Cychwyn y Flwyddyn Newydd yn yr Awyr Agored yng Nghalon Ddramatig Cymru

Mae mis Ionawr yn amser perffaith i ailsefydlu, ailffocysu a dechrau symud, a does unman gwell i wneud hynny na Chalon Ddramatig Cymru. Yn swatio o fewn Castell-nedd Port Talbot, mae’n cornel ni o Dde Cymru yn llawn o awyr iach y môr, gofodau eang ac anturiaethau awyr agored addas ar gyfer pob cyflymder a phob angerdd. P’un a ydych chi’n chwilio am adrenalin, yn adeiladu ffitrwydd neu’n mwynhau munudau o fyfyrio ym myd natur, fe ddewch o hyd i ddigonedd o ffyrdd i wella eich llesiant yn yr awyr agored dros y gaeaf hwn.

Llwybrau drwy’r Goedwig, Awyr Iach a Ffitrwydd

I gerddwyr, rhedwyr a beicwyr mynydd, mae Parc Coedwig Afan yn rhywle hanfodol i fynd iddo. Mae Afan yn adnabyddus ar draws y DU am ei lwybrau beicio mynydd ac mae’n cynnig llwybrau ar gyfer pob gallu – o lwybrau drwy’r goedwig sy’n addas i’r teulu i rediadau lawr rhiw sy’n herio’r beicwyr mwyaf profiadol.

Gall cerddwyr a pherchnogion cŵn fwynhau dilyn arwyddion ar lwybrau drwy goetiroedd ac ar hyd cymoedd afonydd, gan ei gwneud hi’n hawdd cyfuno ymarfer corff ysgafn ac amgylchedd heddychlon.

Tri Pharc Gwledig, Ffyrdd Diddiwedd i Archwilio

Mae Calon Ddramatig Cymru’n gartref i dri pharc gwledig hardd, pob un yn cynnig rhywbeth unigryw.

Ym Mharc Gwledig Margam mae parcdir eang, adfeilion hanesyddol a llwybrau hir, agored yn ei wneud yn ddelfrydol ar gyfer mynd am dro gyda’r teulu, loncian neu adael i’r plant losgi eu hynni ar ôl cyfnod yr ŵyl. Mae Parc Gwledig y Gnoll yn cyfuno sgydau, coetir a llynnoedd gan greu lleoliad mwy cartrefol ar gyfer troeon tawel ac eiliadau o fyfyrio. Yn y cyfamser, mae Parc Gwledig Craig Gwladys yn cynnig llwybrau hardd ar hyd yr afon a theithiau hawdd i bob oed a gallu.

Mae’r parciau hyn yn llefydd gwych i ailgysylltu gyda natur ar eich cyflymder eich hun, boed hynny’n dro gaeafol bywiog neu grwydro’n araf gyda fflasg o ddiod twym. Ar ben hyn, gallwch fwynhau anturiaethau di-ben-draw yn y parciau hyn gyda’r Pàs Pob Parc sy’n cynnig disgowntiau unigryw ar atyniadau a gweithgareddau. Dysgwch ragor!

Cynyddu’r Adrenalin

Os yw’ch syniad chi o lesiant yn cynnwys teimlad o wefr, mae gan Gastell-nedd Port Talbot ddigon o antur i’w gynnig! Bydd profiadau ceunenta ac ogofa yn rhoi cyfle i chi archwilio ceunentydd cudd, sgydau a bydoedd tanddaearol dan arweiniad arbenigwyr. I’r rhai sy’n ffafrio cael gwefr ar lefel y ddaear, mae beicio cwad yn cynnig hwyl yn y mwd a gweithgaredd sy’n codi curiad y galon ar draws tirwedd garw. Mae’r gweithgareddau hyn yn rhai bythgofiadwy ac yn ffordd arbennig i adeiladu hyder, cryfder a gwytnwch.

Allan ar y Dŵr

Fydd y rhai sy’n caru’r dŵr ddim yn cael eu siomi chwaith. Mae afonydd a dyfrffyrdd lleol yn darparu cyfleoedd ar gyfer padlfyrddio ar eich traed, canŵio a chaiacio. Mae’r gweithgareddau llai heriol yma’n wych ar gyfer cryfder craidd, cydbwysedd ac ymwybyddiaeth ofalgar, gan gynnig ffordd hamddenol ond gwerthfawr i aros yn actif yn ystod y misoedd oeraf.

P’un a ydych chi’n cynllunio dyddiau allan i’r teulu, hyfforddiant ar gyfer eich nod ffitrwydd nesaf, neu dim ond meddwl am deimlo’n well drwy dreulio mwy o amser yn yr awyr agored, mae gan Galon Ddramatig Cymru rywbeth ar eich cyfer chi. Y mis Ionawr yma, lapiwch yn gynnes, camwch i’r awyr agored i ganfod pa mor dda mae awyr iach yn gallu gwneud i chi deimlo! Dewch i ganfod eich gwyliau nesaf yng Nghymru fan hyn: https://dramaticheart.wales/discover-our-area/accommodation/