LLEOLIADAU CELF A THEATRAU
Castell-nedd Port Talbot yw ffwrnais greadigol Cymru. Mae rhywbeth am yr ardal hon yn ysbrydoli pobl i greu pethau hardd.
Mae gan Gastell-nedd Port Talbot hanes cyfoethog o feithrin creadigrwydd. Mae ei theatrau, orielau a gofodau perfformio yn dod â phobl at ei gilydd i fwynhau popeth o ddrama a chomedi o safon byd i gerddoriaeth fyw, ffilm, dawns a chelfyddydau cymunedol. Mae pob un o leoliadau’r sir yn cynnig rhywbeth unigryw, yn adlewyrchu cymeriad eu trefi a’r cymunedau o’u cwmpas.
Mae Neuadd Gwyn yng Nghastell-nedd yn hwb diwylliannol bywiog lle gallwch fwynhau popeth o gynyrchiadau theatr a cherddoriaeth fyw i’r ffilmiau diweddaraf. Gyda nifer o ofodau sgrinio gwahanol a bar caffi agored a golau o fewn ei atriwm gwydr, mae’n lle gwych i ymlacio cyn neu ar ôl y sioe.
Mae Canolfan y Celfyddydau Pontardawe yn ganolog i fywyd creadigol Cwm Tawe, yn cynnig cymysgedd o sinema, comedi, dawns, drama, arddangosfeydd a cherddoriaeth fyw. Mae ei ddosbarthiadau a’i weithdai rheolaidd yn helpu i ddod â phobl at ei gilydd a chadw’r celfyddydau’n ffynnu yn y gymuned.
Mae Theatr y Dywysoges Frenhinol ym Mhort Talbot, sydd fel arfer yn adnabyddus am groesawu cynyrchiadau teithiol mawr a pherfformiadau lleol poblogaidd, ar hyn o bryd wedi cau ar gyfer gwaith adnewyddu mawr. Y nod yw ail-agor yn gynnar yn 2027 gyda gofod newydd yn barod i dderbyn cynulleidfaoedd unwaith eto.
Mae Artwalk Port Talbot yn dod â chreadigrwydd allan i’r awyr agored, gan arwain ymwelwyr drwy gasgliad cynyddol y dref o furluniau lliwgar a gweithiau celf cyhoeddus. Mae’n gyfle i ddod i adnabod y strydoedd mewn ffordd newydd ac i weld sut mae artistiaid lleol wedi gwneud eu marc.
Mae Oriel Heol y Frenhines yng Nghastell-nedd yn ychwanegu mwy y ddyfnder fyth i gynnig celfyddydau gweledol yr ardal, gan arddangos cymysgedd o waith gan artistiaid Cymreig sefydledig a rhai sy’n cychwyn ar eu gyrfa. Mae arddangosfeydd, cystadlaethau a gofodau creadigol sy’n canolbwyntio ar y gymuned yn ei gwneud yn fan deniadol i unrhyw un sydd â diddordeb mewn celf.