Canllaw Bwyta Allan – Ein Dewis

Wrth i chi ddychmygu Calon Ddramatig Cymru, efallai y byddwch yn gweld bryniau ysgubol, traethau eang a llwybrau mynydd garw yn aros i chi ddod i’w hadnabod. Ond ar ôl diwrnod o anturiaethau, does dim byd gwell nag eistedd i lawr am bryd o fwyd gwych, ac yng Nghastell-nedd Port Talbot fe fyddwch yn canfod dewisiadau bwyta mor amrywiol â’r tirwedd ei hun.

P’un a ydych chi awydd pryd tafarn clasurol, coffi artisan neu pysgod a sglodion ar lan y môr, mae Calon Ddramatig Cymru’n cynnig amrywiaeth syfrdanol o amrywiol o fwyd, wedi’i weini gyda dogn o gyfaredd Cymreig. Dyma ein dewis o ble i fwyta, yfed a mwynhau blas ein cwm.

 

Cysur Glan y Môr yn Franco’s

Does dim byd yn diffinio glan y môr fel plataid o bysgod a sglodion ac yn Franco’s ar Draeth Aberafan, mae’r traddodiad hwn wedi’i berffeithio. Yn ffefryn i deuluoedd ers y 1970au, mae Franco’s yn gweini brecwastau helaeth, prydau Eidalaidd ac wrth gwrs, pysgod a sglodion blasus gyda’r tonnau o fewn tafliad carreg i’r bwrdd. P’un a ydych chi’n mynd am dro braf ar hyd y promenâd neu’n mwynhau gwylio haul yr haf yn machlud, mae’r lle hwn yn fan y mae’n rhaid i chi fynd iddo am fwyd cysur arfordirol.

 

Mwynhau Clydwch Tafarn y Brit

Am flas gwirioneddol o letygarwch Cymreig, anelwch i’r mewndir, i Dafarn y Brit yng Nghwmafan. Gyda’i waliau cerrig a’i danau croesawgar, mae’r dafarn hon yn cynnig cysur a chlydwch. Meddyliwch am brydau cartref blasus, digon o ddewis llysieuol a fegan, a pheint neu ddau o gwrw lleol. Mae hefyd yn croesawu cŵn, gan ei wneud yn lle perffaith i aros ar ôl bod am dro ym Mharc Coedwig Afan. Ar brynhawn hydrefol oer, does unman gwell i ymlacio a mwynhau pryd o fwyd.

 

Diwylliant Caffis: Brecinio, Paneidiau a Danteithion Melys

Mae’r dewis o gaffis yng Nghastell-nedd Port Talbot yn wych ac yn cynnig unrhyw beth o frecinio artisan i bwdinau cyfoethog.

  • Brew & Co, Castell-nedd: Steilus ond cysurus, mae’r caffi hwn yn adnabyddus am ei goffi perffaith a’i frecinio hael; halwmi ac afacado ar surdoes yw ein hoff bryd ni! Mae’n groesawgar i bob ac i gŵn, drws nesaf i orsaf drenau Castell-nedd, gan ei wneud yn rhywle delfrydol i aros ar eich taith ddarganfod.
  • Caffi Forty Six: Trysor difyr wedi’i addurno’n retro (cadwch lygad am y propelor ar y wal!), mae Forty Six yn gymaint o hwyl ag yw’r bwyd yn flasus gan gynnig paninis, peis a rhagor.
  • Smashed Raspberry: Lle croesawgar braf ar gyfer crempogau, brechdanau crasu ac ysgytlaeth, yn berffaith ar gyfer teuluoedd neu unrhyw un sy’n hoff o bethau melys.
  • Caffi Sgwd Gwladys: Yn swatio ar gychwyn y daith boblogaidd i’r sgwd ym Mhontneddfechan, mae’r caffi yma’n ffefryn ymhlith cerddwyr. Gallwch ddisgwyl prydau lleol braf, stêcs, byrgyrs a digon o ddewisiadau llysieuol – perffaith ar gyfer adfywio ar ôl dilyn y sgydau.

 

Mwynhau’r Sbeisys yn y Grand Sultan

Os mai blasau cryf sy’n eich denu, fydd Y Grand Sultan ym Margam ddim yn eich siomi. Mae’r bwyty’n adnabyddus am ei gyris arobryn ac mae’n cynnig seigiau traddodiadol yn ogystal â phrydau arbennig y sieff.

 

Rhannwch eich Ffefrynnau

Dim ond rhai o’r dewisiadau sydd ar y fwydlen yng Nghalon Ddramatig Cymru yw’r rhain. O bysgod a sglodion glan y môr i flasau rhyngwladol, prydau tafarn clyd i fannau brecinio Instagramaidd, mae pob cornel o Gastell-nedd Port Talbot yn cynnig rhywbeth blasus i’w ddarganfod.

Os gennych chi fan sy’n ffefryn? Rhannwch ar y cyfryngau cymdeithasol drwy ein tagio yn eich postiadau neu’ch straeon!