Richard Burton

Croeso i dudalen Richard Burton

Cafodd Richard Burton ei eni ym Mhontrhydyfen, Cwm Afan, yn 1925 gan symud i Daibach, Port Talbot pan oedd yn ddwy oed. Aeth yn ei flaen i fod yn eicon rhyngwladol ar lwyfan a sgrin, gan fynd â Chymru at y byd gyda’i berfformiadau gwych yn y theatr ac mewn ffilmiau.

Mae Llwybrau Richard Burton yn arwain ymwelwyr drwy’r Llwybr Man Geni a’r Llwybr Plentyndod gan roi cyfle i chi ganfod mwy am fywyd cynnar yr actor enwog hwn.

Yn 2025, dathlon ni’r canmlwyddiant geni’r actor byd-enwog gyda rhaglen o ddigwyddiadau sydd wedi arddangos ei etifeddiaeth, a rhannon ni sut ei waith wedi ysbrydoli’r ysbryd creadigol sy’n rhedeg yn ddwfn yn y rhanbarth hwn. https://richardburton100.org/cy/

Llwybr Man Geni Richard Burton

Llwybr Man Geni Richard Burton:

Mae’r llwybr yn arwain drwy bentref genedigol hyfryd Richard ac fe gewch ymdeimlad o’i fywyd cynnar gan fwynhau golygfeydd ysblennydd ar draws Pontrhydyfen ac ehangder Cwm Afan.

Ffeithiau’r Llwybr

Lefel anhawster: Canolig (peth grisiau ac arwynebeddau garw)
Cychwyn:  Maes Parcio Rhyslyn
Caniatewch:  1½ i 2 awr ar gyfer y daith gyfan

Pwyntiau o ddiddordeb

  • Traphont Ddŵr Pontrhydyfen a adeiladwyd yn 1825.
  • Man geni Richard Burton.
  • Heol Penhydd lle’r oedd llawer o deulu Richard yn arfer byw.
  • Traphont ffordd Pontrhydyfen a adeiladwyd yn 1898.
  • Capel Bethel. Cafodd gwasanaeth coffa i Richard ei gynnal yma yn fuan wedi ei farwolaeth gyda cannoedd o bobl lleol a llawer o enwogion yn mynychu.
  • Murlun y Glowyr Arms.
  • Mainc stori y Blue Scar Club.
  • Mainc stori’r Clwb Rygbi.
  • Mainc portreadau

Sut i Ymuno â’r Llwybr

Cyfarwyddiadau Gyrru i Faes Parcio Rhyslyn

Gadael yr M4 (C40) a dilyn yr A4107 i gyfeiriad Parc Coedwig Afan. Troi i’r chwith ar y gylchfan fach, ymlaen drwy ddau set o oleuadau traffig a throi i’r chwith ar y B4287 i gyfeiriad Pontrhydyfen. Troi i’r dde’n siarp yn union cyn y draphont ddŵr.

Cyfarwyddiadau Gyrru i Ganolfan Gymunedol Cwmafan

Gadael yr M4 (C40) a dilyn yr A4107 i gyfeiriad Parc Coedwig Afan. Troi i’r chwith ar y gylchfan fach. Gyrru ymlaen a throi i’r chwith wrth y goleuadau traffig. Ar waelod y rhiw, troi i’r dde, a throi i’r dde eto pan fydd Clwb Rygbi Cwmafan yn union o’ch blaen.

Cludiant Cyhoeddus

Mae bysiau’n mynd i Bontrhydyfen, Oakwood a Chanolfan Gymunedol Cwmafan. Am wybodaeth ar gludiant cyhoeddus ffoniwch 0871 200 22 33 neu ewch i Traveline Cymru.

Llwybr Plentyndod Richard Burton

Llwybr Plentyndod Richard Burton:

Ewch heibio’r tai lle roedd Richard wedi tyfu i fyny, ac ewch i’r parc a’r llyfrgell lle roedd yn arfer mynd, y cyfan i gael ymdeimlad gwirioneddol o’i wreiddiau lleol.

Gorffennwch y daith yng nghanol tref Port Talbot, lle byddwch yn canfod mainc gyda’r gerdd ‘Mae Creadigrwydd yn Ddwfn o’n Mewn’, wedi’i ysbrydoli gan etifeddiaeth artistig Richard Burton.

Ffeithiau’r Llwybr
Lefel anhawster: Canolig
Caniatewch:  1 ½ – 2 awr ar gyfer y daith gyfan

Cychwyn: Maes parcio’r Orsaf. Nodwch nad oes meysydd parcio cyhoeddus yn agos i Barc Coffa Talbot. Mae modd parcio ar y strydoedd cyfagos; ond peidiwch â pharcio ar draws unrhyw ddreif neu fynedfa i lôn.

Pwyntiau o ddiddordeb 

  • Gwely Blodau Coffa Richard Burton ym Mharc Coffa Talbot.
  • Sinema ‘New Plaza’.
  • Parc Coffa Talbot.
  • Llyfrgell Taibach.
  • Archfarchnad Filco, gynt Cymdeithas Gyfanwerthu Gydweithredol Taibach.
  • Capel Bedyddwyr Smyrna, gynt Noddfa, Capel yr Annibynwyr Cymraeg.
  • Clwb Rygbi Taibach.
  • Heol Caradoc, lle oedd chwaer Richard Burton yn byw.
  • Heol Connaught, lle oedd Philip Burton yn byw.

Sut i Ymuno â’r Llwybr

Cyfarwyddiadau i Barch Coffa Talbot

Gadael yr M4 (C40) a mynd i gyfeiriad Port Talbot ar y gylchfan. Troi i’r chwith ar y troad cyntaf; rydych nawr ar Lôn y Parc (i’r Gogledd o Barc Coffa Talbot) lle mae modd parcio ar y stryd. O’r fan hon, gallwch droi i’r dde i Heol Theodore a dilyn y ffordd i’r pen lle mae rhagor o le i barcio ar y stryd.

Cludiant Cyhoeddus

Mae bysiau’n mynd i Barch Coffa Talbot. Am wybodaeth ar gludiant cyhoeddus ffoniwch 0871 200 22 33 neu ewch i http://www.travelinecymru.info

Hanes Richard Burton

Ganwyd Richard Walter Jenkins ar 10fed Tachwedd 1925 ym Mhontrhydyfen, pentref yn swatio mewn cwm tawel y tu allan i Bort Talbot; Richard oedd y deuddegfed o dri ar ddeg o blant.

Dim ond dwy oed oedd Richard, gafodd ei enwi ar ôl ei dad a’i dad-cu, pan gollodd ei fam i septicaemia. Glöwr oedd tad Richard, ‘Dic Bach’, a daeth yn alcoholig yn fuan wedi colli ei wraig, gan adael Richard i gael fagu gan ei chwaer hŷn Cecilia a’i gŵr Elfed. Roedd eu cartref yn Taibach, Port Talbot, ac felly symudodd Richard yn agosach at galon y dref ddur. Yn siaradwr Cymraeg balch, mwynhaodd Richard blentyndod llawen yn y gymuned glos.

Yn 11 oed, pasiodd Richard arholiad yr ysgoloriaeth i fod y cyntaf yn ei deulu i gael ei dderbyn i’r Ysgol Ramadeg leol. Yma y dechreuodd actio mewn cynyrchiadau ysgol, gan gynnwys rôl yr Athro Higgins yn Pygmalion. Yn bwysicach fyth, dyma lle y cyfarfu â’r athro a fyddai’n newid ei fywyd: Mr Philip Burton.

Cefnogodd Philip Burton freuddwydion Richard o fod yn actor, gan ei helpu i hyfforddi ei lais i feddalu ei acen Gymraeg pan oedd yn siarad Saesneg. Byddai’r ddau yn aml yn mynd i ben Mynydd Margam fel y gallai Richard ymarfer ei lais.

Er mwyn helpu Richard ymhellach, yn 1943 daeth Philip Burton yn warcheidwad cyfreithiol iddo – a daeth Richard Jenkins yn Richard Burton. Roedd bod yn ‘fab i athro ysgol’ wedi gwella ei gyfleoedd i fynd i Brifysgol Rhydychen, lle treuliodd chwe mis fel rhan o gwrs hyfforddi’r RAF gan berfformio mewn llawer o gynyrchiadau. Tra roedd yn Rhydychen, anfonodd Philip Burton hysbyseb o’r Western Mail ato oedd yn chwilio am actorion ifanc o Gymru, ac arweiniodd hyn at ymddangosiad cyntaf Burton ar y llwyfan yn serennu yn The Druid’s Rest yn Theatr St Martin’s yn Llundain yn 1943.

Ar ôl cael ei ddadfyddino o’r RAF yn 1947, perfformiodd Burton yn The Last Days of Dolwyn a ddarlledwyd ym mis Ebrill 1949, wedi’i wnaed gan British Lion Films. Ar y set, cyfarfu â’i wraig gyntaf, Sybil Williams.

Cyn bo hir, roedd seren Burton ar gynnydd: symudodd ef a Sybil i Lundain, lle dechreuodd ymddangos yn theatrau’r West End a phortreadu arwyr a dihirod Shakespeare yn Theatr Goffa Stratford. Yn 1953 gwrthododd gontract gwerth miliwn o ddoleri (sy’n cyfateb i oddeutu $11m heddiw) i ennill £150 yr wythnos yn perfformio Shakespeare yn Theatr Old Vic Llundain.

Erbyn y 1950au roedd yn dod yn brif ddyn ym myd y theatr ym Mhrydain, a daeth yn rhan o hanes darlledu pan chwaraeodd y Llais Cyntaf yn Under Milk WoodRoedd sain addfwyn a cherddorol ei lais yn ei gadarnhau fel perfformiwr llais eithriadol, ac mae cysylltiad agos rhwng ei lais â gwaith Thomas hyd y dydd heddiw.

Wrth iddo barhau i lwyddo, ni allai Burton anwybyddu’r galwadau o Hollywood. Yn 1952 serennodd yn ei ffilm stiwdio gyntaf, My Cousin Rachela enillodd enwebiad Oscar iddo am yr Actor Cefnogol Gorau. Daeth rolau wedyn yn Desert Rats, The Robe, Alexander the Great a Look Back in Anger ond y ffilm Cleopatra ei fywyd a’i yrfa. Yn serennu gyferbyn ag Elizabeth Taylor, a fyddai’n dod yn ail wraig iddo, daeth Burton yn enw cyfarwydd i bawb pan gafodd y ffilm ei dangos am y tro cyntaf.

Hyd yn oed wrth iddo ddod yn rhan o’r pâr enwocaf yn y byd, ni wnaeth Burton anghofio ei wreiddiau Cymreig. Byddai’n dod yn ôl yn rheolaidd i Taibach ym Mhort Talbot, gan enwi ei gartref yn y Swistir ‘Le Pays de Galles’ hyd yn oed, pan symudodd i ranbarth Alpaidd Céligny yn 1957.

Enillodd ei yrfa ffilm – gan gynnwys perfformiadau yn The VIPs, Becket, The Night of the Iguana a Who’s Afraid of Virginia Wolf? – saith enwebiad Oscar iddo. Tra parhaodd ei yrfa i ffynnu, byddai’n gweud amser i’w deulu – gan fagu ei ferched Kate, Maria, a Jessica, a’i lys-feibion Michael a Christopher.

Yn 1976, yr flwyddyn y priododd Hunt, aeth Burton i Broadway i serennu yn Equus a pherfformio yn y ffilm o’r ddrama. Daeth yn ôl i Gymru hefyd, i ymweld â’r Miners Arms ym Mhontrhydyfen (cartref Clwb Rygbi Pontrhydyfen erbyn hyn) lle agorodd ystafell er cof am ei dad. Yn 1982, cyfarfu â Sally Hay, ei bedwaredd wraig, a phriododd y ddau ym mis Gorffennaf 1983.

Er gwaethaf dirywiad yn ei iechyd yn gynnar yn yr 1980au, parhaodd Burton i berfformio. Roedd ei rôl olaf gyferbyn â’i ferch hynaf Kate, yn y gyfres deledu Ellis Island.

Bu farw gartref yn y Swistir, o waedlif sydyn ar yr ymennydd, ym mis Awst 1984. Cafodd ei gladdu yn gwisgo ei hoff liw, coch, gyda gweithiau ei hoff fardd Dylan Thomas wrth ei ochr.

Yn y gwasanaeth coffa a gynhaliwyd yng Nghapel Pontrhydyfen daeth miloedd o fynychwyr i anrhydeddu’r seren oedd wedi parhau i fod yn hynod falch o’i dreftadaeth Gymreig drwy gydol ei oes. Dywedir iddo ddweud ‘Rwy’n credu bod [fy llais] wedi’i fuddsoddi gyda glo mân a glaw neu rywbeth – llais fy mhobl yw’r llais’.

Mae perfformiadau llais, llwyfan a sgrin Richard Burton wedi ennill statws eicon iddo: gan fynd â Chymru i’r byd fel perfformiwr yn Hollywood. Ar 1af Mawrth 2013, rhoddodd cyd-seren ffilm o Bort Talbot, Michael Sheen, araith gyffrous wrth iddo ddadorchuddio’r deyrnged i Richard Burton ar Walk of Fame Hollywood, yn dathlu etifeddiaeth a chyfraniad bythol Burton i gelfyddydau rhyngwladol.

Hoffem gydnabod a diolch i'r canlynol am eu cefnogaeth a'u cymorth amhrisiadwy yn datblygu Llwybrau Richard Burton:

Hoffem gydnabod a diolch i’r canlynol am eu cefnogaeth a’u cymorth amhrisiadwy yn datblygu Llwybrau Richard Burton:

Cyflenwyr:

  • 35percent – rheoli prosiectau, dylunio ac adeiladu
  • David Ogilvie Engineering – gwaith celf dur
  • Creative Metal Art – gwaith celf dur Port Talbot
  • Owen Staton – trosleisio
  • Llinos Daniels – trosleisio
  • Blackbox AV –cynhyrchu ffilmiau
  • Wales Voiceover – cynhyrchu sain
  • Leach – ffabrigo
  • Andiamo – cyfieithwyr
  • reTHINK PR & Marketing – marchnata

Delweddau:

  • Archifau Richard Burton a Chasgliad Glofa De Cymru ym Mhrifysgol Abertawe
  • Casgliad Gŵyl Burton Bont
  • Stiwdio Canal
  • Cymdeithas Hanes Port Talbot
  • Topfoto
  • Alamy
  • Camera Press Llundain
  • Getty

Hoffem gyfeirio at a diolch i awduron y llyfrau a’r gwefannau canlynol rydyn ni wedi eu defnyddio i helpu i ddatblygu Llwybrau Richard Burton.

The Actors’ Crucible: Port Talbot and the Making of Burton, Hopkins, Sheen and All the Others gan Angela V. John, (Parthian, 2015).

Rich: The life of Richard Burton gan Melvyn Bragg (Gwasg Prifysgol Yale, New Haven a Llundain, 1988).

The Richard Burton Daries, golygydd Chris Williams © 2012 Prifysgol Abertawe 

Gwefannau: