flynyddoedd. Mae’r darganfyddiad yn awgrymu bod presenoldeb Rhufeinig llawer mwy cymhleth wedi bod yn y rhan hon o Dde Cymru nag yr oeddem yn ei gredu’n flaenorol, gan danio cyffro ymhlith haneswyr, archaeolegwyr a thrigolion fel ei gilydd.
Am y tro, mae’r darganfyddiad rhyfeddol hwn yn aros wedi’i warchod yn ofalus. Mae canfyddiadau archeolegol fel hyn yn cymryd amser, amynedd ac ymchwil fanwl i’w deall yn iawn. Gall ymchwiliadau pellach ddatgelu rhagor am y bobl oedd yn byw yma, sut yr oedden nhw’n byw a sut olwg oedd ar Fargam yn ystod cyfnod y Rhufeiniaid, ond tan hynny bydd rhaid i ni adael i’r arbenigwyr wneud eu gwaith!
A’r newyddion da? Tra bod y fila Rufeinig yn aros wedi’i chuddio’n ddiogel, mae Parc Gwledig Margam eisoes yn cynnig taith gyfoethog a gweladwy i ymwelwyr drwy ganrifoedd o hanes, y cyfan o fewn ei thiroedd hardd.
Abaty Margam
Yng nghanol y parc saif Abaty Margam, un o safleoedd mynachaidd mwyaf trawiadol Cymru. Cafodd ei sefydlu yn y 12fed ganrif, a dyma’r unig fynachdy Sistersaidd yn Ne Cymru sydd â’i gorff yn dal yn gyfan. Mae’r gwaith cerrig dyrchafol a’r awyrgylch heddychlon yn ei gwneud hi’n hawdd dychmygu bywydau’r mynachod fu unwaith yn byw ac yn addoli yma. Heddiw mae’r abaty’n parhau i wasanaethu fel man o fyfyrdod, treftadaeth a chymuned.
Yr Amgueddfa Gerrig
Ychydig gamau i ffwrdd o Abaty Margam, mae’r Amgueddfa Gerrig yn cynnig golwg hynod ddiddorol ar benodau cynharach fyth o hanes lleol. Mae’r casgliad o feini cerfiedig, croesau ac arysgrifau yn cynnwys darnau sy’n mynd yn ôl i’r 6ed ganrif gan roi golwg brin ar y Gymru Gristnogol gynnar. Mae’r arteffactau hyn, llawer wedi’u canfod yn lleol, yn cysylltu Margam â thirwedd ysbrydol a diwylliannol llawer hŷn.
Castell Margam
Gan symud ymlaen i’r 19eg ganrif fe welwch Gastell Margam, plasty Gothig Tuduraidd trawiadol wedi’i amgylchynu gan barcdir eang. Cafodd y castell ei adeiladu fel encilfa gwledig ac mae’n adlewyrchu cyfoeth ac uchelgais y cyfnod Fictoraidd ac yn ychwanegu haen arall i stori hir ac amrywiol Margam. Mae’r tyrau dramatig a thu mewn i’r plasty yn uchafbwynt i rai sy’n caru pensaernïaeth ac i rai sydd â diddordeb mewn hanes.
Yr Orendy
Yn cwblhau llinell amser hanesyddol Margam mae’r Orendy coeth, yn dyddio’n ôl i’r 18fed ganrif. Unwaith yn gartref i blanhigion egsotig, bellach mae’n sefyll fel enghraifft o ddylunio a chrefftwriaeth Sioraidd gan gynnig rheswm arall i aros ac archwilio.
Tra bod y fila Rufeinig sydd newydd ei darganfod yn parhau yn guddiedig am y tro, mae ei phresenoldeb yn ychwanegu ar yr ymdeimlad fod llawer mwy i’w adrodd am stori Castell-nedd Port Talbot. Mae pob ymweliad yn datgelu rhywbeth newydd, boed o dan y pridd neu o flaen ein llygaid. Nes i ragor gael ei ddatgelu, mae Parc Gwledig Margam yn eich gwahodd i archwilio’r haenau o hanes sydd eisoes yn aros i’w darganfod yng Nghalon Ddramatig Cymru.