Cerdded yng Nghalon Ddramatig Cymru yn y Gwanwyn

Wrth i’r gwanwyn gyrraedd Castell-nedd Port Talbot, mae ein cymoedd a’n harfordir yn dod yn fyw, gan olygu mai dyma’r amser perffaith i wisgo eich esgidiau cerdded a chrwydro ar hyd llwybrau cerdded amrywiol yr ardal.

O lwybrau arfordirol hardd i lwybrau mynyddig heriol, does dim gwell ffordd o fwynhau’r gwanwyn yng Nghalon Ddramatig Cymru.

P’un a ydych chi’n meddwl am benwythnos o antur gyda’r merched, taith gyda’r ci, taith gerdded deuluol, neu dro heriol i ddod â phobl at ei gilydd, mae Calon Ddramatig Cymru’n croesawu cerddwyr wrth i’r dyddiau ymestyn yn heulwen y gwanwyn.

Hwyl i’r teulu ar Draeth Aberafan

Gadewch i’r plant redeg yn rhydd ar draeth hir Aberafan, gyda’i dywod euraidd: mae’r draeth yn berffaith ar gyfer adeiladu cestyll tywod y gwanwyn neu i fynd am dro ar lan y môr. Beth am sbwylio eich hun gyda choffi blasus yn Memo Beach Café neu rywbeth i’w fwyta yn y Sand Rabbit or Café Remo’s. Mae croeso i gŵn fwynhau bae 3 milltir Aberafan hefyd, felly gallwch ddod â’r teulu cyfan am ddihangfa ar y traeth yng nghalon de Cymru.

Arhoswch yng ngwesty Best Western Traeth Aberafan, sy’n croesawu teuluoedd, neu os ydych chi’n bwriadu dod â’r ci ar ymweliad gyda ffrindiau, mae Fferm Tŷ’n Cellar yn cynnig llety i grwpiau mewn ysguboriau wedi’u haddasu gyda mynediad hawdd i’r arfordir.

Mae promenâd a thraeth Aberafan hefyd yn gartref i Golff Gwallgo Pirate Grove a’r maes chwarae newydd sbon i blant, fydd yn cadw’r plantos yn hapus wrth i chi fwynhau awyr y môr a’r golygfeydd ysblennydd dros Fae Abertawe.

Dyddiau gyda’r ci ym Mharc Gwledig Margam

Mae gwyliau sy’n croesawu cŵn yma i aros, ac yng Nghalon Ddramatig Cymru rydyn ni’n croesawu eich cyfeillion blewog.

Mae Parc Gwledig Margam yn cynnig tiroedd eang i’w mwynhau gyda’ch ci, gyda Phantri Charlotte hyd yn oed yn gweini hufen iâ i gŵn!

Ewch am dro hir a throellog drwy’r parc ac i fyny Mynydd Margam i fwynhau golygfeydd syfrdanol ar draws y cwm ac ymlaen i Draeth Aberafan, gan roi cyfle i’ch ci gael ymarfer corff.

Ychwanegiad cyffrous newydd i’r Parc yw’r Ardal Ystwythder Cŵn sy’n darparu ardal ymarfer diogel ac ysgogol i’ch ci. Mae’r Ardal Ystwythder Cŵn yn cynnig cwrs rhwystrau cyffrous, ac ardal gaeëdig ddiogel i ymarfer gadel eich di oddi ar ei dennyn. Mae angen archebu lle ymlaen llaw ar gyfer y gweithgaredd hwn.

Am ychydig o foeth ar eich taith, trefnwch arhosiad ym mwthyn hunan-arlwyo Parc Gwledig Margam ei hun Ivy Cottage, sydd wedi’i amgylchynu gan dros 800 erw o barcdir ffrwythlon arobryn. Mae hawl i 1 ci ymuno â chi yn y bwthyn ym mhob arhosiad.

Llwybrau cerdded i gerddwyr profiadol

Casglwch y criw merched at ei gilydd am benwythnos cerdded, gan wobrwyo’r cyfan wrth alw i mewn tafarndai cyfeillgar a chaffis clyd.

Heriwch eich hun a’ch ffrindiau i gerdded i fyny Mynydd Drumau i gyrraedd monolith Carreg Bica, yn eich harwain ar hyd Cwm Tawe. Arhoswch yn nhref hyfryd Pontardawe i gael mynediad hawdd at y daith gerdded 3.7 milltir, ac ymlaciwch gyda thaith haws drwy Cilybebyll neu drwy Glanrhyd Plantation y diwrnod wedyn.

Am yr her gerdded eithaf, gall cerddwyr profiadol hefyd fwynhau’r daith 6.5 milltir drwy’r goedwig at adfeilion Nant y Bar ar Lwybr Crib Gyfylchi. Cewch eich gwobrwyo gyda golygfeydd ysblennydd ar draws y cwm ar y daith gylch hon, gan eich arwain ar hyd yr afon a thrwy’r goedwig am daith 4 – 5 awr. Perffaith ar gyfer hunluniau! Arhoswch yng Ngwersyllfa Willow Springs, a chynheswch ar ôl eich dro yn eich twba twym preifat neu gallwch brofi’r sawna a’r pwll oer i gadw’r adrenalin yn pwmpio. Penwythnos perffaith i’r merched i ailgysylltu gyda natur ¾a gyda’ch gilydd.

Llwybrau cerdded diwylliannol ar gyfer teuluoedd a ffrindiau

Mae’r gwanwyn yn deffro’r cymoedd, y dyffrynnoedd a’r coetiroedd yng Nghalon Ddramatig Cymru, gyda’n camlesi a’n hafonydd yn cerfio drwy ein tirwedd dramatig.

Am flas o ddiwylliant ar eich taith gerdded, mwynhewch daith braf o gwmpas Gwaith Tun a Sgwd Aberdulais toi ddysgu am dreftadaeth ddiwydiannol gyfoethog yr ardal, neu ewch draw i Gwm Afan i ddilyn Llwybrau rhyngweithiol Richard Burton ym Mhontrhydyfen a Thaibach sy’n eich arwain drwy’r ardaloedd lle cafodd Burton ei eni a’i fagu, gan rannu hanesion am fywyd yr actor Hollywood.

Mwynhewch aros mewn gwesty yng Ngwesty a Bwyty Blanco, Port Talbot sy’n fodern ac yn gyfleus, neu dewiswch o blith amryw o fythynnod hunan-arlwyo sy’n swatio yng Nghwm Nedd am ddihangfa wledig.

Mae’r Gwanwyn yn canu yng Nghalon Ddramatig Cymru. Cynlluniwch eich ymweliad a dewiswch eich llety: https://dramaticheart.wales/plan-your-visit-spring/