Yn ddiweddar, buon ni’n ddigon ffodus i groesawu’r blogiwr Angharad Paull, sy’n byw ym Mryste, i Galon Ddramatig Cymru.
Bu Angharad a’i gŵr a’u tri phlentyn yn aros yn Riverside, tŷ hunan-arlwyo yng Nghwm Afan gyda dwy ystafell wely. Profodd y tŷ i fod yn ganolfan perffaith iddyn nhw gan fod anturiaethau di-ri o fewn pellter agos i ddrws Riverside.
Yn ystod eu penwythnos hir bu Angharad a’i theulu’n gwledda mewn bwytai lleol ffantastig. Fe gawsant brofiad personol o’r ysbryd cymunedol clos sydd ond i’w gael mewn cymoedd fel ein rhai ni, gydag wynebau enwog fel Richard Burton a Michael Sheen yn addurno waliau’r Colliers Arms.
Er gwaetha’r glaw mân arferol yng Nghymru, wnaeth Angharad a’i theulu ddim caniatáu i’r tywydd effeithio arnyn nhw. Yn ystod eu arhosiad bu’r teulu’n crwydro Marchnad Dan Do Castell-nedd, yn cerdded ar lwybr Ffordd yr Hen Blwyf ym Mharc Coedwig Afan, yn dysgu am dreftadaeth leol yn Amgueddfa Glöwr De Cymru ac yn llogi go-certi yn Antur Parc Margam.
I ddarllen am holl brofiadau Angharad, darllenwch ei blog ar ei gwefan:
https://thisbristolbrood.com/family-adventure-in-neath-port-talbot-dramatic-heart-of-wales/