Darganfod Ein Hardal
Edrychwch yn ofalus ac fe welwch ysbryd cenedin Mae popeth y mae pobl yn ei fwynhau ac yn ei ddisgwyl gan Gymru yn fyw yma yn sir Castell-nedd Port Talbot.
Mae’n lle eithriadol amrywiol, ac yn fan cyfarfod i ddwyrain trefol a gorllewin gwledig Cymru. Mae’r cyfuniad o gymoedd ac arfordir, sgydau a thonnau, harddwch a gwytnwch, yn creu profiad annisgwyl a bythgofiadwy.
Y ffordd orau o werthfawrogi tirweddau ein harfordiroedd a’n cymoedd yw gadael y car a gweld drosoch eich hunan beth sy’n gwneud hon yn ardal unigryw. Mae beicio mynydd, beicio, cerdded a syrffio i gyd i’w hargymell yn fawr fel ffyrdd gwych o brofi cyferbyniadau naturiol a diwydiannol cynhenid ein hardal.
Mae Castell-nedd Port Talbot yng nghanol De Cymru, sy’n golygu bod ein hardal yn ganolbwynt delfrydol i archwilio’r rhanbarth cyfan. Mae prifddinas Caerdydd yn gyfleus o agos, gyda chysylltiadau trafnidiaeth gwych â digwyddiadau chwaraeon pwysig, cyngherddau a siopa yng nghanol y ddinas.
Mae Gŵyr, Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, arfordir Sir Benfro, ac encilfannau gwledig ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a Sir Gaerfyrddin i gyd o fewn 30-40 munud yn y car o dirweddau dramatig ein hardal ninnau.
Attractions
Food & Drink
Activities
AccommodationLLEOEDD I AROS
Angen rhywle i roi eich pen i lawr ar ôl diwrnod prysur? Gadewch i ni eich helpu i gael hyd i lety addas.
MANNAU I YMWELD Â NHW
Ydych chi’n chwilio am ddiwrnod o hwyl i’r teulu? Gwiriwch ein hatyniadau yma.
GWEITHGAREDDAU AC ATYNIADAU
BEICIO MYNYDD
Mae’r trac sengl ym Mharc Coedwig Afan yn llawn troeon, gwreiddiau, creigiau, ac mewn mannau yn frawychus o agored, felly mae wrth fodd selogion beicio mynydd. Mae’r llwybrau yma wedi cael eu torri o dirlun a fu gynt yng nghanol y pyllau glo, ond bellach mae’r cwm wedi cael ei drawsffurfio’n nefoedd i feicwyr.
BEICIO
Ein Teithiau Cerdded
Gall cerddwyr fwynhau ochr wyllt y sir – rhaeadrau a choetir, cefn gwlad ac arfordir.