Mae’r hydref wedi cyrraedd yng Nghastell-nedd Port Talbot, Calon Ddramatig Cymru. . Mae’n nosi’n gynharach, mae’r boreau ychydig yn oerach ac mae’r dail aur a chopr yn dechrau ymddangos ar draws ein cymoedd, ein parciau a’n bryniau. Er ei fod yn anodd ffarwelio ag wythnosau o awyr las a thywydd da, mae’r hydref yn dod â’i hud ei hun!
Mae’n dymor lle gallwch wisgo’ch hoff siwmper a gwneud y mwyaf o lwybrau coedwigol, teithiau cerdded ar hyd yr arfordir neu ymweld ag un o’n digwyddiadau tymhorol. Mae’r hydref yn amser anhygoel i archwilio popeth sydd gan bob ardal i’w gynnig
Darganfyddwch yr Hydref yn Rhaeadr Melincwrt
Ychydig o leoedd yn unig sy’n adlewyrchu awyrgylch yr hydref cystal â Rhaeadr Melincwrt. Mae’r rhaeadr 80 troedfedd drawiadol hon yng Nghwm Nedd ar ddiwedd llwybr coedwigol byr, sy’n ei wneud yn antur hygyrch i ymwelwyr o bob oedran. Mae maes parcio cyhoeddus am ddim ar ddechrau’r llwybr, felly mae sawl rheswm da dros ymweld â hi.
Wrth i’r hydref gyrraedd, mae’r coetir cyfagos yn troi’n dapestri o aur, melyn a choch tywyll. Mae dail yn amlinellu’r llwybr wrth i sŵn y dŵr gwyllt eich dilyn drwy’r coed ymhell cyn i’r rhaeadr ymddangos. Dyma rywle sy’n eich annog i arafu am foment a mwynhau bod yn yr awyr agored.
Mae yna rywbeth arbennig am ymweld ar ôl cawod o law hydrefol, pan fydd y rhaeadr yn enwedig o gryf a phan fo’r dirwedd dod yn fyw gyda lliwiau a symudiad. Mae’n hawdd gweld y rheswm pam cafodd yr artist enwog J.M.W. Turner ei ysbrydoli yma flynyddoedd maeth yn ôl.
Tro ar hyd Traeth Aberafan
Mae’r arfordir yn yr hydref yn enwedig o adfywiol. Ar ôl i dorfeydd yr haf encilio, mae Traeth Aberafan yn teimlo hyd yn oed yn fwy agored ac eang.
Gwisgwch ddillad cynnes ac ewch i gerdded ar hyd y promenâd wrth i donnau lifo ar y traeth ac adar y môr hedfan uwchben. Ar ddiwrnodau braf hydrefol, gall diwrnodau ar y traeth deimlo bron yn ddiddiwedd, ac mae’r diwrnodau byrrach yn aml yn dod â rhai o fachludau haul mwyaf anhygoel y flwyddyn.
Mae yna ddigon o leoedd gerllaw i gael coffi, cinio blasus neu hyd yn oed hufen iâ. P’un a ydych yn mynd gyda’ch teulu, yn cerdded y ci neu’n mwynhau awyr ffres y môr, Traeth Aberafan yw’r lle perffaith i groesawu’r tymor newydd.
Dilyn Ôl Eu Traed
Mae’r hydref hefyd yn amser perffaith i arafu a datguddio’r straeon a luniodd Calon Ddramatig Cymru.
Mae llwybrau Dilyn Ôl Eu Traed yn gwahodd ymwelwyr i archwilio tirweddau sydd wedi’u cysylltu â rhai o gymeriadau enwocaf y rhanbarth. Crwydrwch drwy bentref Pont-rhyd-y-fen ar Lwybr Richard Burton a darganfyddwch y lleoedd a ddylanwadodd ar un o actorion enwocaf Cymru. Neu, dilynwch Lwybr Turner sy’n cyfuno golygfeydd prydferth â hanes diddorol, gan dywys ymwelwyr rhwng Rhaeadr Melincwrt ac Aberdulais wrth archwilio’r tirweddau a ysbrydolodd frasluniau a phaentiadau’r artist enwog.
Gyda golygfeydd hydrefol lliwgar, llwybrau heddychlon a threftadaeth leol gyfoethog, mae’r llwybrau hyn yn cynnig yr esgus perffaith i fynd allan i’r awyr agored a gweld yr ardal o safbwynt gwahanol.
Blas o’r Hydref yng Ngŵyl Bwyd a Diod Castell-nedd
Un o uchafbwyntiau’r tymor yw Gŵyl Bwyd a Diod Castell-nedd.
Mae’r ŵyl yng nghanol tref Castell-nedd yn dod â 70 o arddangoswyr at ei gilydd, gan arddangos rhai o’r cynhyrchion lleol, y nwyddau crefft a’r bwydydd stryd gorau yng Nghymru. Gall ymwelwyr bori stondinau sy’n llawn danteithion blasus, rhoi cynnig ar flasau newydd a mwynhau adloniant ar draws y dref.
O fwyd wedi’i baratoi’n ffres a deunyddiau pob arbenigol i ddiodydd a gynhyrchwyd yn lleol ac arddangosiadau coginio byw, dyma’r ffordd berffaith o ddathlu’r tymor newydd. Mae’r awyrgylch o gwmpas y dref o hyd yn ardderchog, gan ei wneud yn ddiwrnod allan gwych i’r rheini sy’n dwlu ar fwyd ac i deuluoedd hefyd.
Mwynhewch Noson o Arswyd yn Scream Time Margam
I’r rheini sy’n edrych am rywbeth mwy arswydus, mae Scream Time Margam yn dychwelyd i Barc Margam gyda thymor arall o wefr, arswyd ac adloniant Calan Gaeaf bythgofiadwy.
Gall ymwelwyr ddewis rhwng profiad dwys Scream Time ar dir atmosfferig Parc Gwledig Margam ar gyfer ymwelwyr hŷn sy’n chwilio am wefr neu antur arswydus i’r teulu sy’n addas ar gyfer ymwelwyr iau. Mae actorion byw, setiau y gellir ymgolli ynddynt a syrpreisys annisgwyl yn creu profiad sy’n berffaith ar gyfer nosweithiau tywyllach yr hydref.
Ar hyd y llwybr, mae’r Pentref Arswyd yn cynnig bwyd, diod, pyllau tân ac adloniant, gan sicrhau bod yr hwyl yn parhau hyd yn oed wedi i’r arswyd orffen. P’un a ydych yn ymweld gyda ffrindiau neu’n dod â’r teulu gyda chi am hwyl y tymor, bydd yn noson i’w chofio.
Gwnewch y Mwyaf o’r Hydref
O sŵn Rhaeadr Melincwrt i deithiau cerdded heddychlon ar hyd Traeth Aberafan, o ddarganfod hanes lleol i fwynhau digwyddiadau tymhorol, mae’r hydref yn amser arbennig i brofi Calon Ddramatig Cymru.
Felly, er bod yr haf wedi dod i ben, mae yna ddigon i edrych ymlaen ato. Gwisgwch eich esgidiau cerdded a dillad cynnes a darganfyddwch y rheswm pam gall y tymor hwn fod yn amser delfrydol i archwilio Calon Ddramatig Cymru.