Pethau i’w Gweld a’u Gwneud

Gan fod byd natur wedi darparu maes chwarae mor dda i ni, byddai’n ffôl peidio â rhoi cynnig arno.

Mae Castell-nedd Port Talbot yn cynnig cymysgedd eang o bethau i’w gweld a’u gwneud, gydag opsiynau i siwtio pob math o gyflymder. P’un a ydych chi’n mwynhau’r awyr agored, bod yn actif, canfod diwylliant lleol neu dim ond mwynhau’r golygfeydd, mae digon o ffyrdd i siapio eich diwrnod allan perffaith. O deithiau cerdded hamddenol a mannau i fwynhau golygfeydd panoramig i draethau, coedwigoedd, atyniadau a gofodau creadigol, mae yna wastad rywbeth i’w ddarganfod.

Bydd y rhai sy’n chwilio am antur yn canfod llwybrau beicio mynydd penodedig ym Mharc Coedwig Afan, yn amrywio o gylchoedd hamddenol drwy’r coed i adrannau mwy technegol ar gyfer beicwyr hyderus. Ar yr arfordir, mae pen dwyreiniol Traeth Aberafan yn ddewis poblogaidd i syrffwyr pan fydd yr amodau’n iawn.

Ynghyd â gweithgareddau ac atyniadau, byddwch hefyd yn canfod digon o lefydd i fwyta, yn cynnwys caffis ar lan y môr, ystafelloedd te cysurus, tafarnau lleol a bwytai ymlaciol, gan ei gwneud hi’n hawdd cynllunio diwrnod allan llawn.

Defnyddiwch yr hidlyddion isod i bori pethau i’w gweld a’u gwneud. Mae hidlydd croesawu cŵn hefyd a map rhyngweithiol i’ch helpu i ganfod lleoliad pob gweithgaredd, pob lle i fwyta a phob atyniad.

Canol Tref Pontardawe

Pontardawe

Cewch hyd i Bontardawe yng nghanol Cwm Tawe, mae pont hanesyddol yn arwain ati, a phrif dirnod y dref yw…

Canol Tref Port Talbot

Port Talbot

Tyfodd Port Talbot o’i wreiddiau diwydiannol diolch i’w safle ar yr Afon Afan, a heddiw mae canol y dref yn…

Canolfan Ymwelwyr Parc Coedwig Afan

Cynonville Port Talbot Neath Port Talbot SA13 3HG

Yng nghanol y parc, y ganolfan ymwelwyr yw man cychwyn llwybrau beicio mynydd Rookie, Blue Scar, Penhydd, a hefyd Y Wal, lôn…

Dyffryn Cwm Du

James St, Pontardawe, SA8 4LR

Mae’r dyffryn coediog hyfryd hwn yn arwain o’r Groes yng nghanol Pontardawe, ac yn daith gerdded hardd ar hyd nant…

Franco’s Fish Bar

The Princess Margaret Way, Port Talbot SA12 6QW

Mae Pysgod a Sglodion bob amser yn blasu’n well ger y môr, ac mae Bar Pysgod Franco wedi bod yn…

Glan Môr Aberafan

The Princess Margaret Way, Port Talbot.

Gyda’i dair milltir o dywod euraidd sy’n syrthio’n raddol i ddyfroedd Bae Abertawe, mae Traeth Aberafan yn berffaith ar gyfer…

Gwaith Tun a Rhaeadr Aberdulais, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol

Aberdulais Falls, Main Road, Aberdulais, Neath

Mae Rhaeadr Aberdulais yn dirnod naturiol trawiadol sydd i’w ganfod o fewn Gwaith Tun hanesyddol Aberdulais, safle lle mae diwydiant…

Gweithgareddau Teuluol ar gyfer Anturiaethwyr Awyr Agored

Castell-nedd Port Talbot

Mae Calon Ddramatig Cymru’n cynnig maes chwarae antur naturiol drwy gydol y flwyddyn: gallwch ddal y tonnau yn yr haf,…

Llwybr Treftadaeth Cwm Dulais

Mae Llwybr Treftadaeth Cwm Dulais yn cynnig taith hardd drwy un o gymoedd mwyaf hanesyddol a llawn cymeriad Cymru. Yn…

Maes Parcio Rhyslyn

Pontrhydyfen, Port Talbot, SA12 9SG

Lleolir maes parcio Rhyslyn ger pentref Pontrhydyfen. Gyda golygfeydd ysgubol a bordydd picnic mae’n fan delfrydol i gael egwyl yn…

Margam Bark!

Margam Country Park, Port Talbot, SA13 2TJ

Croeso i Barth Ystwythder Cŵn newydd sbon Parc Gwledig Margam – gofod bywiog lle mae pawennau’n taro’r ddaear â llawenydd…

Memo Beach Café

The Princess Margaret Way, Port Talbot SA12 6QW

Memo Beach Café ar Draeth Aberafan sy’n gweini’r coffi annibynnol gorau yn yr ardal. Mae ardal fawr i eistedd yn…